Dod â'r cwmni ynghyd drwy symud Yn ddiweddar, gosododd Tîm CDCCymru yr her iddyn nhw eu hunain o gerdded, rhedeg, beicio, nofio a dawnsio'r daith gron 1310 milltir o Fangor yng ngogledd Cymru i Bonn yn yr Almaen. Mae Covid-19 wedi golygu nad yw'r cwmni wedi gallu teithio a pherfformio ers mis Mawrth 2020, felly gwnaethom ymateb i her i helpu'r cwmni i adfer a pharhau i gyd-symud ar adeg pan rydym wedi ein gorfodi i fod ar wahân. Dechreuom ar 17 Mawrth, a fyddai wedi bod yn noson agoriadol ein taith yn y DU ac Ewrop, cyn gorffen ar 19 Mai gan mai hwn oedd dyddiad cau arfaethedig y daith. Cymaint yw ymrwymiad ein tîm bach ond nerthol, gyda'n gilydd gwnaethom gwblhau'r daith gron gychwynnol erbyn 19 Ebrill, ond roeddem yn benderfynol o gynnal yr ymdrechion i weld faint ymhellach y gallem fynd erbyn 19 Mai. O ddawnswyr i weinyddwyr i'r bwrdd o ymddiriedolwyr, cynrychiolwyd pawb ar draws y sefydliad. Cwblhaom 2567 milltir, gan godi £1387 (ac eithrio rhodd cymorth), sydd wedi cael ei gyplysu gydag arian gan Ymddiriedolaeth Elusennol Colwinston. Rydym yn hynod ddiolchgar am y cyfraniadau rydym wedi'u derbyn gan y byddant yn darparu cymorth allweddol i helpu CDCCymru i adfer yn sgil effeithiau Covid 19. Os hoffech gyfrannu gallwch fynd i Dudalen Just Giving CDCCymru yma. Dyma oedd gan rai o'r tîm i'w ddweud am gymryd rhan: "Roedd yn gyfle gwych i deimlo'n gydnaws a phresennol â chydweithwyr, ar adeg lle mae pawb ohonom ar wahân yn gorfforol ac yn gweithio o bell." Saoirse Anton, Swyddog Teithiau a Phrosiectau. "Ar adeg o'r flwyddyn gyda thaith arall wedi'i chanslo ac amserlen deithio ansicr, roedd yn ffordd wych o roi rhywbeth i'r cwmni weithio tuag ato ar y cyd gyda dyddiad gorffen a nod clir - a rhannu hynny gyda'n cynulleidfaoedd, ac annog pobl i archwilio eu hardaloedd lleol a mwynhau bod i ffwrdd o'u sgriniau." Megan Pritchard, Rheolwr Ymgyrchoedd Marchnata. Diolch yn fawr i bawb a gyfrannodd a gobeithiwn eich gweld mewn perfformiad yn fuan iawn, cofiwch ddod i ddweud helô.