Sarah Hall

Sarah Hall

Huddersfield

Hyfforddodd Sarah ym Mhrifysgol Middlesex a Phrifysgol Leeds gan raddio yn 2009 ac ennill Statws Athro Cymwysedig mewn Ysgol Uwchradd yn flwyddyn ganlynol. Ers hynny, mae Sarah wedi dilyn gyrfa sy’n croesi’r sectorau cymunedol, addysg a pherfformiad. Bu Sarah yn gweithio fel Swyddog Datblygu Dawns yn Blackpool am 5 mlynedd, yn datblygu cyfleoedd ar lawr gwlad a chyfleoedd dilyniant ar gyfer dawnswyr ifanc, gan eu galluogi i gysylltu â chwmnïau proffesiynol a datblygu eu profiadau creadigol o ddawns. Mae Sarah hefyd yn arbenigwr ar gyfer Cyngor Sir Swydd Gaerhirfryn yn eu cynorthwyo i ddarparu dawns greadigol o ansawdd uchel mewn ysgolion ac fel rhan o’u llwyfan perfformio blynyddol. Ochr yn ochr â’r gwaith Blue Moose nawr, mae Sarah yn ddarlithydd rhan amser ar y cwrs gradd BA (Anrh) Addysgu a Pherfformiad Dawns yn UCLan. Mae gwaith Sarah yn canolbwyntio ar bobl gan ei fod yn gysylltiedig yn uniongyrchol â’u bywydau a phersonoliaethau’r rhai mae hi’n gweithio gyda nhw, gan anelu at gyflawni gwaith creadigol sydd wedi’i ysbrydoli gan yr unigolion dan sylw, ac yn driw i’r rhain. Mae ei gwaith yn bersonol, yn hygyrch a bob amser yn gymaint â phosibl o hwyl!