YMA | HERE Rhaglen Ddigidol Rhaglen ddigidol am ddim ar gyfer ein YMA | HERE Rhaglen: Heno, byddwn yn perfformio tri darn dawns gyda seibiant byr rhwng pob un felly ni fydd egwyl. Diolch am ymuno â ni a mwynhewch y sioe! Afterimage gan Fernando Melo (20 munud)Egwyl fer (10 minutes)Why Are People Clapping!? gan Ed Myhill (15 munud) Egwyl fer (10 minutes) Moving is everywhere, forever gan Faye Tan (17 munud) CWRDD Â’R DAWNSWYR: Joshua Attwood, Niamh Keeling, Ed Myhill, Aisha Naamani, Faye Tan, Marine Tournet and Tim VollemanMyfyriwr Lleoliad Gwaith Proffesiynol: Angharad Jones-Young, Mika George Evans DARLLENWCH EU BYWGRAFFIADAU YMA Cyfarwyddwr Artistig: Matthew RobinsonCyfarwyddwr Ymarferion: Charlotte PookRhelowr Cwmni: Karen ThomasPennaeth Cynhyrchu: Geraint ChinnockTechnegydd Sain a Dirprwy Reolwr Cynhyrchu: Charlie KnightTechnegydd Golau ac Ail-oleuydd: Adam Cobley Rheolwr Llwyfan: Franziska Kirchholtes Afterimage Mae Afterimage yn daith o luniau gwib; o ymddangos a diflannu. Defnyddir drychau ar y llwyfan i greu profiad theatraidd unigryw lle mae’r gorffennol a’r presennol yn gwrthdaro mewn dawns farddonol a chreadigol ei natur.Coreograffi: Fernando MeloCydweithiwr Creadigol: Shumpei NemotoDylunydd Set a Gwisgoedd: Yoko SeyamaGwneuthurwr Gwisgoedd: Brigdhe Penn, Deryn TudorCynllunydd Goleuadau: Peter LundinCerddoriaeth: ‘Quixotism Part 1’ by Oren Ambarchi, ‘15/15 A, 15/15 B and Zucht 2’ by Machinefabriek "Ar gyfer Afterimage datblygwyd cysyniad sy’n rhoi i’r gynulleidfa safbwyntiau gwahanol o’r pethau sy’n digwydd ar y llwyfan. Mae’r drych yn datgelu, yn cuddio ac yn lluosogi’n barhaus symud y dawnswyr... Mae’n broses o arbrofi cyson, rhoi cynnig ar bethau lle mae’r holl elfennau — dawnswyr, set, goleuadau a sain — yn gorfod cysoni’n berffaith.”" Fernando Melo A Wyddoch Chi? Mwy am Pepper’s Ghost. Mae Pepper’s Ghost yn dechneg rith a ddefnyddir mewn lleoedd o’r theatr i barciau thema. Cafodd yr effaith ei henw gan y gwyddonydd o Loegr John Henry Pepper, a wnaeth yr effaith yn boblogaidd mewn arddangosiad yn 1862. Cafodd ei defnyddio wedyn mewn sioeau carnifal ac i greu “Ysbrydion” ym mhob man o ddigwyddiadau séance i Disneyland. Yn fwy diweddar defnyddir yr effaith ar gyfer teleanogwyr ac i ddod â sêr megis Michael Jackson yn fyw eto ar lwyfan. Gwyliwch ein cyfweliad fideo isod gyda Fernando Tra bod ein dawnswyr yn paratoi ar gyfer yr act nesaf, dywedwch wrthym beth yw eich barn hyd yn hyn. Gallech hefyd gymryd yr amser hwn i ymuno â’n rhestr bostio neu wneud rhodd i’n helpu i barhau i ddawnsio trwy decstio’r gair ‘CDCCymru’ wedi’i ddilyn gydag unrhyw rif rhwng 1 ac 20 (£ 1-20), i 70085 Loading… Why Are People Clapping!? Cafodd Why Are People Clapping!? ei greu yn 2018 ac ers hynny mae wedi bod ar daith ledled Cymru ac wedi dod yn un o ffefrynnau’r cefnogwyr. Yn ystod y cyfnod clo daeth yn un o'r darnau dawns cyntaf yn y wlad i gael ei ail-greu yn benodol ar gyfer Zoom, a gallwch ei wylio o hyd yma, a fe'i defnyddiwyd hyd yn oed fel ysbrydoliaeth ar gyfer y ffilm ddawns fendigedig hon gan aelodau o’n grŵp Dawns ar gyfer Parkinson's Mae synnwyr digrifwch Ed yn glir yn y ddawns hon yn ogystal â’i werthfawrogiad o gerddoriaeth bywyd - gellir dod o hyd i rythm mewn gêm dennis, ôl traed mewn stryd wag ac yng nghuriad ein calonnau ein hunain - a gall dawns gael ei hysbrydoli gan yr angerdd hwnnw am fywyd, o dapio bysedd eich traed i’r ffordd y mae ein llygaid yn culhau pan fyddwn ni'n gwenu. Coreograffi: Ed MyhillDylunydd Gwisgoedd: Elin SteeleDylunio Sain: Benjamin SmithCynllunydd Goleuadau: Katy MorisonCerddoriaeth: The Tennis gan Max Peltier, The Drone gan Benjamin Smith, Clapping Music gan Steve Reich Elfennau o'r dyluniad goleuo gwreiddiol gan Jose Tevar Gwyliwch ein cyfweliad fideo isod gydag Ed Loading… Moving is everywhere, forever Cafodd Moving is everywhere, forever ei greu yn 2021 i ddathlu'r rhyddid rydym ni'n ei deimlo wrth ddawnsio neu symud - teimlad a all ddigwydd yn unrhyw le, i unrhyw un ac nad yw'n gyfyngedig i lwyfannau na chlybiau nos. Mae heddiw yn wahoddiad i golli eich hun yn symudiad hypnotig y dawnswyr gan fod y gerddoriaeth a grëwyd yn arbennig gan Larch yn darparu adrenalin di-stop a fydd yn gwneud i’ch calon chi guro mewn pryd i’r siwrnai wefreiddiol hon o rythm a llawenydd. Coreograffi: Faye TanCerddoriaeth: LarchGwisgoedd: Deryn TudorCynllunydd Goleuadau: Katy Morison “Mae Moving is everywhere, forever yn dathlu teimladau o ryddid, bytholrwydd, catharsis, cysylltiad, derbyniad, heddwch a'r holl deimladau annisgrifiadwy eraill sy'n dod o fod yn y foment pan rydym yn dawnsio a symud. Roeddwn i eisiau gwahodd cynulleidfaoedd i brofi realiti lle nad yw'r weithred hon o symud byth yn stopio, ac mae'r darn hwn yn awgrymu y gall y realiti hwn fodoli yn unrhyw le, ar unrhyw adeg. Mae gogoniant ‘am byth’ yn golygu nad oes yna ddechrau i’r profiad hwn, ac ni fydd byth yn dod i ben chwaith. Mae'r darn hwn yn teimlo fel cydweithrediad enfawr gyda llawer o bobl, gyda'i gamau cynharaf o ymchwil yn dechrau yn 2018. Hoffwn ddiolch yn arbennig i Richard Chappell, Charlotte Pook, Ben Wright, Perla Ponce, Adam Cobley a Chew Shaw En yn ogystal â dawnswyr CDCCymru am eu mewnbwn creadigol i'r darn hwn ar wahanol gamau mewn gwahanol ffyrdd, ac i Takako Hasegawa y cafodd ei eiriau doeth eu gwehyddu'n serendipaidd i gerddoriaeth Larch ar gyfer y darn hwn." Faye Tan Gwyliwch ein cyfweliad fideo isod gyda Faye i glywed am greu dawns ar gyfer lleoliadau awyr agored Loading… Os oes gennych 5 munud i'w sbario, byddem wrth ein bodd yn clywed mwy o'ch meddyliau Llewi'r Arolwg Llewi'r arolwg Chwarae eich rhan: Diolch am brynu tocyn heddiw a chefnogi CDCCymru. Fel elusen, rydym yn dibynnu ar gefnogaeth ein cynulleidfaoedd i'n helpu i ddod â llawenydd dawns i bob math o bobl ym mhob math o leoedd, o neuaddau tref a lleoliadau cymunedol, i lwyfannau a gwyliau rhyngwladol. Eleni rydym hefyd wedi gorfod addasu i effaith Covid 19 trwy ehangu ein cynnig ar-lein. Mae yna lawer o ffyrdd y gallwch chi wneud gwahaniaeth, o roi rhodd fach i ni neu ymuno â'n cynllun cefnogwyr Lifft, i'n cysylltu â'ch siopa ar-lein. Bydd unrhyw roddion bach neu fawr, yn helpu i gefnogi dyfodol CDCCymru. Eisiau mwy?I weld cyfleoedd i ddawnsio'ch hun, edrychwch ar ein gwaith ymgysylltu ac allgymorth neu os hoffech gael manylion am gyfleoedd gwirfoddoli gallwch ymweld â'n gwefan. Eisiau mwy? I weld cyfleoedd i ddawnsio'ch hun, edrychwch ar ein gwaith ymgysylltu ac allgymorth neu os hoffech gael manylion am gyfleoedd gwirfoddoli gallwch ymweld â'n gwefan. Dawnsio gyda’n Gilydd: Cyfres o ddosbarthiadau ar-lein ar gyfer bob oed a gallu Dawns ar gyfer Parkinson's: Dosbarthiadau wyneb yn wyneb a rhithiwr ar gyfer rhai sy’n byw gyda Parkinson’s Gwirfoddoli: Pa un a ydych am ein helpu gyda'n dosbarthiadau Parkinson's, ein gwaith teithiol, ein gwaith allgymorth lleol neu y tu hwnt, cofiwch gysylltu. Gwylio gyda’n Gilydd: Mwy o ddawns i’w wylio o gysur eich cartref, y traeth, y swyddfa - yn unrhyw le bron! Gyda Diolch i: