Rosa headshot

Rosanna Carless

Llysgennad Dawns

Cefais fy nwyn i fyny yn Aberystwyth cyn symud i Fryste yn fy arddegau lle darganfyddais fy nghariad at Ddawnsio Stryd. Ar ôl symud i Lundain, dysgais am Breakin’ ac ymunais â nifer o griwiau Dawnsio Stryd lle cefais gyfle i astudio arddulliau gwahanol megis House, Popping, Locking a Hip Hop. Nes i hefyd frwydro fel b-girl unigol mewn digwyddiadau fel Throwdown a Jumpoff, a pherfformiais yn Breakin’ Convention a Set4Set cyn ennill y trydydd safle yn London’s Best Dance Crew gyda fy nghriw benywaidd dan arweiniad Kloe Dean. Ers hynny, ‘dw i wedi gweithio gyda phones4u, HSBC a Sony yn ogystal â cherddorion megis Giggs, Stlylo G a Wiley.

Ers dychwelyd i Gymru, ‘dw i wedi dod yn Bwy ioga, wedi teithio gyda sioeau dawns addysgol, wedi gweithio gyda’r Cynllun Creadigol Arweiniol ac addysgu sawl dosbarth a gweithdy yn Aberystwyth, lle rwy’n gweithio fel Llysgennad NDCWales.