Perfformiad cyhoeddus o Gydweithrediadau Creadigol, prosiect dawns a llythrennedd CDCCymru ac Ysgol Uwchradd Cantonian Bydd prosiect Cydweithrediadau Creadigol, CDCCymru ac Ysgol Uwchradd Cantonian, a ariennir gan Gyngor Celfyddydau Cymru, yn cael ei rannu'n gyhoeddus, ar ddydd Mercher 3ydd Ebrill rhwng 10-11am ar lwyfan Glanfa Canolfan Mileniwm Cymru. “Mae'r prosiect Cydweithrediadau Creadigol hwn yn gydweithrediad rhwng Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru ac Ysgol Uwchradd Cantonian, Caerdydd. Mae'r prosiect yn archwilio ffyrdd newydd o addysgu Llythrennedd trwy Ddawns. Mae myfyrwyr ac athrawon wedi gweithio gyda'r artistiaid dawns trwy sesiynau dawns wedi'u teilwra er mwyn cefnogi datblygiad llythrennedd. Defnyddiwyd gwaith thematig hefyd i lywio'r coreograffi. Ariennir y prosiect ar y cyd trwy raglen Dysgu Creadigol drwy’r Celfyddydau, Cyngor Celfyddydau Cymru a Llywodraeth Cymru.” Gweinyddwr y Prosiect Lizzie Davies-MacMillan a’r Tiwtoriaid Dawns Siân Rowlands a Jack Philp. Mae'r perfformiad hwn yn rhan o wythnos o weithgarwch yn dathlu rhaglen Dysgu Creadigol Drwy'r Celfyddydau, Cyngor Celfyddydau Cymru. Mae mwy o wybodaeth ar gael yma: http://www.celf.cymru/arts-in-wales/dysgu-creadigol?diablo.lang=cym