three dancers moving together whilst touching hands

Laboratori

De Cymru - Hydref 2021

Gan ddychwelyd am ei drydedd flwyddyn, gwahoddodd Laboratori Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru goreograffwyr i archwilio a datblygu eu harfer creadigol, o dan fentoriaeth ffigyrau blaenllaw yn y sector dawns. 

Yn rhoi wythnos o fentoriaeth â thâl i goreograffwyr yn y stiwdio gyda dawnswyr CDCCymru, mae Laboratori yn creu man diogel, agored ar gyfer arloesi ac arbrofi wrth roi cynnig ar syniadau newydd a chwestiynu rhai sy'n bodoli eisoes.  

Yn 2021, cynhaliwyd y Laboratori dros bythefnos yng Ngogledd a De Cymru; un wythnos yn y Tŷ Dawns yng Nghaerdydd, trwy gyfrwng y Saesneg, ac un wythnos yn Pontio ym Mangor, trwy gyfrwng y Gymraeg. 

Dysgwch fwy am Laboratori Gogledd Cymru 2021

Mentor De Cymru: Caroline Bowditch 
Coreograffwyr De Cymru: Josh Attwood, Billy Maxwell Taylor, Faye Tan, Tayla Smith
Dawnswyr De Cymru: Natasha Dawkes, Lucy Jones, Aisha Naamani, Ed Myhill, Marine Tournet, Niamh Keeling, Tim Volleman, Angharad Jones-Young, Mika George Evans

Gyda chefnogaeth The Fenton Trust

Fenton Trust Logo

Galeri
Choreographer talking to dancers
Dancer in green tshirt and black trousers
Dancers with arms in the air
Two dancers
Dancer in mid air
Three dancers

Caroline Bowditch
Mentor

Ar ôl 16 mlynedd yn byw a gweithio yn y DU, dychwelodd Caroline i Awstralia ym mis Gorffennaf 2018 i ymgymryd â'r rôl Prif Swyddog Gweithredol yn Arts Access Victoria. Mae hi'n fwyaf adnabyddus fel perfformiwr, gwneuthurwr, athrawes, siaradwr ac yn un o'r fflamau sy'n cynnal y diwydiant celfyddydau yn y DU a phellach draw. Mae Caroline yn ymgynghorydd rheolaidd mewn perthynas â mynediad a chynhwysiant yn rhyngwladol, ac mae hi hefyd wedi arwain preswylfeydd rhyngwladol yn Sweden, yr Eidal, Swistir a'r Almaen. Mae'n cael ei gwahodd yn rheolaidd i fentora artistiaid lleol, cenedlaethol a rhyngwladol ar bob lefel o'u datblygiad artistig. 

Yn ystod y Laboratori, mae Caroline yn awyddus i weithio gyda phob un o'r coreograffwyr i ddatgelu'r straeon coreograffig y mae pob unigolyn yn teimlo yr hoffai eu rhannu. Mae ganddi ddiddordeb mewn archwilio beth sydd gan bob coreograffi dan sylw, pa ddawnsiau go iawn maen nhw'n eu cyflwyno a beth mae pob unigolyn eisiau holi yn ei gylch, ei gwestiynu a thyrchu i mewn iddo. Bydd cyfle hefyd i feddwl am fewnosod mynediad fel rhan o'r broses greadigol. 

Photo of Caroline Bowditch

Joshua Attwood
Coreograffydd

Fel artist cwiar, mae gwaith coreograffig Joshua yn treiddio'r esthetig sydd ynghlwm â gwrthodiad a gwleidyddiaeth ailddyfeisio ac adferiad. Mae ei arfer symud yn seiliedig ar y tensiynau a'r cydadwaith a geir rhwng celfgarwch a goddefedd penderfynol. Fel rhan o'i waith, mae'n mwynhau creu ymdeimlad o ofod anneddfol, lleoedd heb reolau, wedi'u llenwi dros dro â chyrff sy'n mynd heibio iddynt. Perfformiwr yn gyntaf yw Joshua ac yna coreograffydd, ond mae wastad yn gweld ei hun yn dychwelyd at ei ddiddordebau coreograffig. Mae ei waith wedi bod ar lwyfannau Nottingham Contemporary, The Place Theatre a Lilian Baylis Theatre yn Sadler’s Wells. 

Photo of Josh Attwood

Billy Maxwell-Taylor
Coreograffydd

Mae Billy yn ymarferydd symudiad rhyngddisgyblaethol sy'n gobeithio annog y rheiny sy'n ymgysylltu â'i gelfyddyd i ddod o hyd i arafwch a gofod i wrando ar y byd o'u cwmpas. Drwy ei waith fel cyfarwyddwr artistig, cyfarwyddwr a pherfformiwr symudiad, mae Billy wedi gallu gweithio gyda chwmnïau megis Divadlo Continuo, Frantic Assembly a Motionhouse ac mae hynny wedi caniatáu iddo greu ei waith ei hun drwy Now & Then Theatre ac Yos Theatre. Ac yntau wedi cwblhau ei radd mewn Celfyddydau Theatr Ewrop yn Rose Bruford College, mae'n edrych ymlaen yn arw at greu gwaith synhwyraidd, archwiliadol sy'n ysbrydoli chwilfrydedd. Y tu hwnt i'r theatr, mae Billy yn mwynhau pobi, ffotograffiaeth a bragu coffi da.   

Photo of Billy Maxwell

Tayla Smith
Coreograffydd

Mae Tayla Smith wedi bod yng Nghymru ers 23 mlynedd ac wedi bod yn dawnsio ers 20 mlynedd. Daw Tayla o gefndir diwylliannol cymysg o Gymraeg a Charibïaidd Du, sydd wedi helpu i lywio ei chelfyddyd ers y blynyddoedd cynnar.  Mae Tayla yn artist amlddisgyblaethol sy'n mwynhau gweithio gyda phroblemau a straeon y mae angen taflu goleuni arnynt. Drwy ffurfiau a thechnegau creadigol, gobaith Tayla yw codi ymwybyddiaeth ymhlith pobl o'r sefyllfaoedd hyn gan herio eu meddyliau i ddatblygu eu safbwyntiau eu hunain mewn perthynas â'r pynciau sydd dan sylw yn y darnau. 

Photo of Tayla Smith

Faye Tan
Coreograffydd

Mae Faye yn artist dawns yn CDCCymru ac yn ddiweddar bu'n trefnu coreograffi 'Moving is everywhere, forever' ar gyfer Perfformiad Awyr Agored y cwmni a aeth ar daith ledled Cymru yr haf hwn. Yn ogystal, bydd y darn yn cael ei ailadrodd dan do fel rhan o'r daith HERE yr hydref hwn. 

Mae hi wedi gweithio fel dawnsiwr a choreograffydd yn Singapore ac yn y DU. Ar hyn o bryd, mae ei gwaith coreograffig yn archwilio ymgorfforiad a mynegiant catharsis drwy gysylltu byd mewnol unigolyn â'r byd allanol di-ben-draw. 

 

Photo of Faye Tan

Natasha Dawkes
Dawnsiwr 

Mae Natasha Dawkes yn artist dawns newydd, sydd wedi'i lleoli yng Nghaerdydd ar hyn o bryd. Mae ei gwaith yn archwilio dulliau byrfyfyr a thechnegau dawns gyfoes. Ar ôl graddio o Brifysgol Falmouth gyda gradd Dawns a Choreograffi Dosbarth Cyntaf, aeth ymlaen i greu saith ffilm dawns ar gyfer cyweithiau a gwyliau celfyddydol, ac fe ddangoswyd un ohonynt yn Pontio, gogledd Cymru yn ddiweddar. Mae'n frwd dros symudiad a chwarae byrfyfyr, yn ogystal â chydweithio gydag amrywiaeth eang o artistiaid ar draws pob disgyblaeth y celfyddydau, gan gynnwys celf gain a barddoniaeth. Mae Laboratori yn gyfle cyffrous iddi ddatblygu ei gwaith a chydweithio gydag artistiaid eraill. 

Photo of Natasha Dawkes

Lucy Jones
Dawnsiwr 

Mae Lucy Jones yn artist dawns llawrydd sy'n byw yn Rhondda Cynon Taf. 

Derbyniodd Lucy ei hyfforddiant yn y Northern School of Contemporary Dance a bu'n rhan o garfan gyntaf Emergence - cwmni ôl-radd Joss Arnott a Phrifysgol Salford. Cyn hynny, astudiodd Lucy yn Rubicon Dance, bu'n Aelod Cyswllt CDCCymru, ac yn aelod o Dawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru dan arweiniad artistig Kerry Nicholls, ac Errol White.  

Ers graddio, mae Lucy wedi cymryd rhan yn y Choreographers and Composers Lab gyda Phoenix Dance Theatre a'r flwyddyn gyntaf o Laboratori gyda CDCCymru. Perfformiodd Lucy ar ei phen ei hun yn noson sgratsh Gŵyl Ddawns Caerdydd, a pherfformiodd yr un ddawns mewn sawl noswaith sgratsh ledled y DU. Bu Lucy yn ddawnsiwr ar raglen ymchwil a datblygu EXPLORE gan Ransack Dance Company, a hynny yn y stiwdio yn 2018 ac ar-lein yn 2021.

 

Photo of Lucy Jones

Dawnsiwr Aisha Naamani
Dawnsiwr Ed Myhill
Dawnsiwr Marine Tournet
Dawnsiwr Niamh Keeling
Dawnsiwr Tim Volleman
Dawnsiwr Angharad Jones-Young
Dawnsiwr Mika George Evans