Charlotte Aspin
Myfyriwr Lleoliad Gwaith Proffesiynol
Yn enedigol o Fryste, dechreuais fy nhaith dawnsio cyfoes gyda Rise Youth Dance yn 2016. Yna ymunais â’r National Youth Dance Company yn 2021 a chael y fraint o weithio gyda Alesandra Seutin. Y flwyddyn wedyn, dechreuais radd BA yn y Northern School of Contemporary Dance yn Leeds. Yn ystod fy amser yno, perfformiais waith gan Ella Mesma, Carlos Pons Guerra a Joseph Toonga a chael cyfleoedd hefyd i weithio gyda chwmni Hofesh Shechter, Dalton Janson a Komoco. Rwyf yn edrych ymlaen yn fawr at gael ymuno â CDCCymru yn ddawnswraig ar brentisiaeth a chael dal i ddysgu a thyfu fel artist.