Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru a Llenyddiaeth Cymru yn rhyddhau pedair fideo o’u cywaith dawns a barddoniaeth ar-lein Mae cywaith traws-gelfyddyd digidol Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru (CDCCymru) a Llenyddiaeth Cymru, Plethu/ Weave, wedi bod yn rhoi llwyfan i leisiau cyfoes Cymru drwy gyfrwng fideos byr. Dros yr wythnosau diwethaf, mae pedwar dawnsiwr o CDCCymru a phedwar artist annibynnol wedi eu paru â wyth bardd o Gymru i greu wyth ffilm fer ar gyfer cynulleidfaoedd ar lein. Wedi eu hysbrydoli gan eu straeon, lleoliadau, etifeddiaeth a’u cysylltiad â Chymru, mae’r beirdd a’r dawnswyr wedi bod yn creu fideos unigryw am yr hyn y mae’n golygu i fod yn rhan o Gymru gyfoes. Hyd yn hyn, mae pedair ffilm wedi eu rhyddhau, gyda’r diweddaraf wedi ei ryddhau ar ddydd Iau 17 Medi. Cafodd y ffilm gyntaf, ‘Hirddydd’, gan y bardd Mererid Hopwood a dawnsiwr CDCCymru Tim Volleman ei ysbrydoli gan Waldo Williams a sut y collodd pobl de Sir Benfro eu cartrefi mewn amgylchiadau tebyg i deuluoedd Epynt ger Aberhonddu. Yn ‘Ust’ gan Fardd Cenedlaethol Cymru, Ifor ap Glyn, a dawnsiwr CDCCymru Faye Tan, archwilir y syniad o harmoni perffaith rhwng geiriau a symudiadau. Cyhoeddwyd y ddwy ffilm gyntaf fel rhan o ŵyl ar lein yr Eisteddfod Genedlaethol, Gŵyl AmGen, cyn cael eu darlledu ar sianeli cyfryngau cymdeithasol Llenyddiaeth Cymru a CDCCymru ar ddechrau Awst. Crëwyd y drydedd fideo, ‘Triptych Part 1’ gan fardd Du sy’n byw yng Nghymru, Marvin Thompson, a’r dawnsiwr CDCCymru Ed Myhill, sydd o gefndir Prydeinig Gwyn. Mae’r fideo hwn yn ystyried perthynas Cymru â’r Fasnach Gaethwasiaeth draws atlantig. Yn ôl y bardd Marvin Thompson, “Mae Ed Myhill a minnau wedi creu ffilm wedi’i hysbrydoli gan fy ngherdd ‘Triptych.’ Mae’r gerdd hon yn ymateb i blac yn Aberhonddu sy’n coffau masnachwr caethweision. Cymerodd Ed Myhill adran gyntaf ‘Triptych,’ neges agored i Gyngor Tref Aberhonddu, a’i hailgymysgu dros drac sain a gyfansoddodd. Mae’r ffilm yn ymgorffori lluniau o gaeau ŷd, y môr a symudiad ein cyrff i ymhelaethu ar themâu o gaethiwo a distrywio ecolegol.” Mae’r bedwaredd fideo ‘Ble Mae Bilaadi?’ gan y bardd Hanan Issa a dawnsiwr CDCCymru Aisha Naamani wedi ei ysbrydoli gan eu hetifeddiaeth gymysg hwy, a’r cysylltiau a datgysylltiad â Chymru. Mae ‘Ble Mae Bilaadi?’ yn rhoi sylw i’r cyfosodiad rhwng bod yn fenyw aml-hil Gwyn / Arab yn byw yng Nghymru. Dywedodd Aisha Naamani, un o ddawnswyr CDCCymru: “Yr hyn oedd yn ddiddorol am y prosiect hwn oedd bod y ddwy ohonom wedi medru uniaethu ar y sail bod gan y ddwy wlad lle y daw ein hetifeddiaeth, Hanan – Irac, a minnau - Lebanon, hinsawdd wleidyddol sydd ddim yn ein galluogi i dreulio cymaint o amser yno ag yr hoffem. Mae’r rhannau yma ohonom yn gallu gwrthdaro, ac er cymaint yr hoffem fynd i’r llefydd yma, does byth amser addas, a hyd yn oed os yr awn, mae rhywun dan straen ac ar frys o ganlyniad i’r gwrthdaro a’r anhrefn sydd yn rhan annatod o’i hanes. “Mae Hanan wedi llwyddo i greu cerdd hyfryd a phwerus; mae hi’n dal hanfod y teimlad o berthyn i’r fan hyn, yn ogystal â’r hiraeth am rywle arall sydd yn hollol wahanol, nad oeddem wedi ei ddeall yn llawn wrth dyfu i fyny, a rhywbeth nad ydym ni o bosib bob tro’n ei ddeall ein hunain.” Mae’r pedwar fideo sydd ar ôl dal yn cael eu datblygu ar gyfer Plethu/Weave ac yn cael eu rhyddhau ym misoedd Hydref a Tachwedd. Mae CDCCymru wedi dethol pedwar artist dawns llawrydd: Shakeera Ahmun, Jodi Ann Nicholson, Joe Powell-Main a Jo Shapland, a fydd yn gweithio ochr yn ochr â’r pedwar bardd sydd yn weddill, sef Connor Allen, clare e. potter, Aneirin Karadog ac Elan Grug Muse. Dywedodd Lee Johnson, Cyfarwyddwr Cyswllt CDCCymru, “Mae’r prosiect Plethu/Weave yn cynnig cyfle i’r beirdd a’r artistiaid dawns i gysylltu drwy rannu’r un pryder a chwilfrydedd - a thrwy hyn gyfle i greu gwaith sydd yn rhoi golau i gwestiynau newydd, profiadau a straeon. Teimlais fod y pedair ffilm gyntaf yn ein hysgogi, ein goleuo, ac yn meithrin gobaith, ac mae bodolaeth y ffilmiau pwysig yma, a’r ffaith eu bod yn cael eu rhannu’n eang, yn codi calon.” Yn ôl Lleucu Siencyn, Prif Weithredwr Llenyddiaeth Cymru, “Mae Llenyddiaeth Cymru yn falch iawn o fod yn rhan o’r prosiect hyfryd hwn gyda Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru. Mae’r ddau gywaith cyntaf rhwng Ifor, Fay, Mererid a Tim, yn asiad perffaith, ac ry’n ni’n edrych ymlaen at weld gweddill y gwaith a ddaw o’r parau artistig nesaf. Mae dathlu diwylliant Cymru yn un o brif nodau Llenyddiaeth Cymru a pa ffordd well o wneud hynny na thrwy greu a rhannu’r cyweithiau creadigol hyn rhwng artistiaid talentog cyfoes Cymru, a fydd yn siŵr o brocio, diddanu a chyffwrdd cynulleidfaoedd newydd a phresennol llenyddiaeth a dawns.” Mae’r pedair fideo Plethu/Weave ar gael i’w gwylio ar lein trwy sianeli Facebook, Instagram a Youtube CDCCymru a Llenyddiaeth Cymru. Bydd y pedair fideo sydd yn weddill yn cael eu darlledu pob pythefnos ar lein fel rhan o KiN:Connected, rhaglen ddigidol CDCCymru ym mis Hydref a Tachwedd. Mae CDCCymru wedi bod yn arddangos nifer o’u cynyrchiadau ar lein am y tro cyntaf am ddim i gynulleidfaoedd fel rhan o’u rhaglen KiN:Connected ar lein, gan gynnwys Dream (Cristopher Bruce CBE), Rygbi: Annwyl i mi/ Dear To Me (Fearghus Ó Conchúir) yn ogystal â fersiwn llif byw ar Zoom o Clapping gan Ed Myhill.