Tundra wedi’i enwebu am Wobr Cyflawniad mewn Dawns – Gwobrau Theatr y DU 2018 Mae Tundra gan CDCCymru a Marcos Morau wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer y Wobr Cyflawniad mewn Dawns yng Ngwobrau Theatr y DU 2018. Gwobrau Theatr y DU yw’r unig Wobrau cenedlaethol i anrhydeddu a dathlu cyflawniadau rhagorol mewn theatr ranbarthol ledled Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Awgrymir enwebeion ar gyfer y gwobrau theatr blynyddol gan banel o feirniaid. Rhoddodd Tundra ei berfformiad cyntaf yn ystod tymor yr hydref y llynedd fel rhan o ddigwyddiad golygfa ar raddfa fawr gan CDCCymru a Marc Rees, sef P.A.R.A.D.E. a gafodd ei berfformio yng Nghaerdydd a Bangor. Yn ddiweddarach, cafodd ei ddarlledu ar-lein, ar BBC Four a BBC Wales fel rhan o’r rhaglen The Space Capture ble cafodd miloedd o bobl weld fersiwn lawn o Tundra. Ers hynny, mae wedi bod ar daith fel rhan o daith y Gwanwyn CDCCymru, Terra Firma, ledled Cymru a Lloegr. Dywedodd y Prif Weithredwr, Paul Kaynes, “Mae Tundra yn waith y gofynnom i’r Coreograffydd Sbaenaidd, Marcos Morau, baratoi moment anghyffredin – roedd yn rhan o’n digwyddiad P.A.R.A.D.E. i nodi canmlwyddiant Chwyldro Rwsia. Ond mae ei lwyddiant parhaus yn golygu ein bod wedi mynd ag ef i ddwsinau o leoliadau ledled y DU ac Ewrop. Rhown yr holl ganmoliaeth i Marcos am greu darn o ddawns mor gyfareddol.” Mae CDCCymru wedi’i enwebu ochr yn ochr â Ballet Black am The Suit gan Cathy Marston a The Little Mermaid gan Northern Ballet. Bydd Gwobrau Theatr y DU eleni yn cael eu cynnal yn adeilad hanesyddol y Guildhall yn Llundain, ar ddydd Sul 14 Hydref 2018.