Tocynnau Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru Surge | Gwefr Medi-Tachwedd Gwybodaeth ynghylch y cynhyrchiad 90 Munud BSL Flyer Audio Description Flyer Archwiliwch fydoedd newydd drwy ddawns. Darganfyddwch dri byd newydd sy’n ymestyn o chwedloniaeth hynafol i ffuglen wyddonol ddyfodolaidd. Bydd Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru yn eich trawsgludo drwy stori, amser a lle gyda’r triawd o ddawnsfeydd hudolus a chynllunio hyfryd.Beth am gael eich ysbrydoli gan ‘Infinity Duet’, cydweithrediad unigryw rhwng y coreograffydd Faye tan a’r artist Cecile Johnson Soliz y mae ei gwisgoedd sydd wedi’u gorchuddio gyda brasluniau a’r cerflun sy’n siglo yn cymryd eu lle ar ganol y llwyfan, ochr yn ochr â symudiad cynnes, ysbrydol sy’n archwilio pwysau ac amser. Cewch eich hudo gan ‘Waltz’ Marcos Morau, sydd wedi swyno cynulleidfaoedd ar hyd a lled Ewrop. Mae bodau disglair o du hwnt i’r byd hwn yn symud ar draws tirwedd wen, foel gyda chywirdeb manwl iawn. Dyma antur ffuglen wyddonol yn creu anhrefn, trefn a rheolaeth, sy’n cael ei galw'n 'hollol gymhellol' gan y Times. Yn olaf, cewch eich trawsgludo ar siwrne i ddarganfod ‘Mabon’ gan Osian Meilir. Profwch y Mabinogion mewn goleuni newydd wrth i chi fynd ar daith drwy’r hen Gymru i gwrdd ag anifeiliaid hynaf y byd. Mae dau berson yn mynd i'r afael â phwysau ac amser yn y ddeuawd deimladwy a chynnes hon sy'n plethu ynghyd dyluniad, cerfluniad, dawns a sain mewn cydweithrediad unigryw. "Performers move fluidly around a large moving swing in the centre of the stage, reflecting a huge level of technical skill on their part, but also evoking the gleeful risk-taking involved in any great piece of art. Buzz MagazineCoreograffi: Faye TanYr Artist: Cecile Johnson SolizCyfansoddydd: Richard McReynoldsDysgu Mwy am Infinity Duet Mae waltz atgofus yn chwarae yn y pellter. Allan o’r lludw daw cwlwm o greaduriaid gloyw i fyw mewn byd newydd. Yn y dryswch a’r cynnwrf eu hunig obaith yw parhau’n unedig. "It’s rare in dance to feel totally intrigued by what might happen next, but Marcos Morau’s Waltz – holds a real element of surprise...It is fascinating, intense and compelling."The Guardian Coreograffi: Marcos MorauCerddoriaeth Valse Triste, Op 44. (Berlin Philharmonic) by Jean Sibelius, Suspirium by Thom Yorke, Crawler by Holly Herndon, Pneuma by Caterina Barbieri.Dysgu Mwy am Waltz Mae Mabon wedi’i ysbrydoli gan ymgais i gwrdd â rhai o’r anifeiliaid hynaf yn y byd o chwedl y Mabinogion - casgliad o fythau a chwedlau hynafol o Gymru. Osian’s background in folk dance is integral to their work which will twist tradition with rebellious contemporary choreography in this fantastical new work.Coreograffi: Osian MeilirDylunio Gwisgoedd: Becky DaviesCynllynydd Goleuo: Marty LangthorneCyfansoddydd:Cerys HafanaDysgu Mwy Am Mabon Yn mynd ar daith i Caerdydd Theatr y Sherman Dydd Mercher 17 Medi 2025, 19:30 Archebwch Nawr Dydd Iau 18 Medi 2025, 19:00 Archebwch Nawr Dydd Gwener 19 Medi 2025, 19:00 Archebwch Nawr Bangor Pontio Dydd Iau 25 Medi 2025, 19:30 Archebwch Nawr Llundain The Place Dydd Gwener 17 Hydref 2025, 19:30 Archebwch Nawr Casnewydd Riverfront Dydd Sadwrn 1 Tachwedd 2025, 19:30 Archebwch Nawr Yr Wyddgrug Theatr Clwyd Dydd Sadwrn 8 Tachwedd 2025, 19:30 Archebwch Nawr Dydd Sul 9 Tachwedd 2025, 19:30 Archebwch Nawr Aberystwyth Canolfan y Celfyddydau Dydd Iau 6 Tachwedd 2025, 19:30 Archebwch Nawr Ipswich Dance East Dydd Gwener 21 Tachwedd 2025, 19:30 Yn Dod Yn Fuan Dydd Sadwrn 22 Tachwedd 2025, 19:30 Yn Dod Yn Fuan
Mabon Profwch y Mabinogion mewn goleuni newydd wrth i chi fynd ar daith drwy’r hen Gymru i gwrdd ag anifeiliaid hynaf y byd. Gwybod mwy Tocynnau
Infinity Duet Mae dau berson yn mynd i'r afael â phwysau ac amser yn y ddeuawd deimladwy a chynnes hon sy'n plethu ynghyd dyluniad, cerfluniad, dawns a sain mewn cydweithrediad unigryw. Gwybod mwy
Waltz Waltz gan Marcos Morau Mae waltz atgofus yn chwarae yn y pellter. Allan o’r lludw daw cwlwm o greaduriaid gloyw i fyw mewn byd newydd. Yn y dryswch a’r cynnwrf eu hunig obaith yw parhau’n unedig. Os wnaethoch chi fwynhau byd coreograffig trydanol Tundra yn 2017, mae hwn yn gyfle arall i brofi gwaith gan Marcos Morau, y coreograffydd arloesol o Sbaen. Gwybod mwy