Mae straeon rygbi, cymunedau mwyngloddio a charwriaethau angerddol wrth galon taith Roots newydd Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru yr Hydref hwn A hwythau newydd ddychwelyd o gefnogi sgwad Cymru yng Nghwpan Rygbi'r Byd yn Japan, yn perfformio eu gwaith newydd ar y thema rygbi, mae Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru yn paratoi i sgorio eu gôl fuddugol nesaf; i sicrhau y gall bawb fwynhau eu gwaith, yng Nghymru gyfan, fel gall pawb ledled y genedl deimlo bod croeso yma a chael eu hysbrydoli i roi cynnig ar ddawns gyfoes a phrofi hud symudiad. Mae Roots yn arddangos pedwar o hoff ddarnau'r cwmni sydd wedi'u gwneud yng Nghymru, yn cynnwys un gan y coreograffydd o Abertawe, Anthony Matsena. Mae bob un ohonynt yn fyr a dynamig ac yn adrodd stori unigryw drwy ddawns; yn archwilio themâu o fywyd a diwylliant Cymru y gellid uniaethu â nhw. Yn rhai pryfoclyd ac ysgafn eu naws, mae'r perfformiadau a'r drafodaeth wedi'u dylunio i gynulleidfaoedd o bob oedran eu mwynhau. Mae bob darn dawns wedi'i gyflwyno i helpu pawb i ddod o hyd i'w hystyron yn y straeon, yna bydd sesiwn holi ac ateb i rannu cyfrinachau y tu ôl i'r llen y coreograffwyr a'r dawnswyr. Mae'r pedwar darn o waith byr sydd wedi'u cynnwys yn y noson yn cynnwys: Darn newydd sbon o waith â'r teitl Codi, gan Anthony Matsena a gafodd ei fagu yn Abertawe ac mae'n ymwneud â phobl Gymreig sy'n dod ynghyd i drechu unigedd ac iselder yn ystod cyfnodau blinderus, a ddioddefir gan lowyr a'u teuluoedd. Mae'n ddawns egnïol, sy'n codi calon, am gryfder cymunedau. Rygbi: Mae Annwyl i Mi gan Gyfarwyddwr Artistig CDCCymru, Fearghus Ó Conchúir, yn dathlu rygbi yng Nghymru ac yn pwysleisio gobeithion, gogoniant ac anrhydedd cefnogi ein gilydd ar y cae ac oddi arno. Crëwyd Rygbi gyda chyfraniad cefnogwyr a chwaraewyr rygbi ledled Cymru fel bod y ddawns wirioneddol yn adlewyrchu'r gêm. Ysbrydolwyd Écrit gan Nikita Goile gan lythyr yr arlunydd enwog Frida Kahlo i'w phartner, Diego. Caiff y ddeuawd glyfar ei pherfformio gan ddawnswraig a silwét enfawr o'i chariad. Brwydr grym hardd sy'n adlewyrchu uchafbwyntiau ac isafbwyntiau perthnasoedd llawn angerdd. Mae'r darn Why Are People Clapping!? gan Ed Myhill wedi'i osod i Clapping Music Steve Reich ac mae'n defnyddio rhythm fel grym ysgogi. Mae'r dawnswyr yn defnyddio symudiadau bywiog a chlapio i greu trac sain ar gyfer y ddawns hwyliog ac egnïol. Mae'r daith Roots yn rhan o raglen 4 blynedd sy'n datblygu dawns yn llefydd newydd ledled Cymru a gefnogir gan grant gan yr Esmée Fairburn Foundation. Gan adeiladu ar lwyddiant taith y llynedd, eleni bydd CDCCymru yn cychwyn ar daith estynedig yn ymweld â lleoliadau yng Nghaernarfon, yr Wyddgrug, Pwllheli, Aberdyfi, Arberth, Ystradgynlais, Coed Duon a Chaerdydd trwy gydol fis Tachwedd. Fel rhan o'r rhaglen Roots, bydd dros 40 o weithdai yn cael eu cyflwyno i blant cynradd ac uwchradd, grwpiau ffoaduriaid, grwpiau dawns a theatr, grwpiau i bobl hŷn a'r cyhoedd, fell gallant ddysgu mwy ynglŷn â'r darnau o ddawns a rhai o symudiadau'r perfformiadau. Bydd rhai o'r grwpiau yn gallu perfformio eu gwaith noson cyn y sioe yng Nghaerdydd a Phwllheli. Mae tocynnau Roots 2019 nawr ar werth yn Theatr Clwyd (Yr Wyddgrug) 7-8 Tachwedd 7.45pm; y Tŷ Dawns (Caerdydd) 12-14 Tachwedd 7.30pm a 13 Tachwedd 1pm; Sefydliad y Glowyr Coed Duon (Coed Duon) 19 Tachwedd 7.30pm; Y Neuadd Les (Ystradgynlais) 21 Tachwedd 7.30pm; The Queen's Hall (Arberth) 22 Tachwedd 7.30pm; Neuadd Dyfi (Aberdyfi) 24 Tachwedd 7.30pm, Galeri (Caernarfon) 26 Tachwedd 7.30pm, Neuadd Dwyfor (Pwllheli) 27 Tachwedd 7.30pm. Bydd y perfformiad hwn yn para 2 awr yn cynnwys egwyliau. Addas ar gyfer 7+ oed. Taith Roots Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru yw'r cyfle perffaith i bobl sy'n newydd i ddawns gyfoes gael blas arni am y tro cyntaf gan fod y cyflwyniadau a thrafodaethau anffurfiol yn sicrhau y bydd pawb yn teimlo bod croeso iddynt ac yn hyderus i fwynhau'r darnau. Mae'r cyflwyniadau hefyd yn rhoi cyfle i fynychwyr rheolaidd gael dysgu mwy, gan fod straeon yr ystafell ymarfer yn cael eu rhannu. Mae rhagor o wybodaeth i'w chael yn ndcwales.co.uk ac ar draws gyfryngau cymdeithasol @ndcwales #roots2019