Rebecca headshot

Rebecca Edwards

Llysgennad Dawns - Abertawe

Mae Rebecca yn ymarferydd dawns a symud llawrydd yn Abertawe, De Cymru. A hithau wedi graddio o Brifysgol Chichester, cwblhaodd Rebecca ei hyfforddiant yn 2015 a chael Gradd Meistr mewn Perfformio Dawns. Tra roedd hi’n astudio, bu Rebecca yn ddigon ffodus i gael gweithio gydag amryw byd o goreograffwyr a mynd ar daith yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.

Ers iddi gwblhau ei hastudiaethau a symud i Dde Cymru, mae Rebecca wedi bod yn aelod gweithgar o’r gymuned ddawns leol ac wedi cynnal dosbarthiadau a gweithdai i ystod o grwpiau ar draws Abertawe. O grwpiau i oedolion hyd at ddarpar Gymnastwyr nesaf Cymru, mae ei ffordd o gyflwyno yn golygu bod technegau cyfoes a ballet o fewn cyrraedd. Dros y pum mlynedd diwethaf, mae Rebecca hefyd wedi bod yn dysgu, yn gwneud coreograffi ac yn cyflwyno TGAU Dawns i’r genhedlaeth nesaf o artistiaid dawns gyda Chwmni Dawns Ieuenctid y Sir.

Mae Rebecca yn credu’n gryf mewn pŵer symud; y ffordd y mae’n gallu dod â chymunedau ynghyd a’r effaith fuddiol y gall ei chael ar ein lles corfforol a meddyliol.