Jack Philp Coreograffydd Preswyl 2019 Cefais fy hyfforddi yn Trinity Laban Conservatoire of Music and Dance, ac rwyf yn gweithio fel coreograffwr annibynnol, yn canolbwyntio ar y pwynt cyfarfod rhwng ymchwil creadigol ac academaidd. Rwyf wedi perfformio gwaith coreograffwyr fel Matthias Sperling, Anna Williams a Wayne McGregor, yn ogystal â chysgodi artistiaid a chwmnïoedd gwahanol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol, gan gynnwys Henri Oguike, Scottish Dance Theatre, Rafael Bonachela, Ben Wright, Skånes Dansteater a Sydney Dance Company.
Shakeera Ahmun Coreograffydd Preswyl 2019 Fe’m ganwyd yng Nghaerdydd, a dechreuais fy hyfforddiant dawnsio yng Nghanolfan Rubicon Dance pan oeddwn yn 19 mlwydd oed. Graddiais o’r London Contemporary Dance School yn 2014, lle roeddwn yn ymwneud â gwaith gan Sasha Waltz, William Forsythe a Tony Adigun. Yn ystod fy hyfforddiant, bûm i hefyd yn cymryd rhan mewn rhaglen gyfnewid gyda California Institute of the Arts.
Zosia Jo Coreograffydd Preswyl 2019 Rwyf yn artist, ysgrifennydd a chrëwr dawns yn gweithio yng Nghaerdydd, a chefais fy hyfforddi’n wreiddiol yn Northern School of Contemporary Dance. Mae fy ngwaith wedi yn deillio o’r dyhead i brofi cysylltedd a chyfathrebu trwy symudiad, byrfyfyrio a pherfformio. Mae fy ymarfer coreograffig yn canolbwyntio ar gysylltu cymunedau, themâu ffeministaidd, y defnydd o’r llais a’r gair llafar, a herio hierarchaethau theatraidd traddodiadol.