Tocynnau Theatr Iolo yn Cyflwyno Baby, Bird & Bee / Babi, Aderyn a’r Wenynen 3 – 3 Mai 2025 45 munud Rhagolwg Dewch i ymlacio gyda’ch babi tra bod y garddwr yn brysur wrth ei waith yn plannu hadau ac yn dyfrio’r ardd brydferth. Theatr Iolo yn cyflwyno Baby, Bird & Bee | Babi, Aderyn a’r Wenynen Crëwyd gan Sarah Argent a Kevin Lewis Dewch i ymlacio gyda’ch babi tra bod y garddwr yn brysur wrth ei waith yn plannu hadau ac yn dyfrio’r ardd brydferth. Yn fuan bydd aderyn, gwenynen ac wrth gwrs y babanod yn gwmni hyfryd i’r garddwr hapus. Gyda’ch gilydd byddwch yn darganfod golygfeydd a synau’r ardd a bydd eich rhai bychain wrth eu boddau! Ar ddiwedd y sioe bydd cyfle i chi a’ch babi aros i chwarae gyda gwrthrychau sydd wedi’u dewis yn arbennig. Mae Sarah Argent a Kevin Lewis yn wneuthurwyr theatr arobryn sydd wedi creu nifer o sioeau hudolus ar gyfer babanod. Mae ganddynt ddawn arbennig o ddal sylw ac adlonni babanod a phlant ifanc. Perfformir Baby, Bird & Bee yn Saesneg a pherfformir Babi, Aderyn a’r Wenynen yn Gymraeg. Os ydych chi’n dysgu Cymraeg neu’n awyddus i ddysgu ambell i air Cymraeg newydd gyda’ch babi/babanod mae Babi, Aderyn a’r Wenynen yn ffordd berffaith o gyflwyno’r iaith i rai bychain. Cyfyngiad Oedran: 6 - 18 mis Gweledigaeth Theatr Iolo ydi cymdeithas lle mae pob plentyn yn gallu teimlo’i fod wedi’i ymrymuso a’i ysbrydoli. Gwnawn ein gorau glas i wneud hyn drwy gyfoethogi bywydau plant drwy brofiadau cofiadwy sy’n herio’r meddwl ac yn cyffroi’r dychymyg. Mae Theatr Iolo ar flaen y gad ym maes creu theatr i blant yng Nghymru ers dros bymtheng mlynedd ar hugain. Rydym yn frwd dros feithrin a thanio dychymyg a chreadigedd meddyliau ifainc, yn help i blant gael pen llinyn ar y byd o’u cwmpas a dod o hyd i’w lle ynddo. Rydym yn gweithio gyda’r artistiaid, yr awduron a’r creadigolion gorau, i greu theatr fyw, gweithdai a gweithgareddau cofiadwy a beiddgar yn y Gymraeg ac yn Saesneg ill dwy. Mae ein gwaith i fabis, plant a’r glasoed yn mynd ar daith drwy hyd a lled Cymru, gwledydd Prydain a gwledydd eraill y byd. Galeri Dates Dydd Sadwrn 3 Mai 2025, 12:30 Rhagolwg Cymreig Dydd Sadwrn 3 Mai 2025, 15:00 Rhagolwg Saesneg