Fearghus Ó Conchúir yw Cyfarwyddwr Artistig newydd Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru Bydd Fearghus yn dechrau yn ei swydd newydd yn y hyfref (2018) gan ymuno â'r Prif Weithredwr, Paul Kaynes i arwain y sefydliad mwyaf blaenllaw ym myd dawns yng Nghymru ac i barhau i ddatblygu dawns mewn lleoliadau o bob math, gyda phobl o bob math, ar draws holl waith y Cwmni, yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Wrth drafod ei rôl newydd, dywedodd Fearghus Ó Conchúir "Mae'n anrhydedd i mi gael fy mhenodi i'r rôl hon yn Gyfarwyddwr Artistig Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru. Yr hyn sy'n rhoi'r mwyaf o gyffro i mi am y cwmni yw ein bod yn defnyddio dawns i fynegi gweledigaeth gynhwysol a chadarn o beth yw Cymru a beth all fod yn y dyfodol. Rwy'n ymuno â chwmni sydd am ddod â'i waith o'r llwyfan a'r stiwdio i bob math o lwyfannau eraill - o glybiau nos i glybiau cymdeithasol, o ysgolion i gartrefi gofal, ar-lein ac yn fyw. Rwyf am helpu'r cwmni i ddysgu gan bob math o bobl a llefydd ar draws Cymru ac i wneud cysylltiadau rhyngddynt a'r rhwydwaith dawns rhyngwladol lle mae Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru eisoes yn cynrychioli talent a photensial Cymru. " Mae gan Fearghus dros 20 mlynedd o brofiad fel coreograffydd, perfformiwr, athro a mentor, a'i waith diweddaraf oedd bod yn Gyfarwyddwr Artistig ar Brosiect Casement, un o brosiectau mwyaf Cyngor Celfyddydau Iwerddon fel rhan o ddathliadau canmlwyddiant Gwrthryfel y Pasg 1916. Bu 90,000 o bobl yn rhan o raglen amrywiol o ddigwyddiadau dawns ac roedd hefyd yn un o gyd-gomisiynau 14-18 NOW ar gyfer canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf. Cafodd Fearghus ei eni a'i fagu yn Iwerddon ac mae ei waith coreograffi wedi ei weld yn helaeth yn y DU, ledled Ewrop, yr Unol Daleithiau a Tsieina; mae wedi cydweithio gyda pherfformwyr, cyfarwyddwyr, cyfansoddwyr a chynllunwyr sydd wedi ennill nifer o wobrau. Mae hefyd wedi gweithio fel athro dawns i gwmnïau megis Adventures in Motion Pictures, Arc Dance, Cwmni a Bale Preljocaj, yn ogystal â bod yn ddarlithydd ar gyrsiau hyfforddi proffesiynol yn LCDS, Prifysgol Middlesex a'r London Studio Centre. Mae ganddo brofiad artistig helaeth ac mae wedi datblygu rhwydwaith rhyngwladol o gydweithwyr creadigol a phartneriaid o fewn y byd dawns ac yn ehangach. Mae gweithio gyda chymunedau amrywiol yn bwysig iawn iddo ac mae wedi datblygu prosiectau dawns mewn cymunedau LGBT a ffoaduriaid, gyda dawnswyr dros 50 oed, a chyda'r cwmni dawns integredig Gwyddelig, Croí Glan. Yn ogystal â bod yn Gymrawd ar Raglen Arweinyddiaeth Clore, mae gan Fearghus brofiad helaeth o weithio fel hwylusydd, hyfforddwr a chyfrannwr i Raglen Arweinyddiaeth Clore, wedi iddo gyfrannu at gyflwyno ei Chyrsiau Cymrodoriaeth, Cyrsiau Dwys i Arweinwyr a Chyrsiau i Arweinwyr Newydd am ddeng mlynedd a mwy. Mae hefyd wedi gweithio gyda Clore i gyflwyno'r Rhaglen Arweinyddiaeth Ddiwylliannol Uwch yn Hong Kong. Dywedodd Jane McCloskey, Cadeirydd Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru, "Rwyf fi a fy nghyd-aelodau ar y bwrdd wrth ein boddau bod Fearghus yn ymuno â'r cwmni ar gyfnod mor bwysig yn ei esblygiad. Mae'n dod â'i brofiad anhygoel fel arloeswr ac arweinydd mewn dawns gyfoes yn y DU ac yn rhyngwladol a bydd yn ein helpu i gadarnhau ein statws fel Cwmni Dawns Cenedlaethol i Gymru." Ychwanegodd Paul Kaynes, Prif Weithredwr Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru "Mae'r pawb yn y cwmni yn hynod frwdfrydig ynglŷn â phenodiad Fearghus. Mae ei hanes o arweinyddiaeth ryngwladol, ei ddiddordeb amlwg yn niwylliant Cymru a'n cyfraniad at ei gynnal ac ychwanegu ato, a'i ymrwymiad at gael mwy o amrywiaeth ymhlith pobl y celfyddydau yn golygu bod hwn yn benodiad a fydd yn ein helpu i gyflawni ein cynlluniau uchelgeisiol dros Gymru a byd dawns." Dywedodd Nick Capaldi, Prif Weithredwr Cyngor Celfyddydau Cymru, "Rydym wrth ein bodd bod Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru wedi gallu denu Cyfarwyddwr Artistig o safon Fearghus Ó Conchúir. Mae hwn yn benodiad cyffrous ac yn dod â rhywun i'r cwmni y bydd ei weledigaeth a'i egni yn llywio'r bennod nesaf yn ymdrechion creadigol Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru. Edrychwn ymlaen at ei groesawu i Gymru. " Bydd Fearghus yn ymgymryd â rôl y Cyfarwyddwr Artistig - rôl a lenwyd gynt gan Caroline Finn, sy'n parhau gyda'r Cwmni wedi iddi gael ei phenodi'n Goreograffydd Preswyl fis Rhagfyr diwethaf.