
Boram Kim
Catachory
KNCDC X Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru
Y Byd Dawns sydd uwchlaw genre a ffurf, ac yn arwain at berthynas y tu hwnt i’r ffiniau
Wales Connection, cynhyrchiad bil dwbl newydd gan Kim Boram ac Anthony Matsena
Mae Cysylltiad Cymru yn brosiect cydweithredol rhwng Cymru a De Corea, lle caiff coreograffydd o Gymru ei baru â dawnswyr o Gorea a lle caiff coreograffydd o Gorea ei baru â dawnswyr o Gymru, gan gyrraedd uchafbwynt ar ffurf dau berfformiad yn Seoul, Tachwedd 2023.
Mae “Catachory”, sy’n golygu “golau anweledig”, yn cyfleu tarddiad bywyd.
Bydd y gwaith hwn yn “siwrnai sy’n chwilio am ‘catachory’” i’r rhai hynny nad ydynt yn adnabod y golau, er bod bywyd wedi tarddu o olau. Bydd popeth byw, yn cynnwys pobl, yn dychwelyd i’r llwch.
Ond wrth feddwl mwy am y peth, ar ddiwedd popeth fe fyddant yn y pen draw yn bodoli fel golau’r dechreuad. Yn Catachory, mae’r coreograffydd yn gofyn cwestiynau: “Sut y gallwn ddehongli’r golau?” “Pam ydym yn byw ac yn symud?” Mae’r perfformiad hwn yn ymdrech i ddod o hyd i’r golau ynof fi fy hun, a golau popeth arall, trwy ddeall ac archwilio’r corff a theimlo “catachory”, sy’n perthyn i bob un ohonom, yn y gorffennol, yn awr ac yn y dyfodol, gan beri inni ddisgleirio.
Coreograffydd Cynorthwyolr: Lee Hak
Dawnswyr: Samuel Gilovitz, Jill Goh, Pietro Mazzotta
Cyfarwyddwr Cerdd a Chyfansoddwr: Jang Younggyu
Boram Kim

Mae Kim Boram, coreograffydd a chyfarwyddwr artistig yr Ambiguous Dance Company, yn cyflwyno gwedd newydd ar ddawns gyfoes, gan weithio gydag amrywiaeth o genres, megis dawns gyfoes, hip hop, dawns stryd a bale.
Bwriad Kim yw coreograffu gweithiau ar sail dehongliad unigryw o gerddoriaeth, gan ddychwelyd at y “sŵn cyn y gerddoriaeth” a’r “corff cyn y ddawns”. Mae’r ymdrech hon yn ei gwneud yn bosibl i gysylltu cynulleidfaoedd yn agosach ac yn ddyfnach â harmoni cerddoriaeth a dawns benodol.
Mae ‘Tiger Is Coming’ a goreograffwyd gan Kim ar y cyd â’r band Leenalchi o Gorea wedi denu sylw cenedlaethol a rhyngwladol, ac yn 2021 ymddangosodd Kim yn fideo ‘Higher Power’ Coldplay, y band roc o Brydain. Yn y ffordd hon, mae Kim yn ceisio cyfathrebu’n fwy gweithredol gyda’r cyhoedd.


