zoom DfP class
CDCCymru yn Cyflwyno

Ed and Flow

Wedi'i greu gan aelodau o NDCCymru Dance for Parkinson's

Crëwyd Ed and Flow yn ystod tymor Hydref 2020 ein dosbarthiadau Dawns ar gyfer Parkinson’s ar-lein. Mae'r ffilm Ddawns hon wedi'i hysbrydoli gan Clapping gan Ed Myhill, fersiwn ar-lein o fersiwn lwyfan Why are People Clapping?!, a grëwyd yn ystod COVID 19. Wrth i'n dosbarthiadau Dawns ar gyfer Parkinson’s symud ar-lein, yn debyg i gwmni CDCCymru, cawsom ysbrydoliaeth gan y repertoire a'u haddasu ar gyfer y platfform newydd hwn.

 

Mae Why are People Clapping wedi ei ysbrydoli gan gerddoriaeth Clapping Steve Reich, sydd hefyd yn ysbrydoliaeth i'r darn hwn.

"Ymunodd y coreograffydd Ed Myhill â'n dosbarth i drafod a dangos sut y creodd ei ddarn 'Clapping' ar-lein. Gan ganolbwyntio ar rai o'r elfennau rydym yn eu harchwilio yn ein sesiynau DFP megis curiad, mynegiant wyneb a chreadigrwydd, gwnaethom weithio ar ail-ddychmygu rhannau o ddarn Ed yr oeddem yn teimlo oedd yn tynnu sylw at yr elfennau hyn tra'n caniatáu i bersonoliaethau ein cyfranogwyr serennu."

- Yvette Halfhide