Diwrnod Hwyl i’r Teulu Gweithdai creu propiau a dawnsio am ddim ar gyfer plant 7-11 oed a’u hoedolion! Ymunwch â CDCCymru am weithdy dawnsio a chreu propiau hwyliog, cyn gwylio sioe awr o hyd sy’n cyfuno hwyl y ffair gydag acrobateg a dawns, er mwyn archwilio ystyr bywyd, cychwyniad y byd ffilm, a’r hyn sy’n ein denu at hudoliaeth. Rydym yn cynnig gweithdai am ddim i gynulleidfaoedd Zoetrope, ein sioe newydd ar gyfer ysgolion a theuluoedd. Gall y rheiny sy’n mynychu ddydd Sadwrn 27 Ebrill fwynhau gweithdy creu propiau ac yna cyfle i ddawnsio, cyn gwylio perfformiad anhygoel. 11am-12pm: Creu eich Zoetrope eich hun 12pm-1pm: Gweithdy Dawns Theulu 2.30pm – 3.30pm: Perfformiad Nid oes angen cadw eich lle ymlaen llaw. Bydd gweithdai yn cael eu cynnal yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ar lwyfan Glanfa a Lolfa - galwch heibio a chymerwch ran. Mae’r gweithdai am ddim i unigolion sy’n meddu ar docynnau ar gyfer y perfformiad Zoetrope. Zoetrope Bydd Zoetrope gan Gwmni Dawns Cenedlaethol Cymru yn ddihangfa hudol, llawn dychymyg i bob oedran. Wedi’i ysbrydoli gan ffair bleser Fictoraidd, syrcas ac animeiddiad cynnar, disgwyliwch weld cast bach o berfformwyr anhygoel o ddawnus yn neidio ac yn olwyn-droi ar draws y llwyfan wedi'u gwisgo fel tsimpansîaid, madfallod a sgerbydau ac yn symud trwy rithiau hudolus clyfar a gynhyrchir gan olau, sain a gwisgoedd. Mae'r coreograffydd enwog, Lea Anderson MBE wedi bod yn gweithio gyda'r dawnswyr talentog o Gwmni Dawns Cenedlaethol Cymru (CDCCymru) i greu eu sioe gyntaf yn arbennig i deuluoedd, a fydd yn cael ei dangos am y tro cyntaf yng Nghaerdydd ym mis Rhagfyr. Archebwch Nawr Beth yw Zoetrope? Mae zoetrope yn ddyfais animeiddio cyn y ffilm sy’n cynhyrchu camargraff o symudiad drwy arddangos cyfres o luniadau neu ffotograffau sy’n dangos camau dilynol y symudiad hwnnw. Beth i’w ddisgwyl yn Zoetrope, gweld y gwagle, cwrdd â’r cymeriadau: Dod o hyd i’r gweithdai Ar lan y dŵr ym Mae Caerdydd, gallwch gyrraedd Canolfan Mileniwm Cymru yn y car, ar y trên, mewn bws, ar feic neu hyd yn oed ar gwch. Ein Cyfeiriad: Canolfan Mileniwm Cymru, Plas Bute, Bae Caerdydd, CF10 5AL Ardal: Glanfa a Lolfa Teithio a Pharcio Cyfleusteraur Adeilad Dod o hyd i’r perfformiad Mae mynedfa y Tŷ Dawns yng nghefn Canolfan Mileniwm Cymru, gyferbyn â swyddfeydd Llywodraeth Cymru (Tŷ Hywel). Mae oddeutu 2-3 munud ar droed o du blaen y Ganolfan. Ein Cyfeiriad: Tŷ Dawns, Canolfan Mileniwm Cymru, Stryd Pen y Pier, Bae Caerdydd, CF10 4PH Mae drysau yn y Tŷ Dawns yn agor 20 munud cyn amser cychwyn y sioe. Mae digon o luniaeth ar gael yng Nghanolfan Mileniwm Cymru neu mewn sawl lle ym Mae Caerdydd. Mae croeso i chi gysylltu â ni os ydych yn newydd i'r ardal ac yr hoffech wybod mwy! Cyrraedd y Tŷ Dawns o Ganolfan Mileniwm Cymru. Gallwch ein cyrraedd mewn car, ar drên, beic neu fws. Mae gwasanaethau bws yn stopio y tu allan i Ganolfan y Mileniwm ac mae yna le i chi gadw eich beiciau wrth y drysau i'r Tŷ Dawns. Os ydych yn gyrru, mae gan Fae Caerdydd nifer o gyfleusterau parcio. Mae Q-Park Bae Caerdydd gyferbyn â Chanolfan Mileniwm Cymru ar Stryd Pierhead ac mae ar agor 24 awr y dydd, defnyddiwch CF10 4PH i wneud eich ffordd i'r cyfeiriad cywir. Am unrhyw wybodaeth arall ynglŷn â thrafnidiaeth, parcio anabl neu fynediad ewch i wefan Canolfan Mileniwm Cymru yma. Mynediad Mae’r Ystafell Las (man theatr y Tŷ Dawns) yn hygyrch drwy lifft, ac mae lleoedd i gadeiriau olwyn ar gael ar gais. Mae toiledau hygyrch wedi’u lleoli ar y llawr cyntaf ger y theatr. Methu cyrraedd y Diwrnod Hwyl i’r Teulu, ond eisiau cymryd rhan? Mae gennym gyfres o fideos a thaflenni gweithgareddau am ddim ichi eu gwneud gartref! Gwnewch eich Zoetrope eich hun Dysgwch ddarn dawns o Zoetrope Ewch ati i greu eich creadur cynhanesyddol eich hun Cyflawnu Tudalen Liwio