Matthew William Robinson AUGUST Gwybodaeth ynghylch y cynhyrchiad 30 munud AUGUST gan Matthew William Robinson. "Wrth i’r haul fachlud, newidiodd popeth" Yn teithio fel rhan o Teithio rhyngwladol Dysgwch fwy am berfformiadau rhyngwladol Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru. Gwybod mwy Machlud yr haul sydd wedi ysbrydoli AUGUST – gofod rhwng rheolaeth a rhyfyg. Gorffen a ffarwelio yw hanfod AUGUST. Y newidiadau sy’n ein dwyn ynghyd ac yn ein gwahanu. Law yn llaw â lliwiau gwan y cyfnos a fflachiau neon y nos, mae AUGUST yn teithio trwy dirwedd synhwyraidd sy’n symud rhwng y peryglus a’r hardd. Cydweithrediad artistig rhwng y coreograffydd Matthew William Robinson, y cyfansoddwr Torben Sylvest, y dylunydd George Hampton Wale, y dylunydd goleuadau Emma Jones ac artistiaid Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru Tîm Creadigol Coreograffydd: Matthew William Robinson Cyfansoddwr: Torben Sylvest Dylunio Gwisgoedd: George Hampton-Wale Dyluniad Goleuo: Emma Jones Creu Gyda: Alys Davies, Samuel Gilovitz, Jill Goh, Niamh Keeling, Mario Manara, Edward Myhill, Tom O’Gorman and Faye Tan Matthew William Robinson Mae Matthew Robinson (ef) yn artist gweithredol sydd wedi'i leoli yn y Deyrnas Unedig ar hyn o bryd. Bydd yn gweithio ar y cyd ag eraill yn rhyngwladol, mewn amrywiaeth o gyd-destunau - fel dawnsiwr, coreograffydd, hwylusydd, cyfarwyddwr ymarferion a chyfarwyddwr artistig, ac ef yw Cyfarwyddwr Artistig presennol Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru. Mae ei waith coreograffi wedi cael ei gyflwyno'n eang ledled y Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol, mewn lleoliadau a gwyliau yn Ewrop a thu hwnt. Drwy gyfrwng y corff, mae'r gwaith yn mynd ati i geisio cyfleu gwrthddywediadau ac emosiynau cymhleth, drwy gyfansoddiadau coreograffig hynod gorfforol. Gan gydweithio ar draws ffurfiau, mae Matthew'n rhan o sawl partneriaeth gydweithredol sydd eisoes ar y gweill, a rhai sydd yn yr arfaeth, ym meysydd sain, ffasiwn, theatr a thechnoleg. Coreograffwr Matthew William Robinson Galeri
Teithio rhyngwladol Dysgwch fwy am berfformiadau rhyngwladol Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru. Gwybod mwy