Young dancers smiling and a lizard prop from zoetrope

Diwrnod Hwyl i’r Teulu

Gweithdai creu propiau a dawnsio am ddim ar gyfer plant 7-11 oed a’u hoedolion!

Ymunwch â CDCCymru am weithdy chreu propiau hwyliog, cyn gwylio sioe awr o hyd sy’n cyfuno hwyl y ffair gydag acrobateg a dawns, er mwyn archwilio ystyr bywyd, cychwyniad y byd ffilm, a’r hyn sy’n ein denu at hudoliaeth.


Rydym yn cynnig gweithdai am ddim i gynulleidfaoedd Zoetrope, ein sioe newydd ar gyfer ysgolion a theuluoedd.

Gall y rhai sy’n mynychu Theatr Sherman, Caerdydd ar ddydd Sadwrn 21 Medi fwynhau gweithdy creu propiau a chael cyfle i ddawnsio, cyn gwylio perfformiad gwych.

Gweithgareddau o 1.30yp

Nid oes angen cadw eich lle ymlaen llaw.

Mae’r gweithdai am ddim i unigolion sy’n meddu ar docynnau ar gyfer y perfformiad Zoetrope.

Zoetrope 

Bydd Zoetrope gan Gwmni Dawns Cenedlaethol Cymru yn ddihangfa hudol, llawn dychymyg i bob oedran. Wedi’i ysbrydoli gan ffair bleser Fictoraidd, syrcas ac animeiddiad cynnar, disgwyliwch weld cast  bach o berfformwyr anhygoel o ddawnus yn neidio ac yn olwyn-droi ar draws y llwyfan wedi'u gwisgo fel tsimpansîaid, madfallod a sgerbydau ac yn symud trwy rithiau hudolus clyfar a gynhyrchir gan olau, sain a gwisgoedd. 

Mae'r coreograffydd enwog, Lea Anderson MBE wedi bod yn gweithio gyda'r dawnswyr talentog o Gwmni Dawns Cenedlaethol Cymru (CDCCymru) i greu eu sioe gyntaf yn arbennig i deuluoedd, a fydd yn cael ei dangos am y tro cyntaf yng Nghaerdydd ym mis Rhagfyr.

Archebwch Nawr

Beth yw Zoetrope?

Mae zoetrope yn ddyfais animeiddio cyn y ffilm sy’n cynhyrchu camargraff o symudiad drwy arddangos cyfres o luniadau neu ffotograffau sy’n dangos camau dilynol y symudiad hwnnw.

zoetrope logo

Beth i’w ddisgwyl yn Zoetrope, gweld y gwagle, cwrdd â’r cymeriadau:

mario dancing across the page in a series of still images

Methu cyrraedd y Diwrnod Hwyl i’r Teulu, ond eisiau cymryd rhan?

Mae gennym gyfres o fideos a thaflenni gweithgareddau am ddim ichi eu gwneud gartref!

Gwnewch eich Zoetrope eich hun

Dysgwch ddarn dawns o Zoetrope

Ewch ati i greu eich creadur cynhanesyddol eich hun

Cyflawnu Tudalen Liwio