Laboratori 2021 Gogledd Cymru - Tachwedd 2021 Gan ddychwelyd am ei drydedd flwyddyn, gwahoddodd Laboratori Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru goreograffwyr i archwilio a datblygu eu harfer creadigol, o dan fentoriaeth ffigyrau blaenllaw yn y sector dawns. Yn rhoi wythnos o fentoriaeth â thâl i goreograffwyr yn y stiwdio gyda dawnswyr CDCCymru, mae Laboratori yn creu man diogel, agored ar gyfer arloesi ac arbrofi wrth roi cynnig ar syniadau newydd a chwestiynu rhai sy'n bodoli eisoes. Yn 2021, cynhaliwyd y Laboratori dros bythefnos yng Ngogledd a De Cymru; un wythnos yn y Tŷ Dawns yng Nghaerdydd, trwy gyfrwng y Saesneg, ac un wythnos yn Pontio ym Mangor, trwy gyfrwng y Gymraeg. Dysgwch fwy am Laboratori De Cymru 2021 Mentor Gogledd Cymru: Sioned Huws Coreograffwyr Gogledd Cymru: Angharad Harrop, Anya Sirina Dawnswyr Gogledd Cymru: Sioned Bowen, Elan Elidyr Gyda chefnogaeth The Fenton Trust Galeri Sioned Huws Mentor Mae Sioned yn goreograffydd Cymraeg wedi'i lleoli yn Llundain. Cafodd ei geni ym Mangor yn 1965 a threuliodd ei phlentyndod ar fferm y teulu yn Eryri. Dechreuodd wneud dawns a pherfformiad cyfoes yn Efrog Newydd yn 1989, wrth astudio yn y Merce Cunningham Studios, wedi iddi gael hyfforddiant yn y Laban Centre, Llundain rhwng 1983-86 a dawnsio gyda Transitions am flwyddyn, yn 1986-87. Mae ei gwaith yn canolbwyntio ar ganfyddiad, cof, unigolyn a lle o fewn strwythurau coreograffig; systemau sydd â manylion bychain sy'n caniatáu'r annisgwyl mewn byd drwy ymwybyddiaeth o symudiad corfforol. Mae Moving on the Rhythm of One yn brosiect newydd, a ddechreuodd drwy ddawns a dadansoddiad seicolegol yn cwrdd, i ddawnsio ein ffordd gyda geiriau mewn patrymau newydd, gan symud y corff mewn iaith. Yn 2009, cafodd Sioned Wobr Llysgenhadon Cymru Greadigol; yn 2009-11 a 2015-18, cafodd Wobr Rhaglen Ryngwladol gan The Saison Foundation, Tokyo, mewn cydweithrediad ag ARTizan am ei Aomori Project ac Odori-Dawns-Dance a aeth ar daith i dros dri deg o leoliadau yn y DU, Asia, Ewrop ac Awstralia. Mae Sioned yn parhau i ofyn y cwestiwn "Sut all dawns gael corff sydd heb ddelwedd?" Angharad Harrop Coreograffydd Mae Angharad yn Artist Dawns Cymreig wedi’i lleoli yng ngogledd Cymru. Mae ei hymarfer wedi’i seilio o fewn y celfyddydau cymunedol ac addysg ac yn archwilio’r perthnasau rhwng pobl a lleoliad. Mae Angharad wedi bod yn goreograffydd ac wedi perfformio ar gyfer Theatr Genedlaethol Cymru a Light, Ladd and Emberton ac wedi cydweithio gyda choreograffwyr a chyfarwyddwyr gan gynnwys Marc Rees, Julie Nioche a Filipa Francisco. Mae Angharad yn Gymrawd o’r Academi Addysg Uwch, ac yn addysgu’n rheolaidd mewn sefydliadau ar draws y DU. Anya Sirina Coreograffydd Mae Anya Sirina yn artist dawns a choreograffydd wedi'i lleoli rhwng Gwynedd a Glasgow. Yn ei gwaith, mae Anya yn creu symudiadau yn llawn bwriad drwy ailadrodd i greu atmosffer o fflwcs lle all gweithrediadau ymddangos yn dreisgar, cnawdol a chwareus ar yr un pryd. Yn ei gwaith coreograffig, mae Anya yn creu cyfansoddiadau o symudiadau sy'n seiliedig ar naratifau trawsnewid cysyniadol a gweledol er mwyn hawlio sylw'r gynulleidfa mewn gofod trothwyol. Mae Anya yn edrych ymlaen at fod yn rhan o Laboratori eleni er mwyn plymio'n ddyfnach i'w harfer goreograffig ac archwilio syniadau ymchwil newydd gyda'r dawnswyr. Ar hyn o bryd, caiff Anya Sirina ei chefnogi gan Dance North, Kokoro Arts: Rhaglen Mynediad a Chynhwysiant yn y Sector Dawns, Cynllun Bwrsariaeth i Ddawnswyr Newydd yn Dance Base, Rhaglen i Raddedigion Hospitalfield a Chymrodoriaeth Bruce Millar yn The Royal Conservatoire of Scotland. Sioned Bowen Dawnsiwr Ar hyn o bryd, mae Sioned yn gweithio gyda Ballet Cymru ar y cwrs cyn-broffesiynol wedi iddi raddio'n ddiweddar o The Northern Ballet School ym Manceinion. Yn ogystal, mae hi wedi derbyn hyfforddiant fel aelod cyswllt gydag Elmhurst Ballet School a Ballet Cymru. Mae Sioned wedi perfformio mewn sawl lleoliad ar draws y DU, gan gynnwys Her Majesty’s Theatre, Llundain a Neuadd Dewi Sant, Caerdydd. Mae hi'n edrych ymlaen at fod yn rhan o Laboratori 2021 yn ei mamiaith, sef Cymraeg! Elan Elidyr Dawnsiwr Wedi'i hysbrydoli gan Ysgol Ddawns, Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth, aeth Elan Elidyr ati i astudio dawns yn Rubicon Dance, Caerdydd, ac Iwanson International School of Contemporary Dance yn Munich, yr Almaen. Ar ôl graddio, dychwelodd i Gymru lle aeth ymlaen i ennill dwy fwrsariaeth gan y Cyngor Celfyddydau a Cwmni'r Frân Wen, ac mae wedi gweithio gyda chwmnïau megis NTW a Theatr Clwyd gan weithio ar brosiectau annibynnol hefyd. Ers mis Awst 2020, mae hi wedi bod yn gweithio fel rhan o'r tîm Groundwork Pro.