Anthony Matsena looks over rehearsal

Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru yn enwi Anthony Matsena fel Artist Cyswllt newydd

Ar ddechrau 2020 cyhoeddodd Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru bartneriaeth gyffrous, newydd â'r dawnsiwr a choreograffydd Anthony Matsena.
Cafodd Anthony ei fagu yn Zimbabwe cyn symud i Abertawe yn 13 oed, lle dechreuodd fynychu gwersi dawns hip-hop, Affricanaidd a Chyfoes yn ogystal â gwylio CDCCymru yn perfformio, sef ei flas cyntaf ar Ddawns Gyfoes. Wrth i'w hyfforddiant fynd rhagddo, derbyniwyd Anthony i Ysgol Dawns Gyfoes Llundain, lle ddaeth yn goreograffydd cyffrous ac yn 'un i gadw llygad arno'.
Gwnaethpwyd ef yn Artist Cyswllt Ifanc gan Sadler's Wells yn 2018, ac yn 2019 gwahoddodd CDCCymru Anthony i greu comisiwn newydd ar gyfer taith y Cwmni o gwmpas Cymru: Roots. Roedd canlyniad y gwaith hwn, sef Codi, yn ddathliad o gymunedau Cymru yn dod ynghyd mewn amseroedd caled.  Yn dilyn ei lwyddiant, gwahoddwyd Anthony i ddod yn Artist Cyswllt i'r Cwmni gan y Cyfarwyddwr Artistig, Fearghus Ó Conchúir, a ddywedodd:

 

"Rwy'n hapus iawn fod y Cwmni yn gallu cefnogi Anthony, coreograffydd a gafodd ei fagu yng Nghymru ond y mae ei waith hyd yn hyn wedi cael ei weld fwy y tu hwnt i'r wlad. Rydym wedi cyflwyno ei waith coreograffi ledled Cymru yn ein taith Roots a gwyddom effaith ei egni, syniadau ac agwedd. Mae'r cysylltiad hwn yn golygu y gallwn adeiladu ar ein perthynas gydag ef a dod o hyd i fwy o gyfleoedd eto i Anthony gael rhannu ei waith â chynulleidfaoedd yng Nghymru a thu hwnt."

 

Ymatebodd Anthony:

"Mae bod yn rhan o dîm CDCCymru yn rhoi gymaint o lawenydd i mi. Mae'r cwmni wedi ac yn parhau i chwarae rôl enfawr yn fy natblygiad fel artist. Y rhan fwyaf gyffrous yw gweithio i gwmni mor agos at adref yng Nghymru."

 

Fel Artist Cyswllt gyda CDCCymru, bydd Anthony yn helpu'r Cwmni i fynegi, ehangu ac amrywio ei weledigaeth drwy berthnasoedd hirdymor sy'n sail i wahanol agweddau ar waith y Cwmni.

 

Gall yr Artistiaid Cyswllt, sy'n cael eu dewis gan y Cyfarwyddwr Artistig, weithio gyda'r Cwmni i greu darnau ar gyfer ei repertoire proffesiynol, ar gyfer ei Artistiaid Cyswllt Ifanc a rhaglenni eraill a gallant gyfrannu at weithgareddau Dysgu a Chyfranogi'r Cwmni. Fel rhan o'r berthynas, mae'r Artistiaid Cyswllt yn elwa o gymorth y Cwmni i ddatblygu eu prosiectau eu hunain.  

Ymuna Anthony â Matteo Marfoglia fel Artist Cyswllt yn CDCCymru a Caroline Finn fel Coreograffydd Preswyl.

 

Anthony Matsena

Ganwyd Anthony Matsena yn Bulawayo, Zimbabwe ac fe'i magwyd yn Abertawe, Cymru. Dechreuodd ddawnsio yn ifanc, gan hyfforddi yn yr arddulliau hip hop a dawns stryd. Yna dechreuodd hyfforddi mewn dawns gyfoes a bale yn 19 oed yng Ngholeg Gŵyr Abertawe, lle ymunodd â  County Youth Dance Company a Turning Pointe Dance Academy Abertawe. Mae Anthony wedi bod yn aelod cwmni o Ddawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru (NYDW), gan greu gweithiau a mynd â gweithiau ar daith gan Kerry Nicholls, Odette Hughes (Studio Wayne McGregor), Theo Clinhard, ac Eleesha Drennan. Drwy NYDW, perfformiodd Anthony aM (2015) gan Kerry Nicholls yn Sadler's Wells. Parhaodd Anthony â'i hyfforddiant yn Ysgol Dawns Gyfoes Llundain (LCDS), a bydd yn graddio yn 2018. Yn ystod ei hyfforddiant yn LCDS, mae Anthony wedi perfformio gwaith gan Ohad Naharin, Hofesh Shechter, Richard Alston, yn ogystal â pherfformio'n broffesiynol mewn gwaith gan Joseph Toonga ar gyfer Just Us Dance Theatre, ac yn fwyaf diweddar mewn drama newydd o'r enw 'Tree' gan Idris Elba a Kwame Kwei-Armah yn y Young Vic Theatre a Gŵyl Ryngwladol Manceinion. Mae Anthony yn gyd-sylfaenydd Matsena Performance Theatre gyda'i frawd Amukelani.