CDCCymru yn Cyflwyno

Zoetrope

Ebrill 2024

Perfformiad Ysgolion

Mae dawns yn un o bum disgyblaeth y Maes Celfyddydau Mynegiannol o Ddysgu a Phrofiad
Byddem wrth ein bodd yn eich helpu.

Dw i eisiau gwybod mwy

Gall ysgolion gael tocynnau a thrafnidiaeth i weld Zoetrope (bron) am ddim drwy gronfa Ewch i Weld, Cyngor y Celfyddydau Cymru.

Sut i archebu:

Anfonwch E-BOST atom gydag unrhyw gwestiynau, faint o docynnau yr hoffech eu cael, a pha sioe yr hoffech ei mynychu, ac yna byddwn mewn cysylltiad.

Mae dawns yn un o bum disgyblaeth y Maes Celfyddydau Mynegiannol o Ddysgu a Phrofiad 

Byddem wrth ein bodd yn eich helpu i gyflwyno’r Celfyddydau Mynegiannol

Mae Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru wedi gweithio ar y cyd â’r coreograffydd enwog, Lea Anderson MBE. Mae Lea’n adnabyddus am greu gwaith sy’n apelio at gynulleidfaoedd iau ac mae hi am greu darn newydd i ni ei rannu gyda chynulleidfaoedd o deuluoedd a phlant ysgol. Rydym yn barod i gydweithio â’ch Ysgol Gynradd chi a rhannu’r prosiect newydd a chyffrous hwn, sef Zoetrope, wedi’i anelu at blant rhwng 7-11 oed.

Cynnig perfformio

Gwahoddiad i ddod â’ch ysgol i ymuno â ni am berfformiad o Zoetrope yn ein cartref yn y Tŷ Dawns ym Mae Caerdydd. Mae’r darn hwn yn para 60 munud. Wedi’i ysbrydoli gan animeiddiad cynnar ac ysbryd y ffair, bydd y llwyfan wedi'i llenwi ag animeiddiadau a phatrymau symud cyffrous wedi’u perfformio gan ein dawnswyr sy’n chwarae creaduriaid hudolus. Bydd y sioe yn weledol gyffrous ac yn brofiad ysbrydoledig i ddysgwyr rhwng 7-11 oed. 

Hyd y sioe yw un awr, a byddwn yn perfformio mewn ysgolion ar y dyddiadau canlynol:
13 Rhagfyr 10.30yb 
14 Rhagfyr 1.30yp
14 Rhagfyr 10.30yb

Pecyn Cymorth i Athrawon

Bydd athrawon sy’n mynychu Zoetrope yn cael Pecyn Cymorth i Athrawon a fydd yn cynnwys adnoddau ar gyfer gwersi a awgrymir eu haddysgu cyn y perfformiad, fel bod y bobl ifanc yn hyderus yn mynychu’r digwyddiad ac yn barod i ymgysylltu â’r hyn y byddant yn ei weld. Bydd y pecyn hefyd yn cynnwys cynlluniau gwersi a awgrymir eu haddysgu ar ôl y perfformiad, er mwyn annog sgwrs ac i archwilio cynnwys y perfformiad ymhellach.

 

Porth Cyllid a Chost Perfformio

Mae tocynnau’n £6 yr un, gydag un tocyn am ddim ar gyfer pob deg tocyn sy’n cael ei archebu.

Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn cynnig grant ‘Ewch i Weld’ sy’n talu am hyd at 90% o gost y tocyn a thrafnidiaeth. Byddwn yn helpu i’ch tywys drwy’r broses syml hon. Gweler manylion y cyllid sydd ar gael yma:

https://arts.wales/cy/ariannu/dysgu-creadigol/ewch-i-weld

 

Trefnwch Weithdy Dawns yn eich ysgol

Byddai Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru wrth eu bodd yn cyflwyno gweithdy Dawns yn eich ysgol, gan helpu i rannu buddion lu Dawns gyda’ch pobl ifanc. Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth.
 

Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth.
 

Sut i archebu:

Anfonwch E-BOST atom gydag unrhyw gwestiynau, faint o docynnau yr hoffech eu cael, a pha sioe yr hoffech ei mynychu, ac yna byddwn mewn cysylltiad.

Adolygiadau

"Everyone thoroughly enjoyed the performance and hopefully we have ignited some passion for the world of dance"

Teacher

"The children loved having the opportunity to ask the dancers questions at the end. The class teacher particularly liked this part too as it made creative arts and dance very accessible to children."

Teacher 

"It was really entertaining, I loved the monkeys and the skeletons."

Student 

"Thank you so much! It makes me want to work there when I grow up!" 

Student 

"I loved it the dancers were great!"

Student

Cefnogi'r gan

funding logos Colwinston LogoHodge foundation

 

Yn digwydd
Dydd Mawrth 16 Ebrill 2024, 11:00
Dydd Mercher 17 Ebrill 2024, 11:00
Dydd Iau 18 Ebrill 2024, 11:00
Dydd Mawrth 23 Ebrill 2024, 11:00
Dydd Mercher 24 Ebrill 2024, 11:00
Dydd Iau 25 Ebrill 2024, 11:00