image of a live stream holding screen saying "the live stream will begin shortly" and a headshot of Anna Hainsworth
CDCCymru yn Cyflwyno

'Hawliau Cerddoriaeth'

"Streaming from lockdown, music sync licences" - gan Cynhyrchydd Teithiau a Phrosiectau Anna Hainsworth

"Streaming from lockdown, music sync licences" - gan Cynhyrchydd Teithiau a Phrosiectau  Anna Hainsworth

Postiodd ffrind i mi, sy'n chwarae'r bas dwbl yn broffesiynol, lythyr agored ar ei thudalen Facebook unwaith. Roedd wedi cael ei ysgrifennu gan un o'i ffrindiau sy'n gerddor, fel ymateb i gais a gafodd i ddefnyddio ei gerddoriaeth ar ffilm. Cafodd wybod 'nad oedd cyllideb ar gyfer cerddoriaeth' ond eu bod yn gobeithio'n fawr y byddai'n cytuno, ac yn addo'r manteision arferol y byddai'r ffilm yn eu cynnig o 'godi proffil'. Roedd ei ymateb yn ddeifiol a gwnaeth bwynt rhesymol iawn; gan fod elfennau eraill o'r ffilm, yn ôl pob tebyg, wedi cael eu cyllidebu, fel talu'r person gyda'r camera, a'r bobl ar y sgrin, a thalu am y brechdanau y cafwyd eu bwyta dros gyfnod y prosiect, pam nad oedd arian ar gyfer y gerddoriaeth?

Dechreuais feddwl am hyn wrth imi ddechrau dringo mynydd creigiog a dryslyd, a elwir yn 'hawliau cerddoriaeth'. Yn fy rôl fel Cynhyrchydd Teithiau a Phrosiectau Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru, rwyf bob amser wedi chwarae rhan wrth geisio'r caniatâd cywir i ddefnyddio cerddoriaeth yn ein perfformiadau byw, ond mae hyn fel arfer yn cynnwys ambell i neges e-bost yn ôl ac ymlaen gyda PRS neu gytundeb syml gyda chyfansoddwr. Yn nyddiau cynnar y cyfnod clo, wrth inni ddechrau sefydlu cynlluniau ar gyfer ein rhaglen ddigidol, roedd cwmpas yr hyn y mae hawliau cerddoriaeth yn ei olygu wrth ddod â'n gwaith i gynulleidfaoedd ar-lein wedi ehangu'n sydyn ac yn aruthrol. Roedd mwy neu lai yn cymryd drosodd fy ngwaith o ddydd i ddydd, y cyfan yr oeddwn yn teimlo fy mod yn ei wneud oedd pori drwy gronfa ddata PRS i gael gwybod pa gyfansoddwr/cyhoeddwr/awdur geiriau caneuon oedd â'r hawliau dros y myrdd o ganeuon sydd wedi eu cynnwys yn ein traciau sain dawns. Yn dilyn hyn, roedd rhaid ceisio canfod pa label oedd wedi gwneud y recordiad penodol yr oeddem am ei ddefnyddio, ond gan amlaf, roedd y label hwnnw wedi mynd i'r wal, felly roedd rhaid canfod pa un o'r labeli mawr sydd wedi cael yr hawliau (gweler Sony, Universal a Warner os ydych am arbed ychydig o amser).

Nid wyf yn arbenigwr o bell ffordd, ac nid oes gennyf unrhyw sylfaen gyfreithiol, ond yn y bôn yr hyn yr wyf wedi'i ddysgu yw hyn –

  • Os ydych eisiau dangos perfformiad byw neu berfformiad wedi'i recordio ar-lein sy'n defnyddio cyfeiliant cerddoriaeth i ryw fath o symudiad, animeiddiad, perfformiad theatraidd ac ati (yn hytrach na pherfformiad ar ffurf cyngerdd), mae angen rhywbeth a elwir yn 'drwydded gysain' arnoch. Yn llythrennol, lle mae'r gerddoriaeth wedi ei chyseinio â rhyw weithred arall.
  • Nid yw defnyddio cerddoriaeth, fel y nodir uchod, ar gyfer gweithdai neu weithgareddau addysgol, yn eich eithrio rhag gorfod cael trwydded. Mae rhai pobl yn nodi'r cymal eithrio 'defnydd teg', ond nid oes unrhyw sail gyfreithiol i hyn.
  • Os ydych yn defnyddio cerddoriaeth gan gyfansoddwr ac awdur geiriau nad ydynt wedi marw ers 70 mlynedd neu fwy, yna'r cyfansoddwr a'r awdur geiriau neu eu cyhoeddwyr sydd â'r hawl i'r gerddoriaeth. Sy'n golygu - mae angen ichi geisio eu caniatâd a thalu ffi drwydded, o bosib.
  • Os ydych yn defnyddio recordiad sydd wedi ei wneud o fewn y 70 mlynedd diwethaf, bydd yna label (un ai'r label gwreiddiol neu label rhiant) sydd â hawliau dros y recordiad hwn (prif hawliau). Sy'n golygu - mae angen ichi geisio eu caniatâd a thalu ffi drwydded, o bosib.
  • Bydd rhai cyfansoddwyr, awduron geiriau, cyhoeddwyr ayyb yn gwrthod rhoi caniatâd ichi ddefnyddio eu cerddoriaeth, hyd yn oed os ydych yn cynnig ffi.
  • Mae'r rhan fwyaf o artistiaid annibynnol rwyf wedi cysylltu â nhw wedi bod yn fwy na pharod i rannu eu cerddoriaeth am ffi resymol, ac yn aml, nhw sy'n berchen ar y prif hawliau. Felly, os ydych yn chwilio am gerddoriaeth fforddiadwy ar gyfer gwaith yn y dyfodol, mae artistiaid annibynnol yn opsiwn da.
  • Nid safleoedd cerddoriaeth sy'n rhydd rhag breindaliadau yw'r ateb i bopeth ychwaith. Fel arfer ar gyfer defnyddiau cysain, bydd ffi neu danysgrifiad i'w dalu o hyd, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen y print mân.
  • Mae hyn i gyd yn cymryd amser. Cefais wybod gan gynrychiolydd yn Sony y gall gymryd hyd at flwyddyn i gael yr hawliau i ddefnyddio trac sydd wedi ei recordio yn y 1960au.
  • Mae angen ichi ddilyn y pwyntiau uchod ar gyfer pob un darn o gerddoriaeth. Felly, hyd yn oed os oes gennych drac sain sy'n cynnwys 6 trac, ac mae gan bob un ohonynt gyfansoddwr neu gyhoeddwr a label, bydd angen ichi gael 12 set o ganiatâd ac o bosib, talu 12 ffi. Sy'n golygu - bydd yn cymryd amser ac arian i allu defnyddio un trac sain unigol.

Yn ystod yr wythnosau diwethaf, rwyf a chydweithwyr wedi bod yn pendroni a yw'r bobl sy'n defnyddio cerddoriaeth ar gyfer eu gwaith ar-lein wedi cael yr hawliau, a'r gwir yw, ni fydd rhai ohonynt wedi. Ac ni allaf esgus nad wyf wedi meddwl o bryd i'w gilydd, "Efallai fy mod yn gwastraffu'r holl ymdrech ac amser yma am ddim rheswm". Ond yna rwy'n meddwl am y post ar Facebook, ac am y cyfansoddwyr a'r bandiau sydd wedi hyfforddi ac ymarfer ac wedi ceisio eu gorau i greu cerddoriaeth rydym yn ei charu, ond sydd wedi dod mor hollbresennol nes ein bod yn ei chymryd yn ganiataol ac yn ei gweld fel rhan o'r dodrefn, yn hytrach na gwaith sydd â gwerth. Ac, yn anffodus, na, nid artistiaid unigol sydd angen inni eu talu, ond corfforaethau aml-genedlaethol. Ond rydym yn gwneud hyn bob dydd wrth brynu unrhyw fath o nwydd, felly pam ddylai pethau fod yn wahanol o safbwynt talu am gerddoriaeth?

Mae trwyddedu cerddoriaeth yn gymhleth, yn cymryd amser, ac weithiau'n ddrud. Ac nid ydym yn gywir bob tro. Ond os ydym yn gwerthfawrogi cerddoriaeth fel y dylai gael ei gwerthfawrogi, yna dylem ystyried hyn a chynllunio ein gwaith a'n cyllidebau yn unol â hynny. Pan ddaw'n fater o werthfawrogi'r celfyddydau a gwaith artistiaid, dylem fod yn arwain drwy esiampl.