2 dancers hugging

Canslo teithiau’r Gwanwyn 2021 i'r DU ac Ewrop

O ganlyniad i'r pandemig COVID 19 parhaus, bu'n rhaid i ni benderfynu canslo ein teithiau Gwanwyn 2021 i'r DU ac Ewrop. Mae'r cyfyngiadau cyfredol yn ei gwneud hi'n rhy anodd i ni greu, ymarfer a theithio fel y cynlluniwyd. 

Dywedodd Paul Kaynes, y Prif Weithredwr, "Rydym yn hynod siomedig ein bod wedi gorfod gwneud y penderfyniad hwn. Rydym ar dân eisiau perfformio'n fyw eto ond bydd yn rhaid i hynny aros tan yn ddiweddarach yn y flwyddyn. Rhaid i ni gymryd camau cadarnhaol ymlaen unwaith eto ac edrych ymlaen at yr haf pan rydym yn gobeithio perfformio yn yr awyr agored o amgylch Cymru."

Mae llawer o'n cynnwys digidol yn dal i fod ar gael ar ein Hwb Digidol i'ch cadw i symud ac wedi'ch ysgogi. Mae gennym gynlluniau digidol newydd dros y misoedd nesaf gan gynnwys gweithdai ar-lein sy'n gysylltiedig â'n ffilmiau dawns a barddoniaeth byr, a phrosiect ffilm newydd yn arddangos dawns ledled Cymru. Cadwch lygad ar ein sianelau cyfryngau cymdeithasol i gael newyddion am y rhain a mwy. 

Ar ran y Cwmni cyfan, rydym yn gweld eich eisiau, arhoswch yn ddiogel ac yn iach nes y gallwn fod gyda'n gilydd eto.