Faye Tan a Cecile Johnson Soliz Infinity Duet Gwybodaeth ynghylch y cynhyrchiad 10 munud Mae dau berson yn mynd i'r afael â phwysau ac amser yn y ddeuawd deimladwy a chynnes hon sy'n plethu ynghyd dyluniad, cerfluniad, dawns a sain mewn cydweithrediad unigryw. Ni all y cerflun osgoi ildio i ddisgyrchiant, na’u cyrff chwaith. Mae dau berson yn mynd i'r afael â phwysau ac amser yn y ddeuawd deimladwy a chynnes hon sy'n plethu ynghyd dyluniad, cerfluniad, dawns a sain mewn cydweithrediad unigryw. Creodd y coreograffydd Faye Tan a'r artist Cecile Johnson-Soliz y gwaith hwn ynghyd â'r dawnswyr. Gyda cherddoriaeth gan Richard McReynolds, gwisgoedd wedi'u printio â darluniau Cecile a cherflun mawr siglog sy'n hawlio'r sylw, mae'r gwaith hwn yn eich swyno. Tîm Creadigol Hyd: 10 minutes Dawnswyr: 2Premiere: 30 February 2025, Dance House, CardiffYr Artist: Cecile Johnson Soliz Cyfansoddydd: Richard McreynoldsDylunio Gwisgoedd: Cecile Johnson Soliz Cynllynydd Goleuo: Will LewisGwneuthurydd Gwisgoedd: Elizabeth Catherine ChiuDawnswyr A Chyd-Goreograffwyr: Charlotte Aspin, Alys Davies, Olivia Foskett, Sarah ‘Riz’ Golden, Jill Goh, Edward MyhillCyfarwyddydd Ymarfer: Victoria Roberts Gyda Diolch i: Luca Chiodini, Dan Clark, Elena Grace, Sam Gilovitz, Niamh Keeling, Mario Manara, Matthew William Robinson, Ds Smith, Will Barrett Soliz, Rachel Verner Coreograffwr Faye Tan Mae Faye yn ddawnswraig a choreograffydd o Singapôr ac ar hyn o bryd yn ddawnswraig llawn amser gyda Chwmni Dawns Cenedlaethol Cymru. Meithrinwyd ei hymarfer coreograffig gan ei phrofiadau helaeth o weithio gyda choreograffwyr dawns gyfoes o bob rhan o’r byd a’i defnydd o wahanol arddulliau o ddawns, diwylliannau, dulliau a thechnegau. Mae ei gwaith yn aml yn cynnwys cymhlethdod yr emosiwn dynol sydd weithiau’n llethol, ac yn aml yn awdlau i brofiadau dynol o’r dyrchafedig. Yn aml yn cydweithio gyda cherddorion ac artistiaid gweledol, mae hi wedi creu gwaith ar gyfer amrywiaeth o osodiadau a chyd-destunau gyda Chwmni Dawns Cenedlaethol Cymru, VERVE (DU), Frontier Danceland (Singapôr), y Ganolfan Hyfforddiant Uwch (DU) ac Ysgol Gelfyddydau Singapôr. faye-tan.com/ @fayefayefaye.tan Mae Cecile Johnson Soliz yn Americanes ail genhedlaeth o dreftadaeth Bolifaidd a fagwyd yng Nghaliffornia, Mecsico, Bolifia, Brasil, Ghana, a’r Eidal cyn cyrraedd y D.U. i astudio Celfyddyd Gain yng Ngholeg Celfyddyd ac Eurych Caerdydd. Yn dilyn 20 mlynedd yn Llundain, bu i Gymrodoriaeth Henry Moore mewn Cerfluniaeth ddod â hi i Gaerdydd yn 1995 ble mae hi’n byw a gweithio. Mae Cecile wedi arddangos dros gyfnod o 35 mlynedd yn y D.U. a thramor mewn arddangosfeydd unigol a grŵp, gan ennill y Wobr Aur mewn Celfyddyd Gain yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn 2017. Ar hyn o bryd mae hi’n cydweithio gyda Chwmni Dawns Cenedlaethol Cymru. Ar gyfer Bio llawn a C.V. ewch i: cecilejohnsonsoliz.net @cecilejohnsonsoliz Mae Richard McReynolds yn gyfansoddwr o Ogledd Iwerddon, yn artist aml-gyfrwng a chynhyrchydd creadigol wedi’i leoli yng Nghaerdydd. Mae’n gweithio yn y croestoriad rhwng cyfryngau, ymchwilio i gysylltiadau newydd rhwng perfformiadau, sain ac elfennau gweledol. Mae ei waith yn cwmpasu gwaith sain, celf-berfformiad, delweddau cynhyrchiol, hyper-offerynnau a gosodiadau. richardmcreynolds.com@mcreynoldsrich Creu Infinity Duet Mae Infinity Duet yn gydweithrediad ar draws ffurfiau celfyddydol, lle rhoddir lle cyfartal i gerfluniau a sain ar y llwyfan. Cafodd Cecile Johnson Soliz, artist o Gaerdydd, a Faye Tan, un o ddawnswyr Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru, eu paru yn 2022 yn ystod prosiect ymchwil a datblygu a gynhaliwyd gan Gwmni Dawns Cenedlaethol Cymru, sef ‘Laboratori’ – prosiect a oedd yn anelu at baru artistiaid gweledol gyda dawnswyr. Wrth weithio gyda’i gilydd, mae Faye a Cecile wedi dod o hyd i dir cyffredin, gan ddarganfod diddordeb cyffredin mewn siapio ystum. “Mae cerflunio yn debyg iawn i ddawns mewn sawl ffordd. Mae gennym ddiddordeb mewn amser, lle a symud – mae’r pethau hyn i gyd yn berthnasol i gerflunio, a dyna un rheswm pam roeddwn i eisiau gweithio gyda Faye ar y prosiect cydweithredol hwn,” medd Cecile. Medd Faye, “Yr hyn rydw i’n gwirioni arno yng ngwaith Cecile yw’r ffaith ei fod yn delio’n eithaf penodol â phwysau ac amser a thensiwn, a’r potensial i rywbeth ddigwydd, er bod y cerflun ei hun yn llonydd yn yr ennyd hwnnw.” Mae’r cerflun sy’n siglo wedi’i wneud o bapur a ddefnyddir i argraffu papurau newydd – diwedd rholiau nad oedd modd eu defnyddio yn y broses argraffu. Yna, mae Cecile yn paentio, yn cordeddu ac yn cerflunio’r papur. Cecile hefyd a ddyluniodd y gwisgoedd – maent wedi’u hargraffu gyda lluniau o linellau croes manwl a chywrain. Mae’r gerddoriaeth gan Richard McReynolds yn cynnwys tameidiau a recordiwyd yn stiwdio gelf Cecile lle crëwyd y cerfluniau –mae synau papur yn cael ei dorri, ei rwygo a’i wasgu wedi cael eu hymgorffori yn y trac sain hyfryd. “Mae gweithio gyda Cecile a Faye wedi rhoi cyfle imi edrych ar fy ymarfer trwy wahanol lensys… Rydw i wedi cael fy ysbrydoli i adael i’r synau a recordiaf lywio’r broses, yn hytrach na’u gorfodi i ryw siâp arbennig,” medd Richard. I gael rhagor o wybodaeth am y modd y cafodd Infinity Duet ei greu, gwyliwch gyfweliad isod gyda’r tri artist. Galeri