dancers warm up on stage whilst people watch

Dyddiadur: Canfod fy Rhythm a Gosod y Llwyfan

gan Bakani Pick-Up

Lluniau ar daith gan Bakani Pick-Up

Ffoto o Bakani gan Ellywel Photography 

Yn ddiweddar, newidiais o fod yn artist llawrydd i fod yn Gyfarwyddwr Artistig (ac yn Brif Swyddog Gweithredol ar y Cyd) Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru. Ymddengys fod y ddau brofiad yn hollol wahanol i’w gilydd; eto i gyd, maent yn debyg o ran y modd y deuir i gysylltiad â phobl. Rydym yn dawnsio, ac rydym yn dawnsio gydag eraill, er nad yw’r prosesau yr un fath. Mae pob newid yn y modd y caiff y celfyddydau eu cefnogi’n economaidd yn effeithio ar fywydau pobl. Ni waeth be fo’r raddfa, mae pobl wastad yn dod – naill ai’r un hen wynebau neu wynebau newydd. Yn anochel, mae dawns yn golygu rhywbeth i bobl mewn ffyrdd dynamig. Y tu ôl i’r holl weithgareddau ceir oriau di-rif o godi arian, cynhyrchu, cydlynu a chyflawni. Pleser pur nawr yw gallu defnyddio fy mhrofiadau blaenorol a’u cymhwyso at y rôl yma yng Nghymru wrth imi ddod ar draws pobl newydd sy’n dymuno ymwneud â dawns.

Wrth imi ddechrau’r siwrnai hon fel Cyfarwyddwr Artistig (a Phrif Swyddog Gweithredol ar y Cyd) gyda Chwmni Dawns Cenedlaethol Cymru, roeddwn eisiau cyfleu fy mhrofiadau cynnar a chyflwyno cipolwg ar sut rydw i’n canfod fy rhythm ac yn gweithio gyda’r tîm i osod y llwyfan ar gyfer y dyfodol. Felly, i ffwrdd â mi...

theatre clwyd

Ymunais â’r cwmni ar 15 Medi, ac erbyn 17 Medi roeddem wedi dechrau ar ein taith yn Theatr y Sherman, Caerdydd. Rydw i wedi treulio llawer o amser yn cyfarfod â sefydliadau partner, artistiaid a chefnogwyr y cwmni, ac rydw i wrth fy modd gyda’r holl gefnogaeth a gaiff y cwmni o bob cwr o Gymru, ac ar draws y ffin. Y tu ôl i’r llenni, caf fy amgylchynu gan bobl sy’n credu yn y potensial sydd gan ddawns i effeithio ar ansawdd bywydau pobl – er enghraifft trwy gyfrwng llawenydd, adloniant, dysgu neu gymdeithasu. Rydw i wedi bod yn lwcus i ysgwyddo rôl lle mae gan holl aelodau’r tîm gydberthnasau cryf gyda dawns, yn enwedig y potensial sydd gan ddawns i godi’r galon a’r ysbryd. Mae’n amlwg i mi fod Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru yn llysgennad, gan gynnig ffordd inni gyflwyno profiadau dawns, hyd eithaf ein gallu, o Fangor i Gasnewydd, o Ipswich i’r Almaen, a thu hwnt.

 

O ran yr hanesion a adroddwn, nid ydynt yn addo cyflwyno un safbwynt ynglŷn â’r Byd; yn hytrach, cyflwynant yr amryfal ffyrdd y mae pob un ohonom yn profi bywyd a chreadigrwydd. Caiff yr hanesion hyn eu llywio – naill ai mewn ffordd amlwg neu mewn ffordd isymwybodol – gan fywyd yng Nghymru a chan y bobl sy’n galw’r lle bendigedig hwn yn gartref, hyd yn oed am gyfnod byr. Rydw i wedi teithio fel arsyllwr i bob cyrchfan ar ein taith hyd yn hyn, felly rydw i wedi ymweld â lleoedd newydd yng Nghymru am y tro cyntaf. Rydw i wedi dod o hyd i gyfleoedd i gerdded trwy ddinasoedd a threfi, cyfarfod â phobl a mwynhau’r amgylchoedd diwylliannol sy’n amrywio o le i le. Fel Cyfarwyddwr Artistig mewn cwmni cenedlaethol, credaf ei bod yn hanfodol imi ennill dealltwriaeth trwy wrando, sgwrsio ac ymgysylltu â phobl ledled y wlad, ac mae’r daith yn cynnig cyfle amhrisiadwy imi wneud hynny.

Mae’r syniad y dylai ein gwaith fod yn amrywiol ac adlewyrchu bywyd a chreadigrwydd, a bod gweithiau gwahanol siarad â phobl mewn gwahanol ffyrdd, yn elfen amlwg yn y sgyrsiau a gefais gyda chynulleidfaoedd. Ymddengys i mi fod y safbwynt hwn yn hollbwysig: cynnal gweledigaeth sy’n dangos nad ydym yn creu gwaith ar gyfer un grŵp o bobl yn unig. Fel cwmni, gwyddom na all ein gwaith apelio at bawb yn llythrennol, ond nid yw hyn yn golygu na fyddwn yn ceisio rhannu gwaith sydd, mewn sawl ffordd, yn cyfleu themâu cyffredinol y gall y mwyafrif o bobl uniaethu â nhw. Wrth i’n rhaglenni esblygu dros y blynyddoedd, gobeithio y bydd modd dangos yn glir bod hyn wrth galon a chraidd ein penderfyniadau curadurol; ac y byddwn hefyd yn rhoi cynnig nawr ac yn y man ar herio disgwyliadau.

dancers in class with Faye Tan

Hyd yn hyn, rydw i hefyd wedi cael y pleser o addysgu dosbarthiadau ar gyfer dawnswyr y cwmni, pan fo amser yn caniatáu, a hefyd rydym wedi cael cwmni dawnswyr gwadd yn y stiwdio yn sgil ein dosbarthiadau agored, sydd wastad yn brofiad braf. Rydw i wedi treulio amser yn y stiwdio yn ystod ymarferion yn gwylio’r dawnswyr yng nghwmni Victoria, ein Cyfarwyddwr Ymarferion, wrth iddynt weithio trwy nodiadau a chaboli eu perfformiadau ar gyfer y daith. Llawenydd a braint wirioneddol yw cael gwneud hyn. Yn ogystal â’r amser a dreuliaf yn y stiwdio, rydw i hefyd wedi cymryd rhan mewn cyfarfodydd gweinyddol, gan ystyried ein gweithrediadau o ddydd i ddydd, cynllunio ble y byddwn y mis nesaf, a gweithio ar fireinio ein cynllun busnes a’n blaenoriaethau strategol a fydd yn ein helpu i bennu ble y dymunwn fod yn ystod y flwyddyn sydd o’n blaen, a thu hwnt. Er mwyn gallu gwneud hyn oll yn llwyddiannus ac yn gynaliadwy, rhaid i holl aelodau’r tîm weithio gyda’i gilydd, gan ddadansoddi a datrys problemau er mwyn dod o hyd i’r prosesau a’r arferion gweithio gorau.

Mae hyn i gyd yn bosibl yn sgil y ffaith bod y staff, yn eu rolau unigol, yn cyflawni’n gyson hyd eithaf eu gallu. Hefyd, rydw i wedi dod i amgylchedd sydd eisoes â’r cynhwysion iawn ar gyfer ein galluogi i gamu ymlaen a bod yn fentrus yn ein huchelgeisiau i barhau i archwilio ffyrdd gwahanol a chadarnhaol o weithio. Uwchlaw popeth arall, pan fethwn â chydnabod bod y cwmni hwn yn cael ei gynnal a’i sbarduno, yn gyntaf ac yn bennaf, gan nifer o bobl yn hytrach na chan un neu ddau o bobl yn unig, rydym yn colli llawer o’r manylion pwysig sy’n dal y cwmni hwn gyda’i gilydd.

technicians working on the stage

Deufis yn unig sydd wedi mynd heibio ers imi ysgwyddo’r rôl, ond gallaf ddweud y canlynol yn hyderus. Mae diwylliant a threftadaeth Cymru wrth galon a chraidd popeth a wnawn, ac felly y bydd pethau am byth. Rhaid inni barhau i ddod o hyd i ffyrdd newydd o amrywio ein safbwyntiau. Mae pobl eisiau gweld dawns, siarad am ddawns, a dawnsio ym mhobman yr ewch. Mae amser yn hanfodol ar gyfer gwneud penderfyniadau sy’n rhagweld ac yn cyflawni’r canlyniadau gorau o ran cynaliadwyedd; ac er mwyn gwneud hyn, rhaid inni weithio fel cymuned. Ac yn olaf, mae’n amlwg bod y celfyddydau’n wynebu risg ddifrifol o gael eu dihysbyddu nes cyrraedd sefyllfa pan fyddwn yn gweld llai a llai o bobl o gymunedau dosbarth gweithiol a chymunedau a ymyleiddiwyd, fel fi, yn ysgwyddo rolau fel y rhain ac eraill. Gyda’n gilydd, mae gennym lawer o waith i’w wneud i newid y posibilrwydd gwirioneddol hwnnw.

Felly, mae’n amlwg iawn i mi ein bod wedi dod o hyd i’n gilydd ar yr adeg iawn, ac rydw i’n edrych ymlaen yn fawr at gael mwynhau gweddill y siwrnai newydd hon gyda’n gilydd fel cwmni. Mae wedi bod yn ddechrau prysur, cyffrous a chynhyrchiol, a bydd y misoedd a’r blynyddoedd nesaf yn nodi pennod newydd a beiddgar yn hanes y cwmni.

Gobeithio bod y cipolwg byr hwn, a rennais ar ffurf dyddiadur byr, wedi bod yn ddiddorol i’w ddarllen, a gobeithio ei fod yn cynnig ymdeimlad o’r hyn rydw i wedi bod yn ei wneud. Yn fwy na dim, gobeithio y bydd yn eich annog i gadw mewn cysylltiad â ni wrth i’r dyfodol fynd rhagddo.

Diolch,
Bakani

Bakani Pick-Up headshot

Galeri
bows on stage after a performance
technical rehearsal on tour
technical rehearsal on tour
bows on stage after a performance