Angharad Harrop headshot, long brown hair in a ponytail

Angharad Harrop

Llysgennad Dawns - Bangor

Mae Angharad yn artist dawns annibynnol sydd wedi ei sefydlu yng Ngogledd Cymru ac mae'n mwynhau perfformio, dysgu a choreograffu ar lwyfan ac mewn lleoliadau. Mae hi'n gyd-gyfarwyddwr cwmni perfformio rhyngwladol Cymru: Brasil, sy'n creu gweithiau drwy rannau o ddiwylliannau gwerin Cymru a Brazil. Mae Angharad wedi gweithio gydag artistiaid megis Julie Nioche, Marc Rees a Filipa Francisco, fel dawnswraig a choreograffwr, drwy gyfleoedd gyda Theatrr Genedlaethol Cymru a Migrations. Mae hi'n ddarlithydd Dawns ym Mhrifysgol Caer, mae'n Gyfaill Dawnsio ym Mhontio, Bangor ac yn gweithio tuag at ei PhD mewn Ymgorfforiad a Pherfformio ym Mhrifysgol De Montfort, Caerlŷr.