Image of zoom meeting with dancers in 7 different screens
CDCCymru yn Cyflwyno

Y tu ôl i'r llen: rheoli llwyfan mewn byd digidol

Gan ddefnyddio Zoom, gweithiod CDCCymru i drin y rhaglen mewn ffyrdd syml i greu llwyfan perfformio y gallai'r coreograffydd ei gyfarwyddo mewn amser real.

Gan ddefnyddio Zoom, gweithiod CDCCymru i drin y rhaglen mewn ffyrdd syml i greu llwyfan perfformio y gallai'r coreograffydd ei gyfarwyddo mewn amser real.

PDF yma 

O fewn pedair wythnos gyntaf y cyfnod clo yn y DU yn ystod pandemig COVID-19 2020 - roedd Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru wedi symud o'r llwyfan i'r sgrin, ac wedi creu fersiwn ffrwd fyw o'u gwaith a gafodd ei ohirio 2067: Time and Time and Time gan y coreograffydd Alexandra Waierstall.
Gwahoddodd y Cwmni Alexandra yn ôl o'i fflat yn yr Almaen i ail-ymarfer a chyfarwyddo fersiwn o'r darn o gartrefi ein dawnswyr.
Y darn hwn oedd y cyntaf o'i fath ar draws y byd dawns – er bod fformat y perfformiad cydweithredol aml-sgrîn yn rhywbeth y byddai'r byd yn dod yn gwbl gyfarwydd ag ef drwy gydol yr wythnosau nesaf.

Gan ddefnyddio Zoom, gweithiod CDCCymru i drin y rhaglen mewn ffyrdd syml i greu llwyfan perfformio y gallai'r coreograffydd ei gyfarwyddo mewn amser real.

Trosglwyddodd y rheolwr llwyfan, Perla Ponce, ei sgiliau ymarferol i'r amgylchfyd digidol yn gyflym, a gweithiodd yn agos gyda'r tîm cyfryngau cymdeithasol i greu profiad byw llwyddiannus a didrafferth mewn chwinciad chwannen.

Roedd trosglwyddo'r sgiliau hyn, a defnydd theatraidd o Zoom, sydd fel arfer yn llwyfan di-berfformiadol yn ddringfa dysgu serth.
Gan fod CDCCymru ar fin cychwyn ar eu hail gread byw ar gyfer Zoom (Clapping gan Ed Myhill), maent am egluro'r broses, fel y gall eraill ddechrau rhannu gwaith mewn ffyrdd tebyg.

Nawr, mae'r 'Rheolwr Llwyfan Digidol', Perla Ponce, wedi ysgrifennu tiwtorial manwl y mae'r cwmni'n gobeithio y bydd yn ddefnyddiol o fewn y sector dawns, a thu hwnt – pe bai ond i oresgyn yr archwilio a'r heriau helaeth a wynebodd Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru. 

Ar ddechrau'r cyfnod clo, roeddem yn awyddus i gysylltu â chynulleidfaoedd mewn ffordd ystyrlon; roedd yn bwysig i'r Cwmni barhau i gynnig perfformiadau byw a chynnal cysylltiad amser real.

Yn dilyn rhywfaint o ymchwil, datrys heriau a thrin y meddalwedd, roeddem yn gallu defnyddio Zoom fel llwyfan ar gyfer perfformio.  O ganlyniad, gwelsom y sector yn ymestyn allan yn gofyn i ni ofyn sut oeddem yn gallu cyflawni hyn yn ymarferol.

Mae'r tiwtorial hwn yn mynd i'r afael â defnyddio Zoom i ffrydio perfformiadau mewn amser real i naill ai Facebook neu YouTube, ac mae o safbwynt ein Rheolwr Llwyfan yn canolbwyntio ar ddefnydd y rhaglen ac yn amlygu pwysigrwydd cynnal dysgu ar lwyfan ac arferion gorau, hyd yn oed mewn tirwedd ddigidol.

Pam Zoom?

Mae CDCCymru wedi bod yn cynnig cynnwys wedi ei ffrydio'n fyw yn uniongyrchol i Facebook ers sawl blwyddyn, ond fel nifer eraill, wrth inni ddechrau gweithio a dawnsio o adref, rydym wedi troi at Zoom.  
 

Mae Zoom yn hawdd i'w ddefnyddio ac ar gael yn rhwydd, ac yn wahanol i nodwedd byw Facebook, mae'n caniatáu i fwy nag un cartref ffrydio. Dyma'r ffordd orau o gydlynu rhwng pobl a chynnal cysylltiad cyson i ni ddod ar ei thraws.  

 

Mae gan Zoom, fel popeth arall, ei fanteision ac anfanteision. 

Manteision
 
- Ar gael yn rhwydd
- Mae'r rhan fwyaf o bobl yn gyfarwydd â'r feddalwedd erbyn hyn

- Prisiau cymharol rad – bydd angen i chi gael cyfrif Proffesiynol unigol er mwyn ffrydio'n fyw i'ch cyfrifon cyfryngau cymdeithasol am £11 y mis, y gellir ei ganslo'n hawdd

- Ar ôl i chi gofrestru eich cyfrif, mae mor syml â phwyso botymau. 
 

Anfanteision

- Yn gallu cynnwys amser paratoi a gosod helaeth ar gyfer perfformiad

- Mae rhai o'r swyddogaethau uwch, fel ffrydio gyda'ch brand eich hun, yn gofyn ichi gael cyfrif busnes, sy'n dechrau am £159 y mis

- Rhai o'r pryderon ynghylch diogelwch ar-lein a godwyd ar ddechrau'r pandemig,

- Mae defnydd llyfn yn dibynnu ar ansawdd camera a chysylltiad rhyngrwyd pob cyfranogwr

- Gall ffrydio i Facebook gan ddefnyddio Zoom fod yn anrhagweladwy 

Mae'r rhan fwyaf o'r problemau yn hawdd eu datrys, ond ein prif awgrym yw recordio'r sesiynau byw (gan ddefnyddio'r swyddogaeth recordio yn Zoom ei hun), rhag ofn y bydd y cysylltiad yn cael ei golli, naill ai o'r rhyngrwyd, neu gyswllt rhwng Zoom a'ch cyfrif cyfryngau cymdeithasol.  

 

Ffrydio Zoom 

Rydych wedi penderfynu eich bod eisiau defnyddio Zoom. Mae gennych ffrwd fyw ar y ffordd, beth ydych chi'n ei wneud nawr? 

Y peth cyntaf i'w wneud, yw dechrau cyfarfod. Gallwch ddod o hyd i'r tiwtorial yma

Wedi ichi ddechrau'r cyfarfod, mae angen ichi fod wedi galluogi i'r cyfarfod gael ei ffrydio'n fyw i gyfryngau cymdeithasol Tiwtorial yma ar gyfer Facebook neu YouTube

Mae'n ddefnyddiol nodi bod angen i chi hefyd osod eich cyfrif YouTube gyda chaniatâd ffrydio byw - gall hyn gymryd hyd at 24 awr i'w ddilysu

Mae'n bwysig nodi bod 20 eiliad o oedi rhwng Zoom a'r ffrydio ar eich llwyfannau.

 

Rolau

Mae ein ffordd o weithredu yn defnyddio dwy swydd hanfodol yn ogystal ag unrhyw berfformwyr neu goreograffwyr sy'n cymryd rhan.

Rheolwr Llwyfan Digidol - Rhywun fel fi i redeg ochr dechnegol y perfformiad byw, mae hyn yn cynnwys rhedeg sgriniau cynnal, y gerddoriaeth a'r sain, ciwio perfformwyr yn union fel ar lwyfan, a chwarae rôl ffilmiwr

Arweinydd Cyfryngau Cymdeithasol - Person eilaidd i fynd yn fyw ar eich sianel gymdeithasol, sicrhau bod y negeseuon yn gywir, cysylltu â'r cynulleidfaoedd yn ystod y perfformiadau (gan fod perfformiadau sy'n cael eu ffrydio ar gyfryngau cymdeithasol yn annog adborth mewn amser real) a chadw llygad ar iechyd y ffrwd.

Perfformwyr  Mae'n bwysig nodi y bydd eich ffrwd ond yn edrych mor slic â'ch perfformwyr, meddyliwch am oleuadau (ac amser y dydd y byddwch yn ymarfer os ydych yn defnyddio golau naturiol) ffordd o osod y camera, fframio saethiadau, ac annog defnyddio ceblau ethernet ar gyfer cysylltiadau sefydlog.
Os ydych yn chwilio am ddelweddau siarp, ystyriwch ddefnyddio ffonau clyfar gan fod y camerâu yn aml o ansawdd llawer uwch - ac mae meddalwedd rhad ac am ddim i ddefnyddio eich ffôn fel gwe-gamera ar gael pe bai angen i'ch perfformwyr gael y profiad sgrin lawn.

Mae'n bwysig mai'r rolau hyn yw gwahoddwr a chyd-wahoddwr y cyfarfod. 


Mae yna swyddogaethau sydd ond ar gael i'r Gwahoddwyr (Am ragor o wybodaeth am yr hyn y gall gwahoddwyr a chyd-wahoddwyr ei wneud dilynwch y ddolen hon).

 

Sinematograffi

Ar gyfer sesiwn Holi ac Ateb syml, bydd yr Arweinydd Cyfryngau Cymdeithasol yn gwahodd (gan mai dim ond gwahoddwr sy'n meddu ar y swyddogaeth 'mynd yn fyw'), gan gadw llygad ar y ffrwd a bydd y Rheolwr Llwyfan Digidol yn cyd-wahodd.

Fodd bynnag, un o'n hatebion mwyaf creadigol yn ystod perfformiadau fu'r gallu i gyfeirio'r sinematograffi drwy ddefnyddio'r
swyddogaeth Sbotolau i ganolbwyntio ar un dawnsiwr ar y tro, yn hytrach na dangos y fformat grid bob tro.

Dim ond gwahoddwr a all ddefnyddio'r sbotolau – yn yr achosion hyn, rydym yn trosglwyddo swyddogaeth y gwahoddwr i'r arweinydd cyfryngau cymdeithasol i fynd yn fyw, yna ei drosglwyddo'n ôl i'r Rheolwr Llwyfan Digidol i ddefnyddio'r sbotolau.

 

dancers, dancing via zoom using interesting perspective

 

 

Cyfryngau - Cerddoriaeth, Sain a Sgriniau Cynnal

Os ydych yn defnyddio cyfryngau allanol a recordiwyd ymlaen llaw, fel cerddoriaeth neu fideo, parhewch i ddarllen.
Sylwch nad dyma'r gosodiad ar gyfer sain na cherddoriaeth fyw – sy'n dod gyda'i heriau ei hun.

Y disgrifiad isod yw ein gosodiad technegol – mae'n gofyn am ambell i sgrin a rhywfaint o ddealltwriaeth - dyma'r gosodiad rydym yn argymell ar gyfer ffrydio yn y ffordd fwyaf llyfn, heb straen.
Efallai na fydd y defnydd o sgriniau dwbl neu feddalwedd ciwio ar gael i chi, felly rydym yn eich annog i archwilio a bod yn amyneddgar.

 

Ar gyfer perfformiadau, mae ein SM Digidol yn defnyddio 2 gyfrifiadur a 3 sgrin, a 2 sgrin ar gyfer sesiwn Holi ac Ateb mwy syml lle nad oes angen cerddoriaeth.

Defnyddir y cyfrifiadur cyntaf i redeg y sgriniau cynnal galw a rhannu (sy'n dynodi bod y ffrwd ar fin dechrau, er enghraifft) ac mae'r ail yn cael ei ddefnyddio i giwio traciau cerddoriaeth yn llyfn.
Os nad yw hyn ar gael i chi rydym yn argymell trydydd person yn benodol yn yr alwad i chwarae'r gerddoriaeth a gweithredu fel technegydd sain.

Mae'n werth nodi yma bod Perla yn gweithio'n

Perla’s set up for a simple stream. The right laptop controls the meeting, allowing her to cue people using the chat function and mute participants. On the left holding-screens keep audiences informed.
Gosodiad Perla ar gyfer ffrwd syml. Mae'r gliniadur ar y dde yn rheoli'r cyfarfod, gan ei galluogi i giwio pobl gan ddefnyddio'r swyddogaeth sgwrsio a thawelu cyfranogwyr. Ar y chwith, mae sgriniau cynnal yn hysbysu'r cynulleidfaoedd

 

 

Sain

Mae gosodiad Perla ar gyfer perfformio yn gofyn am liniadur ar wahân i redeg y sain sy'n cysylltu â Zoom drwy ail gyfrif (am ddim).
Caiff sain ei rhannu drwy ddefnyddio'r swyddogaeth 'rhannu sain ar y cyfrifiadur' gyda'r fideo a'r meicroffon wedi'u tawelu a defnyddir clustffonau yn y cyfrifiadur hwn i osgoi adborth.

noder: Rhaid i'r gwahoddwr sicrhau bod yr opsiwn rhannu sgrin a sain yn cael ei wirio ar gyfer pob cyfranogwr
 

Noder: Gan ein bod yn cynnal fersiynau byw o'n repertoire cyfredol, rydym yn gallu defnyddio'r rhaglen theatraidd QLab i redeg ein cerddoriaeth oherwydd bod y rhestrau ciwio wedi cael eu creu ar gyfer sioeau byw ac wedi eu cymysgu'n barod i'w chwarae.

Perla’s set up when also using QLab to run the sound and cue the various parts of the stream; headphones are used to prevent feedback.
Gosodiad Perla pan fydd hi hefyd yn defnyddio QLab i redeg y sain ac i giwio gwahanol elfennau'r ffrwd; defnyddir clustffonau i atal adborth.

 

Sgriniau Cynnal

Gwnaethom nifer o sgriniau cynnal i hysbysu cynulleidfaoedd, o'r amlwg "Bydd y ffrwd hon yn dechrau'n fuan" i chwarae tra bod eich cynulleidfa yn ymgynnull a gweithredu fel llen felfed, ddigidol, i'r "Problemau technegol - arhoswch eiliad" rhag ofn.
 Dim ond delweddau wedi eu creu'n fideos yw'r rhain, rydym yn eu gwneud cyn hired ag y mae angen iddynt fod, ac yna maent yn cael eu ffrydio i gynulleidfaoedd gan ddefnyddio'r
swyddogaeth Rhannu Sgrin

 

 

holding screen with theatrical image and text reading "the stream will begin shortly"

Paratoi eich perfformwyr a'ch gofod digidol

Anfonwch ddolen y cyfarfod at y cyfranogwyr a chynhaliwch gyfarfod paratoi gyda nhw; gwnewch yn siŵr eu bod yn gwybod y rheolaethau sylfaenol, sut i ymuno â'r cyfarfod, sut i dawelu, dad-dawelu, ail-ymuno os ydynt yn colli signal. Gwiriwch fod eu saethiad camera'n dda, y math o ddyfais y maent yn ei defnyddio, p'un a allwch eu clywed a'u gweld yn glir, ayyb. 

Ar gyfer yr ymarferion gorau wrth siarad â'r camera, gweler y PDF yma yr ydym wedi ei lunio ar gyfer ein tîm ein hun.

Fel person tu ôl i'r llenni, bydd angen i chi wirio'r gosodiadau sain a fideo yn y cyfarfod a dod i arfer â rhoi cyfarwyddiadau drwy'r camera i ddatrys problemau ar gyfer pobl eraill. Ydi, mae cymorth TG yn rhan o'ch swydd nawr; treuliwch gwpl o oriau gyda rhywun arall ar alwad Zoom i wirio beth sy'n newid os ydych yn ticio ac yn dad-dicio blychau. Rhowch amser i chi'ch hun ddatrys heriau bob tro.  
 

Rydym yn argymell cyfarfod cychwynnol o leiaf ychydig ddyddiau cyn y ffrwd, gallwch drafod y gofynion, ar gyfer pawb, gan gynnwys unrhyw ddisgwyliadau sydd gan y tîm creadigol.
 
Cymerwch y cyfle i wneud yn siŵr bod pawb yn clywed popeth yn glir os ydych chi'n defnyddio sain, neu fod pawb yn gallu gweld newidiadau ac adnabod ciwiau, os ydych yn defnyddio fideo. Gwnewch yn siŵr eich bod yn chwarae'r traciau, eich bod yn rhannu'r sgriniau, popeth y gallai fod angen i chi ei baratoi.
 

 

Er mwyn sicrhau bod pawb yn deall beth i'w wneud, trafodwch bopeth. Ewch o un peth i'r llall, o'r funud y byddwch yn mynd yn fyw i'r funud y mae'r ffrwd yn dod i ben. Penderfynwch ar y ciwiau a fydd gennych, naill ai'n lleisiol neu'n weledol. Disgrifiwch iddynt y broses o ddechrau a stopio'r ffrwd ac, yn bwysig iawn, nodwch y broses; hyd yn oed yn fras. Bydd pobl yn gofyn i chi ailadrodd y wybodaeth ac mae cysondeb yn allweddol.

 

Ciwio perfformiad sy'n cael ei ffrydio

Dyma'r darn anoddaf. Rydym yn argymell yn gryf bod pwy bynnag sy'n gwneud y ciwio yn brofiadol o safbwynt sioeau byw, gan fod pontio llyfn yn gofyn am hyder, ymarfer, a meddwl tawel rhag ofn i rywbeth fynd o'i le.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn ymarfer, ar ben eich hun neu mewn galwad Zoom, gyda'r arweinydd cyfryngau cymdeithasol, fel eu bod yn gweld yr amser oedi, sut mae'n edrych ar y cyfryngau cymdeithasol, ayyb. Cofiwch, nad yr hyn a welwch ar Zoom fydd yn cael ei ffrydio o reidrwydd – felly mae'n bwysig profi hyn hefyd.

Ar YouTube, gallwch ffrydio'n breifat yn hawdd, mae gan Facebook swyddogaeth 'profi' ar y
'cynhyrchydd byw' newydd, er ein bod wedi ei weld yn ansefydlog ac yn hytrach, yn cael ei ffrydio i gynulleidfa gyfyngedig iawn yn ystod y cyfnod profi.

 

Perla looks out over an empty auditorium
Mae Perla yn wynebu awditoriwm gwag

 

Yn ystod Ffrwd

Mae'r canlynol yn rhestr o weithredoedd mae ein SM Digidol yn ei wneud yn ystod ffrwd.

Mae'r rhain wedi eu hysgrifennu dan y dybiaeth mai'r Gwahoddwr yw'r person sy'n mynd yn fyw a'r cyd-wahoddwr yw'r SM. Ni fydd "sbotolau" yn y fersiwn hwn wedi ei giwio: 
 

  1. Gwnewch yn siŵr fod pawb yn barod ac yn y galwad Zoom o leiaf 10 munud cyn iddo ddechrau, gan eto ganiatáu amser i ddatrys problemau.  
  1. Diffoddwch eich fideo eich hun a gofynnwch i bawb na fydd yn weladwy ar yr alwad i droi eu camerâu i ffwrdd hefyd - gwiriwch y botwm "Cuddio cyfranogwyr nad ydynt ar fideo"
  1. Tua 3 munud cyn mynd yn fyw, gofynnwch i bawb i dawelu eu meicroffonau.  
  1. Sefydlwch sgrin gynnal ar sgrin 2.  
  1. Rhannwch eich sgrin drwy Zoom, ynghyd â sain y cyfrifiadur os oes angen. 
  1. Pawb i baratoi "Ar fin mynd yn fyw"  
  1. Ciwio'r Gwahoddwr i fynd yn fyw ar sianel y gymdeithasol. 
  1. Tawelwch eich meicroffon eich hun.  
  1. Gofynnwch am gadarnhad ysgrifenedig bod y ffrwd wedi dechrau a'i bod wedi'i chysylltu â'r sianel gymdeithasol ac yn gweithio   
  1. Cyfathrebwch drwy'r swyddogaeth sgwrs ein bod yn fyw (Y sgrin gynnal sydd i'w weld ar ffrwd).  
  1. Dechreuwch recordio 
  1. Paratowch ail gyfrifiadur sain. Byddwch yn barod i rannu sain yn unig. 
  1. Arhoswch nes bod y sioe yn barod i ddechrau. 
  1. Pawb ar y swyddogaeth sgwrs i fod yn barod "Ar fin dileu'r sgrin gynnal" 
  1. Arhoswch am gydnabyddiaeth bod y cyfranogwyr yn barod   
  1. Stopiwch Rannu'r sgrin. 
  1. DEWISOL - dad-dawelwch y meicroffonau, neu caniatewch i gyfranogwyr ddad-dawelu'r sain fel sydd angen iddynt wneud.  
  1. Dechreuwch rannu'r sain. 
  1. Ciwio sioe drwy QLab fel arfer. 
  1. Byddwch yn barod ar sgrin 2 ar gyfer "anawsterau technegol" (Ond yw defnyddio os oes angen) 
  1. Tua diwedd y sioe, byddwch yn barod ar sgrin 2 ar gyfer y sgrin gynnal "Diwedd y ffrwd". 
  1. Pan fydd diwedd y ffrwd yn cael ei arwyddo (signal neu amser a gytunwyd yn flaenorol), tawelwch bob meicroffon. 
  1. Rhannwch y sgrin gynnal. 
  1. Pawb i aros wedi'u tawelu.  
  1. Arhoswch am neges gan y Gwahoddwr yn dweud bod y ffrwd wedi dod i ben. 
  1. Stopiwch recordio. 
  1. Dad-dawelwch y meicroffon. 
  1. Cyfathrebwch ddiwedd y ffrwd, gall pawb stopio.  
  1. Disgwyliwch am adborth. 

  

Mae adborth yn bwysig. Trafodwch gyda'ch tîm yr hyn a aeth o'i le. Rydym i gyd yn mynd drwy broses ddysgu; mae'n iawn i wneud camgymeriadau. Roedd yn ddefnyddiol iawn i ni, wrth inni fyfyrio ar yr hyn yr ydym wedi'i wneud, er mwyn meddwl am atebion gyda'n gilydd.  

Rydym yn gobeithio y bydd y wybodaeth yma'n ddefnyddiol i chi a byddwch yn gallu parhau i greu Celf at fwynhad nifer o bobl.  

Oes gennych chi gwestiynau neu geisiadau ar gyfer gwasanaethau Perla fel Rheolwr Llwyfan Digidol? E-bost megan@ndcwales.co.uk