5 dancers in a row with their arms in the air in circles

CDCCymru yn dangos Dream gan Christopher Bruce am y tro cyntaf ar ddiwrnod gwreiddiol Seremoni Agoriadol Gemau Olympaidd 2020

Mae Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru (CDCCymru) wedi cyhoeddi y bydd y Cwmni ar ddydd Gwener 24 Gorffennaf - y diwrnod yr oedd Seremoni Agoriadol Gemau Olympaidd 2020 i fod wedi digwydd - yn dangos ei ddarn dawns uchel ei barch, llon Dream, gan y coreograffydd enwog Christopher Bruce, CBE, ar Facebook ac YouTube.

Bydd CDCCymru yn darlledu ar Facebook ac YouTube Dream, ffilm 23 munud a gomisiynwyd yn wreiddiol fel rhan o'r Olympiad Diwylliannol yn 2012.

Mae CDCCymru eisiau nodi'r hyn fyddai wedi bod yn ddechrau Gemau Olympaidd 2020 drwy gynnig profiad Olympaidd drwy ddawns. Mae Dream yn llawn cyfeiriadau at ddyddiau mabolgampau mewn ysgolion a phartïon stryd ers talwm gyda mamau, tadau a chymdogion yn codi cywilydd ar eu plant yn y ras wy ar lwy a'r ras sachau..

Ysgrifennodd y coreograffydd Christopher Bruce CBE yn ei nodiadau rhaglen gwreiddiol, "Gyda Gemau Olympaidd 2012 yn digwydd yn ystod blwyddyn Jiwbilî'r Frenhines, cefais fy hun yn meddwl yn ôl i bartis stryd dathliadol y 1950au cynnar.

Mae llawer o debygrwydd rhwng hyfforddiant athletwyr a dawnswyr, ond gyda phob cystadleuydd a pherfformiwr mae'n dechrau gyda breuddwyd y mae'n rhaid iddyn nhw weithio'n galed i'w gwireddu. Felly, mae'n cydnabod dau ddigwyddiad pwysig ym mywyd Prydain, Gemau Olympaidd 2012 a'r Jiwbilî. Fodd bynnag, mae'n ddathliad o bleser pur symudiad hynod gorfforol yn ei holl ffurfiau."

Mae'r goleuadau sepia a gwisgoedd 'fintej' y 1950au yn bwrw'n ôl i ddyddiau dathliadau'r Jiwbilî a ffeiriau haf. Mae Dream wedi'i osod i Bolero and Lent, Ravel, symudiad olaf Valses Nobles et Sentimentales ac yn gorffen gyda'r ail symudiad o Penillion gan y cyfansoddwr Cymreig Grace Williams.

Crëwyd Dream yn wreiddiol yn 2012 fel rhan o GB Dance – sy'n dangos y ddawns orau o bob cwr o Gymru, Lloegr a'r Alban. Aeth ymlaen i deithio ledled y DU yn 2012 cyn ymweld â Tsieina yn ddiweddarach y flwyddyn honno.

Dywedodd y Cyfarwyddwr Cyswllt, Lee Johnston, a oedd yn ddawnsiwr gyda CDCCymru yn Dream yn 2012, "Roedd Dream yn bleser pur i’w berfformio, wrth i Folero Ravel ddatblygu, felly hefyd y wefr ddofn ymysg y dawnswyr a’r gynulleidfa – gallem deimlo pawb yn dawnsio pob eiliad gyda ni wrth i ni garlamu o nofio i rwyfo i dennis, gan ragweld pryd y byddai chwerthin a chymeradwyaeth yn tanio ac yn atseinio drwy’r awditoriwm. Rydym mor falch o’i gyflwyno i’r llwyfan digidol, i nodi’r achlysur pryd y byddai’r Gemau Olympaidd wedi cael eu cynnal, gan gynnig y profiad dawns Olympaidd ysgogol hwn ar adeg pan mae  ychydig o lawendd yn hanfodol”.

Mae Dream yn cael ei ddarlledu fel rhan o raglen ddigidol KiN:Ar-lein CDCCymru, sydd wedi bod yn rhannu cynnwys ar gyfer cynulleidfaoedd, cyfranogwyr ac artistiaid i ymddiddori ynddo. Mae Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru wedi bod yn arddangos llawer o'i gynyrchiadau ar-lein am y tro cyntaf i gynulleidfaoedd gan gynnwys Afterimage (gan Fernando Melo), Rygbi: Annwyl i mi/ Dear To Me (Fearghus Ó Conchúir) yn ogystal â fersiwn ffrydio byw Zoom o 2067: Time and Time and Time Alexandra Waierstall, pan unodd y dawnswyr er mwyn creu darn dawns o'u cartrefi.

Yn ogystal â serennu Cyfarwyddwr Cyswllt presennol CDCCymru, mae Dream hefyd yn serennu cyn ddawnswyr CDCCymru Neus Gil Cortés, Annabeth Berkeley, Camille Giraudeau, Eleesha Drennan (Enillydd ysgoloriaeth Sky Academy Arts), Naomi Tadevossian, Gareth Mole, Joe Perou, Matteo Marfoglia, a Nicholas Bodych yn y ffilm sy'n dyddio i 2012.

Darlledir Dream ar ddydd Gwener 24 Gorffennaf am 7pm, ar dudalen Facebook ac YouTube CDCCymru. Bydd hefyd ar gael drwy Hwb Digidol CDCCymru am 2 wythnos ar ei wefan ndcwales.co.uk.