CDCCymru yn Cyflwyno Gweithdy am ddim Chwefror - Mawrth Penrhys, Casnewydd Oed 12-18 Penwythnos hwyliog o sesiynau am ddim, wedi’u hanelu at ddawnswyr ifanc rhwng 12-18 oed sydd â diddordeb mewn datblygu eu sgiliau technegol a chreadigol a chysylltu ag ymarferwyr profiadol sy’n gweithio gyda Chwmni Dawns Cenedlaethol Cymru. Cefnogi'r gan: Rydym wedi derbyn buddsoddiad gan CultureStep Celfyddydau a Busnes Cymru ar gyfer cryfhau, datblygu ac amrywio talent dawnsio’r ifanc yng Nghymru. Sgroliwch i lawr i archebu eich lle am ddim. Gweithdai dawns hwyliog, dwys ac am ddim sydd wedi’u trefnu ar gyfer dawnswyr ifanc 12-18 oed sydd â diddordeb mewn datblygu eu sgiliau technegol a chreadigol a chysylltu ag ymarferwyr profiadol sy’n gweithio gyda Chwmni Dawns Cenedlaethol Cymru. Cymerwch ran mewn ystod o ddosbarthiadau a gweithdai coreograffig a chewch gwrdd â dawnswyr ifanc eraill yng Nghymru. Rydym yn croesawu dawnswyr o ystod eang o gefndiroedd, ac rydym yn eich annog i fod yn chi eich hun yn yr ystafell. Beth bynnag fo’ch profiad, bydd y gweithdai’n agored, yn hwyliog ac yn groesawgar. Dydd Sadwrn 22 - Dydd Sul 23 Chwefror 11yb-3yp Llanfair Uniting Church, Penrhys, CF43 3RH Dydd Llun 24 Chwefror 12.30yp - 4.30yp Dydd Mawrth 25 Chwefror 9.30yb - 1.30yp Dance Studio, Riverfront, Kingsway, Casnewydd NP20 1HG Sgroliwch i lawr i archebu eich lle am ddim. Am ddod draw? Cwrdd â dawnswyr newydd Dysgu sgiliau a steiliau newydd Cael eich dysgu gan ddawnswyr proffesiynol sy’n gweithio yng Nghymru ar hyn o bryd Dysgu rhagor am Gwmni Dawns Cenedlaethol Cymru Teimlo’n fwy creadigol Gwella eich dealltwriaeth o dermau dawns Cyfle gwych i gael cipolwg os ydych chi’n ystyried dod yn Aelod Cyswllt Ifanc gyda Chwmni Dawns Cenedlaethol Cymru Galeri