Terra Firma image

Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru’n neidio i mewn i 2018 gyda thaith newydd o gwmpas y DU o 8 Chwefror tan 13 Mai 2018

Mae pob un o’r tri choreograffydd sy’n cymryd rhan yn nhaith Terra Firmawedi ennill Cystadleuaeth Goreograffi Ryngwladol Copenhagen

·Bydd y daith o gwmpas y DU yn ymweld ag 16 o drefi a dinasoedd yng Nghymru a Lloegr

·Bydd Terra Firma yn rhedeg o 8 Chwefror tan 13 Mai 2018

·Gellir lawrlwytho delweddau a rhaglun o'r cynhyrchiad yma: Terra Firma

·Bydd taith y gwanwyn hefyd yn ymweld ag Awstria a’r Almaen fel rhan o uchelgais Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru i deithio’n rhyngwladol

 

Yn dilyn ei lwyddiant wrth lwyfannu’r cynhyrchiad uchelgeisiol P.A.R.A.D.E., mae Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru (CDCCymru) wrthi’n paratoi ei raglen newydd ar gyfer y gwanwyn, sef Terra Firma, ac mae wedi cyhoeddi 16 o ddyddiadau pan fydd y cynhyrchiad yn mynd ar daith i drefi a dinasoedd ar hyd a lled y DU, gan gychwyn ym mhrifddinas Cymru ar 8 Chwefror 2018.

Mae pob un o’r tri choreograffydd sy’n gyfrifol am y darnau dawns sy’n rhan o daith Terra Firma wedi ennill Gwobr Goreograffi Ryngwladol Copenhagen mewn gwahanol flynyddoedd.

I CDCCymru, mae dawnsio cyfoes yn ffordd o gyflwyno hen straeon mewn ffyrdd newydd, gan ddwyn ynghyd symudiadau egnïol, cerddoriaeth gofiadwy a golygfeydd hardd. Bydd y daith yn gam ar hyd y llwybr i wireddu uchelgais CDCCymru o deithio’n genedlaethol ac yn rhyngwladol, a chyflwyno gwaith gan y coreograffwyr rhyngwladol gorau. Mae’r cwmni’n parhau i gynnig rhagor o amrywiaeth drwy gyflwyno rhaglen ffres a deinamig i gyrraedd cynulleidfaoedd newydd.

Bydd Terra Firma yn mynd â chyfanswm o bedwar darn ar daith, gyda phob lleoliad yn llwyfannu tri o’r pedwar darn. Mae Terra Firma yn adrodd straeon a godwyd o’r union dir yr ydym yn adeiladu ein cymunedau arno.

Folk gan Caroline Finn

Stori dylwyth teg glasurol sy’n digwydd o dan ganghennau coeden ben i waered yw Folk. Mae dywediad Saesneg sy’n dweud ‘there’s nowt so queer as folk’, ac yn y portread swrrealaidd hwn o fywyd cymunedol, mae cymeriadau sarrug Caroline yn creu darlun ffantasïol. I gyd-fynd â’r coreograffi theatraidd a’r hiwmor tywyll, ceir trac sain hudolus a dyluniadau swynol, godidog. Folk oedd y darn cyntaf a greodd Finn ar gyfer CDCCymru a bu’n gyflwyniad llwyddiannus iawn o’n gwaith i’r British Council yng Ngŵyl Caeredin yn 2017.


The Green House gan Caroline Finn

Daw The Green House â’r tu allan i mewn; ar set rhaglen deledu debyg i un o rai Wes-Anderson, mae’r ‘sêr’ wedi eu dal mewn cylch diddiwedd. Mae’n hyfryd o gynhyrfus ac yn llawn cymeriad. Mae’r coreograffi llawn rhyfeddwch a chomedi tywyll sy’n nodweddiadol o waith Caroline yn gofyn y cwestiwn: “os byddwn yn gwneud yr un pethau drosodd a throsodd, sut y gallwn ddisgwyl canlyniadau gwahanol?”

 

Tundra gan Marcos Morau

Tirwedd ddiffrwyth yw Tundra, lle mae creadigedd hynod fodern yn dod yn fyw ac yn rhwygo tudalennau o lyfrau hanes dawnsio gwerin Rwsiaidd, yr Undeb Sofietaidd a chwyldroad. Mae arddull feiddgar Marcos Morau wedi’i ysbrydoli gan fyd celf a’r sinema. Mae Tundra yn cymryd hen syniadau ac yn defnyddio dawnsio cyfoes i roi ystyr newydd iddynt. Perfformiwyd Tundra am y tro cyntaf fel rhan o gynhyrchiad P.A.R.A.D.E. CDCCymru  yn 2017, a oedd yn un o brif ddigwyddiadau rhaglen Cymru-Rwsia ’17 a lwyfannwyd yng Nghaerdydd ac ym Mangor. Yn ddiweddar, enwyd Tundra yn ‘Gynhyrchiad Dawns Gorau 2017’ gan Wales Arts Review. Mae nawr yn dychwelyd i’r llwyfan fel rhan o daith Terra Firma ac mae cynulleidfaoedd ar binnau eisiau gweld y darn dawns arbennig hwn a grëwyd gan Marco Morau, gyda’i goreograffi unigryw, deniadol a berfformir gan ddawnswyr o’r radd flaenaf.

 

Atalaÿ gan Mario Bermudez Gil

Tŵr gwylio y mae modd gweld tiroedd pell i ffwrdd o bedwar pwynt arno yw Atalaÿ; dawns hudolus ag ôl cynhesrwydd ardal Môr y Canoldir arni. Gwelwn ddylanwad cefndir Sbaenaidd Mario Bermudez Gil a’i hyfforddiant yn Israel yn cyfuno â theatraeth hynod CDCCymru i greu darn llawn cymeriad a medr anhygoel.

 

Ym mis Ebrill, bydd y cwmni hefyd yn perfformio Terra Firma yn Awstria a’r Almaen.

 

Dywedodd Paul Kaynes, Prif Weithredwr Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru, “Mae hon yn daith sylweddol iawn i ni - 19 o leoliadau. Mae’n gyfle gwych i ni ddangos mor llewyrchus yw sîn ddawns Cymru, yn y DU yn ogystal ag yn yr Almaen ac Awstria. Mae’r tri choreograffydd - pob un ohonynt wedi ennill Cystadleuaeth Goreograffi Copenhagen - ymhlith yr artistiaid dawns gorau yn Ewrop. Maen nhw’n creu darnau dawns sydd â naws ddirgel, sy’n hoelio’ch sylw ac yn aros yn y cof. Rydyn ni’n ysu i gychwyn ar ein taith a rhannu’r gwaith gyda’n cynulleidfaoedd y gwanwyn hwn.”  

 

Ychwanegodd Caroline Finn, Coreograffydd Preswyl Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru, “Y tro cyntaf imi gwrdd â Marcos Morau oedd yn 2011 yng Nghystadleuaeth Goreograffi Ryngwladol Copenhagen lle bu i’r ddau ohonon ni ennill gwobr. Wedi hynny, fe groesodd ein llwybrau sawl gwaith wrth inni fynd yn ein blaenau i greu darnau yn Copenhagen. Yna, ym mis Awst 2016, roedd y ddau ohonon ni’n feirniaid yn yr union gystadleuaeth honno. Pleser o’r mwyaf oedd cael dyfarnu’r wobr am y cynhyrchiad gorau y flwyddyn honno, a phenderfynais - heb oedi - ei dyfarnu i Mario Bermudez Gil, gan ei wahodd i ddod i greu darn o waith i CDCCymru.”

Ychwanegodd, “Bydd pob darn sy’n rhan o'r daith yn gyfle, gobeithio, i’r gynulleidfa ymgolli mewn bydysawd hynod ddeniadol ac unigryw - yn gorfforol, yn weledol ac yn emosiynol. Mae pob darn wedi’i ysbrydoli gan dirluniau a chymunedau o bob cwr o’r byd.”

Yn ddiweddar, penodwyd Caroline yn Goreograffydd Preswyl y cwmni yn dilyn cyfnod o ddwy flynedd fel Cyfarwyddwr Artistig gyda’r cwmni. 

Bydd hefyd cyfle i gynulleidfaoedd gymryd rhan mewn gweithgareddau gyda Chwmni Dawns Cenedlaethol Cymru fel rhan o'r daith. Mae’r rhain yn cynnwys: 

Dewch i Ddarganfod Dawns - Y cyflwyniad perffaith i ddawns i bobl ifanc ac oedolion. Mae’n ddelfrydol ar gyfer pobl ifanc (7 mlwydd oed a hŷn) ac mae’n brofiad llawn hwyl lle gallwch ymuno a gwylio darn dawns, gan ddysgu sut beth yw bod yn ddawnsiwr.  

Gwylio Dosbarth Dawns - Cyfle i fraslunio, cymryd ffotograffau, dysgu mwy am gyfrinachau gefn llwyfan a gwylio’r dawnswyr wrth eu gwaith yn ystod y paratoadau ar ddiwrnod y sioe.

 

Sgwrs ar ôl Sioe - Cyfle i holi’r Cyfarwyddwr Ymarferion Lee Johnston a dawnswyr CDCCymru am eu gwaith a sut mae rhywun yn llwyddo i ddod yn ddawnsiwr i un o gwmnïau dawns mwyaf blaenllaw y DU.