dancer in orange smoke leaning back

Rachel Gittins

Llysgennad Dawns - Y Drenewydd

Mae Rachel yn artist dawns annibynnol wedi'i lleoli yn Wrecsam. Ers graddio o Brifysgol Edge Hill yn 2017 mae hi wedi datblygu gyrfa mewn perfformio, hwyluso a ffotograffiaeth. Roedd Rachel yn ddawnswraig broffesiynol i Lisa Simpson Inclusive Dance a thaith Migratory o amgylch Sir Gaerhirfryn am 2 flynedd, yn ogystal â bod yn berfformiwr llawrydd yn Illuminate (2017) a The Shadow (2019), cynyrchiadau gan Company Chameleon. Mae gan Rachel ddiddordeb mawr mewn addysgu, yn enwedig gan ddefnyddio dawns i gynorthwyo datblygiad iechyd meddwl a chorfforol, ac mae hi wedi cyflwyno dawns mewn unedau iechyd meddwl, carchardai, grwpiau ieuenctid bregus, ac i bobl hŷn ac unig. Mae Rachel yn cynnal gweithdai'n aml mewn ysgolion a phrifysgolion, ac mae'n awyddus i gynnwys y genhedlaeth ieuengach mewn dawns gyfoes a theatr.