CDCCymru yn Cyflwyno Omertà gan Matteo Marfoglia Gwybodaeth ynghylch y cynhyrchiad 10 munud Canllaw oed: 8+ Mae Omertà yn ymwneud â rôl merched yng nghymdeithas Maffia’r Eidal, ac, yn hanesyddol, sut yr oedd eu bywydau, eu profiad a’u straeon yn cael eu cadw’n gudd yn aml. Mae’r ddawns yn dweud stori gormes, y llwybr i rhyddid ac anhawster datgelu’r gwirionedd. Tîm Creadigol Cerddoriaeth: Domina gan Faraualla Dylunio Sain: Sarah Everson Dylunio Golau: Leighton Thomas-Burnett Dylunio Gwisgoedd: Rike Zoellner Headshot: Nicole Guarino Coreograffwr Matteo Marfoglia Adolygiadau “Darn pwerus ac emosiynol iawn.....stori drist a hiraethus sy’n cael ei bwysleisio gan y gwir wnaeth ei hysbrydoli” - Wales Arts Reviews “Mae’n waith sy’n taflu goleuni ar safle a swyddi’r ffigwr benywaidd ym mudiadau maffia de’r Eidal ac yn archwilio llwybr tuag at ryddid na ellir ei gyrraedd y mae rhai o’r merched hynny yn ymdrechu amdano drwy eu bywydau ac yn sylweddoli efallai nad oes y fath beth wedi’r cyfan. Fy niddordeb wrth greu’r gwaith hwn oedd treiddio’n ddyfnach i rôl y merched sydd bob amser yn cael ei nodweddu yn ôl ei hamwysedd a diffiniad niwlog, ac fel arfer heb ei chydnabod gan y cyhoedd na’r mudiad maffia ei hun, ond hefyd rhoi llwyfan iddynt er mwyn i ni gael clywed eu llais a gwrando ar eu straeon. Roeddwn hefyd yn awyddus i dynnu’n ôl rhag y ffigwr ystrydebol sydd ymhlith y cyhoedd ynghylch merched mudiadau Maffia. Roeddwn am herio hynny drwy grafu’r addurniadau arwynebol hynny a mynd i graidd a diben gwirioneddol y rôl benodol hon.” - Matteo Marfoglia Galeri