Headshot of dancer Sam, he wears a black t-shirt and has short blonde hair with a longer fringe

Sam Gilovitz

Dawnswyr

Cefais fy ngeni yn Perth, Gorllewin Awstralia a dechreuais hyfforddi’n llawn amser fel dawnsiwr yn yr Australian Ballet School yn Melbourne. Wedi hynny, bu i mi gwblhau 3 blynedd o astudio yn y New Zealand School of Dance fel arbenigwr cyfoes.

Yn ystod fy astudiaethau, cefais fy nysgu gan fentoriaid adnabyddus iawn, gan gynnwys James O’Hara, Alice Lee Holland a Victoria Colombus, a bu i mi berfformio gwaith gan Damien Jalet a Huang Yi. Wedi i mi raddio, dechreuais weithio yn Dance Theatre Heidelberg dan gyfarwyddyd Iván Pérez. Yn ystod fy nhair blynedd gyda’r cwmni, bu i mi berfformio gwaith gan Iván Pérez, Renan Martins ac Astrid Boons.

Yn 2022, ymunais â Ballet National de Marseille dan gyfarwyddyd (LA)HORDE. Teithiais yn eang gyda’r cwmni, yn perfformio gwaith gan (LA)HORDE, Oona Doherty, Lucinda Childs a Tânia Carvalho.

Yn 2023, ymunais â Chwmni Dawns Cenedlaethol Cymru fel dawnsiwr llawrydd.