2 dancers in red and blue striped pajamas. Both looking forward, one pouting and the other framing the others face with their hands

Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru yn adfywio darn dylanwadol Nigel Charnock Lunatic ar gyfer taith y Gwanwyn fel rhan o drefniant triphlyg

Yn 2020, bydd Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru (CDCCymru) yn dathlu Nigel Charnock, y perfformiwr, cyfarwyddwr a choreograffydd a dorrodd dir newydd. Bydd taith nesaf y cwmni, KIN, yn cynnwys Lunatic, darn bywiog Charnock, a fydd yn cael ei berfformio ochr yn ochr â gwaith newydd gan Alexandra Waierstall yn ogystal â darn gan Gyfarwyddwr Artistig y Cwmni, Fearghus Ó Conchuir. Cafodd Lunatic ei greu yn wreiddiol ar gyfer y cwmni yn 2009, wedi ei ysbrydoli gan nosweithiau digwsg, breuddwydion a'r lleuad. Mae'n herio themâu hunaniaeth genedlaethol, rhyw a dosbarth sydd yn berthnasol unwaith eto ddeng mlynedd yn ddiweddarach.

KIN yw'r tymor cyntaf i Gyfarwyddwr Artistig CDCCymru, Fearghus Ó Conchuir, ei drefnu, a bydd yn ymweld â 12 lleoliad ledled Cymru a Lloegr rhwng mis Chwefror a mis Mai 2020, gan gynnwys The Place, sef cartref Ysgol Ddawns Gyfoes Llundain, lle buodd Nigel Charnock yn astudio yn 1981.

Mae'r ail ddarn, Time and Time and Time yn ddarn newydd, wedi ei goreograffu gan Alexandra Waierstall. Wedi ei geni yn Lloegr, ei magu yng Nghyprus a nawr yn byw yn yr Almaen, mae Waierstall yn creu gwaith cain a disglair sy'n symud grwpiau o gyrff gydag ymdeimlad cryf o gerddoroldeb a chorfforolrwydd barddonol.

Mae Rygbi: Yma I Here gan Gyfarwyddwr Artistig CDCCymru, Fearghus Ó Conchuir, yn cwblhau'r trefniant triphlyg. Roedd y darn yn rhan o brosiect wedi ei ysbrydoli gan ddiwylliant rygbi Cymru, ac aeth ar daith i Japan fel rhan o daith yr Hydref y Cwmni, Roots, er mwyn cefnogi carfan Cwpan Rygbi’r Byd Cymru. Mae'r darn newydd hwn yn bortread emosiynol o obaith, gogoniant a chyfeillgarwch. Mae'n dathlu'r balchder a'r angerdd y mae chwaraewyr a chefnogwyr yn ei brofi gyda'i gilydd yn wyneb buddugoliaeth a cholli.

Eglura Fearghus Ó Conchuir, "Rôl Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru yw chwarae rhan yn adlewyrchu natur esblygol cenedl a chymuned. Mae dawns yn ffurf gelfyddyd bwerus sydd yn uno pobl i archwilio beth yw cymunedau a beth allant fod, gan brofi syniadau gwahanol o berthnasoedd a gwerthoedd. Mae'r tri darn o waith sy'n cael eu cyflwyno yn KIN yn arddangos cynnig bob un o'r coreograffwyr o sut gall grŵp weithio gyda'i gilydd."

Mae Graham Clayton-Chace, sy'n cynnal Ystâd Charnock yn dw eud "Mae penderfyniad Fearghus a CDCCymru i adfywio'r gwaith yn gyfle arbennig i ailgysylltu â'r weledigaeth honno ar gyfer profiad perfformio mwy cysylltiol a phwysig, a phan rydym yn ei wylio nawr - mae'n deimlad hudolus i fynd yn ôl i'r byd a grëwyd ganddo - yr egni a'r dewrder corfforol, digrifwch a harddwch."

Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn ndcwales.co.uk/cy/kin ac ar ein cyfryngau cymdeithasol @ndcwales #KIN2020

Addasrwydd cynulleidfa - Yn y darn Lunatic, mae gwisgoedd yn cynrychioli'r thema ryweddhylifol sy'n cynnwys dawnswyr yn eu dillad isaf. Mae hefyd ystumiau dwylo yn y darn sydd yn cael eu hystyried i fod yn sarhaus.

Penawdau lluniau: Kirsten McTernan