Diogelu, dargadw a chreu Yn dilyn ein cais i'r Gronfa Adferiad Diwylliannol, pleser gennym oedd clywed yr wythnos ddiwethaf y byddwn yn derbyn y swm cyfan y gwnaethom gais amdano gan Gyngor Celfyddydau Cymru. Mawr ddiolch i'r staff a'r Cyngor. Bydd hyn yn ein caniatáu ni i barhau i fuddsoddi mewn creu gwaith dawns a gweithgarwch cyfranogiad yn y cyfnod heriol hwn. Rhyddhad hefyd oedd gweld nifer o'n cydweithwyr yn y sector, bach a mawr, ledled Cymru, yn cael eu cefnogi. Yn bennaf, bydd y cyllid hwn yn ein galluogi ni i ddiogelu a chadw swyddi ein gweithlu, gan gynnwys wyth dawnsiwr proffesiynol ac oddeutu 20 gweithiwr llawrydd yn ogystal â'n staff llawn amser a rhan amser, fel ein bod yn barod i berfformio'n fyw pan fydd hynny'n bosibl eto. Amcangyfrifir y gallai'r cyllid hwn helpu i ddiogelu o leiaf 1,800 o swyddi ar draws y celfyddydau yng Nghymru yn dilyn effaith uniongyrchol Covid 19. "Newyddion gwych oedd ein bod wedi sicrhau swm cyfan y cais i CCC am gyllid Adferiad - mae hyn yn ein diogelu ni pe na fyddwn yn gallu mynd ar daith y flwyddyn ariannol hon, ac am incwm arall sydd wedi'i golli. Boed ydym yn mynd ar daith ai peidio, mae ein cynulleidfaoedd a chyfranogwyr yn flaenllaw yn ein meddwl, ac os na allwn gwrdd â nhw mewn theatrau neu stiwdios dawns, rydym yn ymroddedig i rannu gwaith yn ddigidol dros y misoedd nesaf." Paul Kaynes, Prif Weithredwr CDCCymru. Byddwn yn cynnig ffrydio o ansawdd gwell i'n cynulleidfaoedd digidol drwy fuddsoddi mewn cyfarpar a hyfforddiant arbenigol, adeiladu ar y gwaith ysbrydoledig mae CDCCymru eisoes wedi bod yn ei wneud ar gyfer ein cynulleidfaoedd ar-lein ers dechrau'r cyfnod clo, gan gynnwys Clapping! a gafodd ei wneud yn arbennig ar gyfer llwyfan ddigidol, a'n partneriaeth gyda Llenyddiaeth Cymru, Plethu/Weave, yn paru wyth dawnsiwr o'r sector dawns annibynnol a'r Cwmni gydag wyth bardd a gafodd eu comisiynu i greu prosiectau ffilmiau digidol byrion. "Credaf eich bod wedi ymateb yn gyflym iawn ac yn gadarnhaol i ddarparu cynnwys digidol o safon ac rwyf wir wedi gwerthfawrogi'r sesiynau 'Gwylio gyda'n Gilydd' yn fawr yn ogystal â'r sesiynau Holi ac Ateb byw gydag aelodau'r cwmni. Nid wyf yn un am ofyn cwestiynau mewn sesiynau Holi ac Ateb ar ôl perfformiadau byw, ond roeddwn i rywsut yn teimlo rheidrwydd i gysylltu â phobl oherwydd eu bod i bob pwrpas yn fy nghartref. Diolch! Aelod o'r Gynulleidfa drwy Arolwg Digidol CDCCymru Gorffennaf 2020. Mae angen y cyllid ar y Cwmni i leihau colledion mewn incwm o deithio, cyfranogiad, llogi llefydd a chodi arian, a'n galluogi i greu gweithgarwch newydd gyda choreograffwyr, dylunwyr a dawnswyr llawrydd. Mae ffocws penodol ar greu cyflogaeth daledig i artistiaid llawrydd sydd wedi'u heffeithio'n arbennig yn ystod y cyfnod hwn. Rydym wedi bod yn gwrando ar beth mae artistiaid llawrydd wedi dweud wrthym sydd eu hangen arnynt, felly rydym wedi cynnig prosiectau wedi'u comisiynu, cyfleoedd ymchwil a datblygu gyda choreograffwyr rhyngwladol fel mentoriaid, datblygiad proffesiynol a chreu lle i ddadlau. Bydd y cyllid yn cael ei ddefnyddio yn y ffyrdd canlynol: 1. Addasu ein model teithio ar gyfer lleoliadau yng Nghymru i fodloni galw a'r angen i leihau capasiti. 2. Paratoi at fwy o deithio gyda gwaith awyr agored yng ngwanwyn 2021. 3. Galluogi'r Prif Ddawnsiwr Dysgu i ddatblygu gwaith cyfranogiad newydd a gweithio gyda'n llysgenhadon dawnsio ym mhob cwr o Gymru. 4. Cynnal gwaith i'n 6 llysgennad dawns llawrydd yng Nghymru a'n lleoliadau blaenoriaeth. 5. Darparu dwy raglen waith ar gyfer y sector dawns annibynnol: datblygiad proffesiynol Laboratori ar gyfer 8 coreograffydd sy'n creu gwaith yng Nghymru, a chomisiynau ar gyfer dawnswyr/coreograffwyr annibynnol. 6. Darparu gweithgarwch cyfranogiad ar-lein, gan gynnwys Dawns ar gyfer Parkinson's, gweithdai pobl ifanc, creu Cymdeithion (cwmni ieuenctid), ymchwil a datblygu ar gyfer gwaith gyda chymunedau yng Nghymoedd Cymru, darparu cyflogaeth i oddeutu 12 artist. 7. Ryddhau staff Datblygu i gynllunio ymlaen llaw. 8. Gwariant cyfalaf i wella ansawdd ffrydio o'r Tŷ Dawns ar gyfer gweithgarwch cyfranogiad 9. Glanhau trylwyr yn y Tŷ Dawns. Fel ymgeiswyr llwyddiannus y Gronfa Adferiad Diwylliannol, testun balchder gennym yw y gofynnwyd i ni gofrestru i 'Gontract Diwylliannol' - sydd wedi'i ddylunio i annog sefydliadau i gyrraedd mwy o bobl, gwella amrywiaeth eu byrddau a gweithlu, darparu cyfleoedd newydd i artistiaid llawrydd, ymrwymo i gyfraddau tâl teg, a gwella effaith amgylcheddol eu gwaith. Mae'r gwaith hwn yn hanfodol i ni wrth i ni barhau i amrywiaethu gyda phwy ydym yn gweithio o ran cymunedau, staff ac artistiaid, ac i bwy ydym yn creu gwaith. Os hoffech ddysgu mwy ynghylch sut gallwch chi gefnogi Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru yn ystod Covid-19, cysylltwch â'n Pennaeth Datblygu, Becky Wright, becky@ndcwales.co.uk