MAE THEATR Y SHERMAN A CHWMNI DAWNS CENEDLAETHOL CYMRU YN DOD AT EI GILYDD I ANNOG DILYNWYR RYGBI I WISGO EU CRYSAU AR GYFER DAWNS Mae dilynwyr rygbi yn cael eu hannog i wisgo eu crysau er mwyn gwylio Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru yn Theatr y Sherman (20 a 21 Mawrth, 7.30pm) fel rhan o fenter newydd i ysgogi cynulleidfaoedd newydd i gael profiad o ddawns. Mae sioe KIN Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru sydd ar y gweill yn agor â darn o ddawns a ysgogir gan rygbi, a'r gymuned sy'n cefnogi ac yn cymryd rhan yn y gamp. Mae Rygbi: Yma / Here yn narn o ddawns hwylus 30 munud o hyd sy'n llawn gobaith, gogoniant a chyfeillgarwch. Mae'n dathlu'r balchder ac angerdd y mae chwaraewyr a dilynwyr rygbi yn profi gyda'i gilydd. Cafodd Rygbi ei lwyfannu am y tro cyntaf yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanrwst y llynedd, cyn mynd ar daith i Japan fel rhan o Gwpan Rygbi'r Byd. Mae Theatr y Sherman a Chwmni Dawns Cenedlaethol Cymru yn gweithio mewn partneriaeth nawr i roi cyfle i gynulleidfaoedd yng Nghymru nad ydynt wedi profi'r ddawns eto i weld y darn yn y Sherman am bris rhagarweiniol arbennig. Mae cynulleidfaoedd yn cael eu hannog i wisgo eu crysau rygbi i'r perfformiad (mae croeso i bob tîm!) ac i gael profiad o ddawns am £5 yn unig. Os ydynt yn hoffi Rygbi, sydd yn para am hanner awr, mae croeso iddynt ddychwelyd i'w seddau ar ôl y toriad er mwyn gwylio dau ddarn arall o ddawns yn rhad ac am ddim – Lunatic a 2067: Time and Time and Time. Er mwyn hawlio tocynnau gostyngedig, rhaid i chi fod yn archebu am y tro cyntaf er mwyn gweld dawns yn y theatr, a gallwch archebu o flaen llaw neu ar y dydd. Uchafswm y tocynnau y gellir eu prynu am £5 yw pedwar. Ceir hyd i'r holl delerau ac amodau ar wefan Theatr y Sherman https://www.shermantheatre.co.uk/hafan/ Yn ogystal â thocynnau gostyngedig ar gyfer perfformiadau'r nos, mae teuluoedd hefyd yn cael eu hannog i gymryd mantais o'r fenter ar gyfer perfformiad matinée Darganfod Dawns i’r Teulu ar 21 Mawrth am 1pm. Mae Darganfod Dawns yn gyflwyniad perffaith ar gyfer plant iau a'u teuluoedd, lle maent yn gallu cymryd rhan a dysgu rhai o'r symudiadau gyda'r dawnswyr, cyn gwylio'r darn Rygbi ar y llwyfan. Mae'n 90 munud o hwyl ar gyfer yr holl deulu. Gwisgwch eich crys rygbi ar gyfer Darganfod Dawns a phrynwch docynnau yn rhatach.