CDCCymru yn Cyflwyno Teithio rhyngwladol Gwybodaeth Gyffredinol Mae CDCCymru yn cyflwyno cyfleoedd i’r cyhoedd brofi dawns gyfoes mewn gwahanol ffyrdd. Gallwn gynnig: gweithdai gydag ysgolion a grwpiau, perfformiadau ‘Darganfod Dawns’ ar gyfer ysgolion a sgyrsiau cyn / ar ôl sioeau, a chyfleoedd i gynulleidfaoedd. Rhowch wybod i ni os hoffech chi archebu unrhyw un o’r gweithgareddau ychwanegol o amgylch y perfformiadau. Cwmni Teithiol: 16 o bobl yn cynnwys 10 dawnsiwr, Cyfarwyddwr Artistig, Cyfarwyddwr Ymarfer, Cynhyrchydd a thechnegwyr. Gall CDCCymru ddarparu’r holl offer goleuo, sain a llwyfan os oes angen. Lle: mae 12m x 11m yn ddelfrydol, o leiaf 10m x 9m ar gyfer pob gwaith. Cludiant: Rydym yn teithio gyda fan fawr (os yw llwybr ffordd yn bosibl) yn dibynnu ar faint o offer technegol y gellir ei ddarparu (yn dibynnu ar y repertoire). Technegol: Mae CDCCymru yn teithio gyda desg oleuadau ETC GIO ac yn rheoli sain trwy Qlab ar gyfrifiadur Macbook Pro.
Wild Thoughts Dylech ddisgwyl dawns ddi-ofn a thrawiadol, yn llawn o hiwmor chwareus sy’n galw ein cyrff yn ôl i symud ac i fwynhau. Gwybod mwy
Why Are People Clapping!? Wedi’i hysbrydoli gan gerddoriaeth glapio’r cyfansoddwr Steve Reich, mae ‘Why Are People Clapping?’ yn defnyddio rhythm ac offerynnau taro fel sylfaen. Gwybod mwy