Taith yr hydref yn y Deyrnas Gyfunol o Passion gan Pascal Dusapin Bydd Music Theatre Wales – prif gwmni opera cyfoes y Deyrnas Gyfunol – yn ymuno â Chwmni Dawns Cenedlaethol Cymru i gyflwyno PASSION, sef opera-ddawns newydd gan Pascal Dusapin, a fydd yn teithio yng Nghymru a Lloegr yn yr hydref. Eisoes, gwelwyd yr opera-ddawns hon gan Pascal Dusapin, sydd wedi derbyn canmoliaeth uchel, mewn nifer o leoliadau ledled Ewrop, ond dyma’r tro cyntaf iddi gael ei pherfformio yn y Deyrnas Gyfunol. Bydd y cynhyrchiad newydd hwn, a grëwyd mewn cydweithrediad â’r arbenigwyr cyfoes adnabyddus London Sinfonietta ac EXAUDI, yn cael ei berfformio mewn cyfieithiad Saesneg newydd a gomisiynwyd oddi wrth Amanda Holden, gan ymestyn cyfres Music Theatre Wales o weithiau rhyngwladol sy’n newydd i gynulleidfaoedd yn y DG, yn cynnwys The Killing Flower gan Salvatore Sciarrino a The Golden Dragon gan Peter Eötvös. Caiff Passion ei gyfarwyddo ar y cyd gan Michael McCarthy, Cyfarwyddwr Artistig Music Theatre Wales, a Caroline Finn, Coreograffydd Preswyl Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru; yr Arweinydd fydd Geoffrey Paterson, gyda Simon Banham yn Gynllunydd a Joe Fletcher yn Gynllunydd Goleuo. Yn y gwaith hyfryd a synhwyrus hwn i lais a chorff, mae Dusapin yn archwilio poen ac angerdd dau gariad sy’n cael eu gorfodi i fyw ar wahân mewn dau fyd gwahanol. Mae’r gwaith, sy’n seiliedig ar y myth am Orpheus, yn cynnig golwg cyfareddol a chyfoes ar y chwedl draddodiadol. Perfformir Passion gan ddau ganwr a phump o ddawnswyr ar y llwyfan, gydag ensemble lleisiol o chwe llais oddi ar y llwyfan (EXAUDI), ynghyd ag ensemble o ddau ar bymtheg o gerddorion (London Sinfonietta). Cenir y rhan ‘Her’ gan Allison Bell (soprano), a ‘Him’ gan Johnny Herford (bariton). Gan gyfuno gweadwaith harmonig sy’n symud yn araf, a seiniau electronig annaearol, â seiniau atgofus, hynafol yr harpsichord a’r Oud Arabaidd, bydd sgôr Dusapin yn cyfleu byd di-amser lle gall y dawnswyr a’r cantorion berfformio eu stori o golled a chwant. Mae Dusapin yn disgrifio Passion fel gwaith lle mae’r ddau brif gymeriad yn symud yn barhaus tuag at ac i ffwrdd oddi wrth ei gilydd – yn emosiynol, yn gorfforol ac o ran dealltwriaeth. Nid opera yn unig yw Passion, felly, ond yn hytrach opera-ddawns lle mae’r symudiadau mor hanfodol â’r mynegiant lleisiol, a lle mae’r cyfuniad o ddawnswyr a chantorion yn holl bwysig. Bydd taith yr hydref yn agor yn The Anvil, Basingstoke, ar 11 Hydref, ac yn parhau yn Neuadd y Frenhines Elizabeth, Llundain (13 Hydref), Canolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd (23 Hydref), Snape Maltings, Swydd Suffolk (30 Hydref), a Theatr Lowry, Salford (6 Tachwedd), gan gloi yn Theatr Clwyd, Yr Wyddgrug, ar 10 Tachwedd. Dywedodd Michael McCarthy: “Rwy’n gobeithio y bydd y gynulleidfa’n teimlo eu bod yn cael eu cludo i leoliad ac amser gwahanol, y tu hwnt i’n bywydau bob dydd, ac i ryw fan lle gallwn rannu profiadau emosiynol y cymeriadau yn yr opera-ddawns hon a myfyrio arnynt. Hoffem ddychmygu y bydd gwylio Passion yn brofiad eithaf tebyg i ymweld ag oriel a chamu i mewn i fideo celf, lle mae’r delweddau a’r sain yn eich denu i mewn ac yn araf bach yn mynd â chi ar daith.” Dywedodd Caroline Finn: "Bydd hwn yn gydweithrediad arbennig iawn mewn sawl ffordd. Rwy’n cael fy ysbrydoli nid yn unig gan y stori a’r cysyniad o’r darn, ond hefyd gan y ffaith fod yr opera hon yn unigryw fel sgôr ar gyfer y llais a’r corff. Bydd y dawnswyr a’r cantorion yn estyniadau o’i gilydd, gan gydfeddiannu’r un gofod am y darn cyfan, ac yn creu byd cwbl homogenaidd y gall y cynulleidfaoedd ymgolli ynddo. Byddwn yn gweithio ochr yn ochr drwy gydol y cyfnod creu, ac mae hynny’n fantais fawr. Mae’n golygu y byddwn yn gallu cyfathrebu’n gyson, a rhannu’n prosesau gyda’n gilydd, ond y mae hefyd yn hanfodol ar gyfer creu bydysawd sy’n llwyddo i dynnu holl elfennau’r lleisiau, y gerddoriaeth a’r ddawns at ei gilydd i greu undod cwbl gytûn."