Dawns ar gyfer Parkinson’s 14 Ionawr - 25 Mawrth Mae ein dosbarthiadau Dawnsio ar gyfer Parkinson’s yn hwyliog ac anffurfiol. Profwyd bod dawns yn datblygu hyder a chryfder, wrth leddfu rhai symptomau bob dydd cyfranogwyr. Mae dosbarthiadau yn greadigol ac yn hyrwyddo teimladau o ryddid rhag cyfyngiadau corfforol a chymdeithasol Parkinson’s. Rydym yn hwb Cysylltiedig ar gyfer rhaglen Dance for Parkinson's, English National Ballet. Gwybod fwy
DYSGU GYDA’N GILYDD Gallwch ddod o hyd i’n Pecynnau Addysgiadol ac adnoddau CPD i ddawnswyr yma, yn ogystal â dosbarthiadau ar-lein i’w gwneud yn eich cartref, amgylchedd cymunedol a’r dosbarth. Gwybod fwy
Creu Gyda’n Gilydd Mae creu, arloesedd ac ysbrydoliaeth yn rhan o ddawns. Yma, byddwch yn dod o hyd i fideos a heriau y gellir ymateb yn greadigol iddynt, prosiectau digidol rydym wedi bod ynghlwm â nhw a chomisiynau ar gyfer y sector dawns yng Nghymru. Gwybod fwy
Dawnsio Gyda’n Gilydd #KINKids a #KINCommunity Cyfres o wersi dawns ar-lein, gyda ffocws ar wersi creadigol i blant a gwersi i oedolion sydd eisiau gwella eu symudedd. Byddwch hefyd yn gweld dolenni at wersi dawns eraill sydd ar gael ar-lein. Gwybod fwy
Gwylio Gyda’n Gilydd Gwyliwch rai o’n darnau dawns mwyaf poblogaidd, yn ogystal â rhai darnau arbennig a grëwyd ar gyfer ffilm. Dyma gyfle i weld y darnau yn ogystal â dysgu mwy am sut y crëwyd nhw. Gwybod fwy