CDCCymru yn Cyflwyno FOLK gan Caroline Finn Gwybodaeth ynghylch y cynhyrchiad 28 munud Canllaw oed: 8+ Mae Folk yn cynnwys ymadroddion comig tywyll Finn am fywyd a phobl gan ddefnyddio ei harddull coreograffi gwahanol a diddorol iawn. Gan archwilio themâu dynameg gymdeithasol, daw golygfeydd a chymeriadau cyfarwydd a swreal yn fyw i dirwedd gerddorol eclectig a chyfareddol. Tîm Creadigol Artist Gweledol, Set a Dylunio: Joseff Fletcher Cerddoriaeth: Barcarola (Offenbach a Giraud) gan Mantavoni and his Orchestra, Midnight Waltz gan Adam Hurst, O Zorbas gan Mikis Theodorakis, Homo Fugit velut umbra gan Christina Pluhar & L’Arpeggiata, Black Gold gan Armand Amar + Sarah Nemtanu, Pepa gan Carles Santos, Threnody gan Goldmund Dylunio Golau: Joseff Fletcher Dylunio Gwisgoedd: Gabriella Slade Gwneuthurwr Gwisgoedd: Amy Barrett, Rhiann Houlihan Coreograffwr Caroline Finn Adolygiadau "Rhyfedd & gwych fel y mythau a’r chwedlau gorau i gyd" - - Matthew Bourne “Rwyf wrth fy modd yn gwylio pobl; eu nodweddion a’u rhesymwaith, a’r ffordd maen nhw’n gweithredu mewn sefyllfaoedd cymdeithasol gwahanol. Felly roeddwn am wneud darn sydd yn bennaf am ddynameg gymdeithasol - gan archwilio’r berthynas rhwng pobl a sut maen nhw’n ymddwyn pan fyddan nhw mewn grŵp o’i gymharu â sut maen nhw’n ymddwyn ar eu pen eu hunain. Beth sy'n gwneud i bobl ffurfio grŵp neu gysylltiad arbennig â rhywun? Beth sy’n alltudio pobl o grŵp a sut mae hyn effeithio ar eu hymddygiad? Hefyd, cefais fy ysbrydoli gan amrywiaeth a mynegiant y cymeriadau a’r cymunedau rydych chi’n eu gweld ym mhaentiadau olew yr 17eg a’r 18fed ganrif ac fe wnes annog y dawnswyr i greu eu cymeriadau eu hunain ar gyfer y darn yn seiliedig ar rai o’r paentiadau olew hyn. Roeddwn am greu cymuned swreal ond eto cyfarwydd i’r cymeriadau yn y darn fodoli ynddo - gan wthio’r ffin denau rhwng ffantasi a realiti; byd nad yw’n hawdd i’w adnabod, ond ar yr un pryd sy’n fyd y gallwn uniaethu ag ef ar ryw lefel.” -Caroline Finn Galeri