Faye Tan a Cecile Johnson Soliz Infinity Duet Gwybodaeth ynghylch y cynhyrchiad 10 munud Mae dau berson yn mynd i'r afael â phwysau ac amser yn y ddeuawd deimladwy a chynnes hon sy'n plethu ynghyd dyluniad, cerfluniad, dawns a sain mewn cydweithrediad unigryw. Yn teithio fel rhan o Shorts | Byrion Mae tri choreograffydd addawol yn llenwi'r llwyfan â drama, comedi dywyll a dylunio disglair, wedi'u trefnu i gyfuniad o gerddoriaeth newydd a chlasuron. Gwybod mwy Tocynnau Ni all y cerflun osgoi ildio i ddisgyrchiant, na’u cyrff chwaith. Mae dau berson yn mynd i'r afael â phwysau ac amser yn y ddeuawd deimladwy a chynnes hon sy'n plethu ynghyd dyluniad, cerfluniad, dawns a sain mewn cydweithrediad unigryw. Creodd y coreograffydd Faye Tan a'r artist Cecile Johnson-Soliz y gwaith hwn ynghyd â'r dawnswyr. Gyda cherddoriaeth gan Richard McReynolds, gwisgoedd wedi'u printio â darluniau Cecile a cherflun mawr siglog sy'n hawlio'r sylw, mae'r gwaith hwn yn eich swyno. Tîm Creadigol Hyd: 10 minutes Dawnswyr: 2 Premiere: 30 February 2025, Dance House, Cardiff Yr Artist: Cecile Johnson Soliz Cyfansoddydd: Richard Mcreynolds Dylunio Gwisgoedd: Cecile Johnson Soliz Cynllynydd Goleuo: Will Lewis Gwneuthurydd Gwisgoedd: Elizabeth Catherine Chiu Dawnswyr A Chyd-Goreograffwyr: Charlotte Aspin, Alys Davies, Olivia Foskett, Sarah ‘Riz’ Golden, Jill Goh, Edward Myhill Cyfarwyddydd Ymarfer: Victoria Roberts Gyda Diolch i: Luca Chiodini, Dan Clark, Elena Grace, Sam Gilovitz, Niamh Keeling, Mario Manara, Matthew William Robinson, Ds Smith, Will Barrett Soliz, Rachel Verner Coreograffwr Faye Tan Mae Faye yn ddawnswraig a choreograffydd o Singapôr ac ar hyn o bryd yn ddawnswraig llawn amser gyda Chwmni Dawns Cenedlaethol Cymru. Meithrinwyd ei hymarfer coreograffig gan ei phrofiadau helaeth o weithio gyda choreograffwyr dawns gyfoes o bob rhan o’r byd a’i defnydd o wahanol arddulliau o ddawns, diwylliannau, dulliau a thechnegau. Mae ei gwaith yn aml yn cynnwys cymhlethdod yr emosiwn dynol sydd weithiau’n llethol, ac yn aml yn awdlau i brofiadau dynol o’r dyrchafedig. Yn aml yn cydweithio gyda cherddorion ac artistiaid gweledol, mae hi wedi creu gwaith ar gyfer amrywiaeth o osodiadau a chyd-destunau gyda Chwmni Dawns Cenedlaethol Cymru, VERVE (DU), Frontier Danceland (Singapôr), y Ganolfan Hyfforddiant Uwch (DU) ac Ysgol Gelfyddydau Singapôr. faye-tan.com/ @fayefayefaye.tan Mae Cecile Johnson Soliz yn Americanes ail genhedlaeth o dreftadaeth Bolifaidd a fagwyd yng Nghaliffornia, Mecsico, Bolifia, Brasil, Ghana, a’r Eidal cyn cyrraedd y D.U. i astudio Celfyddyd Gain yng Ngholeg Celfyddyd ac Eurych Caerdydd. Yn dilyn 20 mlynedd yn Llundain, bu i Gymrodoriaeth Henry Moore mewn Cerfluniaeth ddod â hi i Gaerdydd yn 1995 ble mae hi’n byw a gweithio. Mae Cecile wedi arddangos dros gyfnod o 35 mlynedd yn y D.U. a thramor mewn arddangosfeydd unigol a grŵp, gan ennill y Wobr Aur mewn Celfyddyd Gain yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn 2017. Ar hyn o bryd mae hi’n cydweithio gyda Chwmni Dawns Cenedlaethol Cymru. Ar gyfer Bio llawn a C.V. ewch i: cecilejohnsonsoliz.net @cecilejohnsonsoliz Mae Richard McReynolds yn gyfansoddwr o Ogledd Iwerddon, yn artist aml-gyfrwng a chynhyrchydd creadigol wedi’i leoli yng Nghaerdydd. Mae’n gweithio yn y croestoriad rhwng cyfryngau, ymchwilio i gysylltiadau newydd rhwng perfformiadau, sain ac elfennau gweledol. Mae ei waith yn cwmpasu gwaith sain, celf-berfformiad, delweddau cynhyrchiol, hyper-offerynnau a gosodiadau. richardmcreynolds.com @mcreynoldsrich Galeri
Shorts | Byrion Mae tri choreograffydd addawol yn llenwi'r llwyfan â drama, comedi dywyll a dylunio disglair, wedi'u trefnu i gyfuniad o gerddoriaeth newydd a chlasuron. Gwybod mwy Tocynnau