Noddwr y rhaglen Dawns ar gyfer Parkinson's yn ennill dwy Wobr Celfyddydau a Busnes Cymru Dyfarnwyd y Wobr Celfyddydau, Busnes a Hunaniaeth Brand i Western Power Distribution yng Ngwobrau Celfyddydau a Busnes Cymru eleni, am eu cefnogaeth werthfawr ac aliniad â sawl sefydliad celfyddydol yng Nghymru. I gydnabod ymhellach yr ystod eang o bartneriaethau celfyddydol y mae WPD wedi eu meithrin, enwyd hwy hefyd yn Fusnes y Flwyddyn Admiral. Dros y deunaw mis diwethaf mae Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru ac WPD wedi bod yn cydweithio ar eu prosiect Dawns ar gyfer Parkinson's ochr yn ochr ag English National Ballet, a ddechreuodd y rhaglen. Mae'r bartneriaeth wedi galluogi i'r rhaglen ehangu, o hwb unigol yng Nghaerdydd, i ail grŵp Dawns ar gyfer Parkinson's a arweinir gan CDCCymru yng Nghoed-duon, ac mae WPD wedi defnyddio'r llwyfan hwn i hyrwyddo eu Cofrestr Gwasanaethau â Blaenoriaeth. Cynigir y Gofrestr Gwasanaethau â Blaenoriaeth am ddim i'r rhai hynny sy'n fregus neu ag anghenion meddygol neu anableddau, ac mae'n darparu cymorth emosiynol ac ymarferol wedi ei deilwra yn ystod toriadau pŵer. Cymerodd WPD ran mewn sesiynau Dawns ar gyfer Parkinson's yng Nghaerdydd a Choed-duon, i ymgysylltu â'r cyfranogwyr mewn amgylchedd hamddenol a chyfeillgar, lle'r oeddent yn gallu siarad am y Gofrestr Gwasanaethau â Blaenoriaeth a rhannu'r llawenydd y mae dawns yn ei roi iddynt, a'r buddion y gall eu cynnig. Mae Celfyddydau a Busnes Cymru wedi cydnabod pa mor bwysig yw'r celfyddydau yn nhermau iechyd a llesiant a'r effaith y mae cymorth WPD yn ei chael ar gymunedau y mae'n eu gwasanaethu. Ymhlith wyth partner arall WPD mae Engage Cymru, Canolfan Gelfyddydau The Gate, Cerddoriaeth mewn Ysbytai a Gofal Cymru, Theatr Glan yr Afon, Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, Opera Ieuenctid Caerfyrddin a'r Cylch, Urdd Gobaith Cymru ac Amgueddfa Big Pit. https://youtu.be/PUbDw3Rv78c