CDCCymru yn Cyflwyno LANSIO Noson Dawns Ieuenctid Mae LANSIO yn creu llwyfan cynhwysol i bobl ifanc yng Nghymru fynegi eu hunain a’u gweledigaeth ar gyfer dawns. Bydd yn noson gyffrous sy’n datgelu dyfodol dawns, ac mae LANSIO yn noson o ddathlu artistiaid ifanc cyffrous sydd wrth eu bodd yn symud. Dyddiadau 2025 Cwestiynau Cyffredin Ffurflen Gais Bydd yn noson gyffrous sy’n datgelu dyfodol dawns yn Gymru. Mae LANSIO yn creu llwyfan cynhwysol i bobl ifanc fynegi eu hunain a’u gweledigaeth ar gyfer dawns. Disgwyliwch ddawns bwerus, emosiynol fydd yn archwilio themâu a materion sy’n bwysig i’r artistiaid ifanc cyffrous sydd yn rhan o’r cyfan, gan ddathlu eu mwynhad o symud. Eleni bydd CDCCymru yn gwahodd grŵp i berfformio gydag Aelodau Ifanc CDCCymru, i greu noson sy’n ymgorffori Dawns Ieuenctid yng Nghymru. Mae Lansio yn gyfle i grwpiau dawns ar draws Cymru berfformio mewn lleoliad proffesiynol. Ymgeisiwch gyda’ch darn yn barod i’w berfformio am hyd at 10 munud. Mae’n bosib eich bod wedi perfformio eich darn yn barod, neu eich bod newydd fod yn ei ymarfer, neu mae’n bosib y byddech chi am greu rhywbeth newydd yn arbennig ar gyfer Lansio. Bydd grwpiau sy’n cael eu dewis yn gweithio gyda dylunydd goleuo i orffen eich gwaith ac yna’n perfformio ochr yn ochr â grwpiau dawns i gynulleidfa fyw mewn dwy sioe. CEISIADAU AR AGOR Dyddiadau 2025 Gorffennaf: Ceisiadau’n Agor 18 Awst: Ceisiadau’n Cau Ymarferion Technegol: 15 Tachwedd 2025 2 Berfformiad (Yn y Prynhawn a Gyda’r Nos): 16 Tachwedd 2025 Noder, rhaid i grwpiau fod ar gael i berfformio yn y ddau berfformiad. Cwestiynau Cyffredin Beth yw LANSIO? Mae Lansio yn llwyfan i berfformiad blynyddol sy’n dathlu Dawns Ieuenctid o bob cwr o Gymru. Cynhelir y digwyddiad gan Gwmni Dawns Cenedlaethol Cymru yn y Tŷ Dawns, Bae Caerdydd. Mae Lansio yn gyfle i ddawnswyr ifanc berfformio mewn lleoliad theatr proffesiynol gyda synau a goleuadau llawn (a gwisg o’u dewis nhw). Mae hefyd yn lle i gwrdd â dawnswyr ifanc eraill, gan rannu gwaith a phrofiadau. Beth yw’r budd o gymryd rhan? Mae Lansio yn cynnig blas i ddawnswyr ifanc ar sut allai bywyd fel dawnsiwr proffesiynol fod - o fod yn rhan o ymarfer technegol i berfformio o flaen cynulleidfa fyw. Mae Lansio yn rhoi amser penodol i grwpiau Dawns Ieuenctid greu gwaith newydd ar ei gyfer, gan alluogi cyfranogwyr i fod yn rhan o’r broses greadigol, o’r dechrau i’r diwedd. Yn ogystal â lluniau proffesiynol, mae grwpiau hefyd yn elwa o glipiau fideo (mewnol) o’u perfformiad. Sut ydw i’n mynd ati i gofrestru fy ngrŵp dawns ieuenctid ar gyfer LANSIO? I berfformio yn Lansio, bydd angen ichi gwblhau’r ffurflen isod a rhoi ychydig o wybodaeth inni am eich grŵp a’r darn o ddawns rydych yn dymuno ei gyflwyno. Rydym yn deall bod yna bosibilrwydd nad ydych wedi creu’r gwaith eto - ond dywedwch gymaint ag y gallwch wrthym - mae hyn yn ein helpu i wneud penderfyniadau wrth drefnu’r digwyddiad. Sgroliwch i waelod y dudalen hon i gwblhau’r ffurflen i wneud cais. Ni ddylai hyn gymryd mwy na deng munud. Pwy all wneud cais? Gall unrhyw grŵp dawns ieuenctid o Gymru wneud cais. Mae Dawns Ieuenctid fel arfer yn golygu 11-19 oed, neu hyd at 25 oed i ddawnswyr anabl. Dylai grwpiau gael o leiaf 4 dawnsiwr a dim mwy na 25 dawnsiwr. Os yw’r meini prawf hyn yn creu problem, cysylltwch yn uniongyrchol â ni. Sut mae’r grwpiau’n cael eu dewis? Bydd yr holl geisiadau'n cael eu hadolygu gan banel o aelodau MOU Dawns Ieuenctid yng Nghymru, (Ballet Cymru, CDCCymru, Dawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru). A yw gwneud cais a chymryd rhan am ddim? Ydy, mae gwneud cais a chymryd rhan yn Lansio am ddim. Yn anffodus, ni allwn roi cymorth ariannol ar gyfer teithio na ffioedd llety. Os caiff ein grŵp ei ddewis, beth sy’n digwydd? -Byddwn yn anfon e-bost atoch yn eich gwahodd i gymryd rhan yn Lansio eleni.Bydd angen ichi dderbyn y gwahoddiad o fewn amser penodol a mynd ati i weithio ar eich perfformiad. -Cyn mis Tachwedd, byddwn yn gofyn ichi roi fersiwn ansawdd dda o’ch cerddoriaeth inni a gwybodaeth ar gyfer y rhaglen. -Byddwn hefyd yn gofyn ichi roi gwybodaeth ar gyfer ein cais BOPA (oedrannau, niferoedd, rhywedd). -Yn ogystal, bydd angen ichi ddarparu nifer priodol o dywyswyr trwyddedig ar gyfer yr ymarferion technegol a’r perfformiadau. -Ar ddydd Sadwrn 15 Tachwedd, bydd eich grŵp yn cael slot amser ar gyfer ymarfer technegol i ychwanegu’r goleuadau i’r perfformiad. -Ar ddydd Sadwrn 16 Tachwedd, byddwn yn cael ymarfer gwisgoedd yn y bore, ac yna’n perfformio’r sioe am 4pm a 7pm. Rydym yn deall efallai na fyddwch yn dechrau gwneud eich gwaith tan fis Medi. Nid yw’n broblem os nad ydych yw’r holl wybodaeth yma ar gael eto, ond rhowch gymaint ag y gallwch o wybodaeth i ni, gan y bydd hynny’n ein helpu i wneud penderfyniad. Os nad ydych yn gwybod eto, cadwch mewn cysylltiad wrth i benderfyniadau gael eu gwneud. Mae gen i gwestiwn arall. Ebost Sian Rowlands: sian@ndcwales.co.uk neu ffoniwch ni 02920 635 600 Galeri Llun: Monmouthshire Youth Dance Company, AFJ Cardiff, Fusions Elite, DanceBlast Youthability, National Dance Company Wales Young Associates gan: Kirsten McTernan, Jorje Lizalde Ffurflen Gais