Artistiaid Ymgysylltu Rydym ni’n gweithio gyda nifer o artistiaid ymgysylltu a dawns llawrydd ledled Cymru. Gwybod mwy
Alison Thorne Cadeirydd Mae Alison Thorne yn Gadeirydd, yn Gyfarwyddwr Anweithredol ac yn Aelod Pwyllgor a chanddi yrfa fyd-eang gorfforaethol yn y maes manwerthu. Mae wedi ysgwyddo rolau ar fyrddau gweithredol Mothercare, George at Asda ac Otto UK, ynghyd â rolau arwain gweithredol yn Kingfisher a Storehouse, gan arbenigo mewn Gweithrediadau, Prynu, Gwerthu a Chyrchu. Dechreuodd ei gyrfa manwerthu yn David Morgans, Caerdydd.
Cathryn Allen Mae Cath yn Gyfarwyddwr Creating Answers, gan arbenigo mewn helpu unigolion, timau a sefydliadau i gyflawni eglurder, hyder a chreadigrwydd wrth ymdrechu i fod yn arweinwyr o’r radd flaenaf. Mae hi’n ymarferydd hyfforddi EMCC hyfforddedig ac mae’n llunio ac yn cyflwyno gweithdai’n ymwneud ag arwain, gwaith tîm a chyfathrebu. Lleolir Cath yn Harlech a Chaerdydd ac mae’n gweithio ledled y DU, yn y Gymraeg a’r Saesneg.
Elizabeth Wilson Mae Liz yn gyfrifydd cymwysedig a chanddi fwy na 30 mlynedd o brofiad. Yn ddiweddar, penderfynodd ymddeol o’i swydd strategol yn Chwarae Teg fel Cyfarwyddwr Cyllid a Gweithrediadau. Yn ystod ei gyrfa, treuliodd Liz gryn dipyn o amser yn y sector preifat a’r sector nid-er-elw. Mae Liz yn danbaid dros helpu i ddatblygu’r elusen, ochr yn ochr â threulio amser gyda’i theulu a’i dau sbaengi hela blewog!
Giovanni Basileti Mae Giovanni yn Gyfreithiwr sy'n arbenigo mewn cyfraith adeiladu a pheirianneg. Mae ganddo brofiad o ddelio â materion adeiladu cynhennus a rhai nad ydynt yn gynhennus ar draws pob sector ac mae ganddo ddiddordeb brwd mewn prosiectau seilwaith ynni. Yn wreiddiol o Gibraltar, mae'n siaradwr Sbaeneg iaith gyntaf.
Krystal S. Lowe Mae Krystal S. Lowe yn ddawnswraig, coreograffydd, awdur a chyfarwyddwr wedi’i geni yn Ynysoedd Bermwda ac wedi’i lleoli yng Nghymru, sy’n creu darnau theatr ddawns ar gyfer y llwyfan, ardaloedd cyhoeddus, a ffilm sy’n archwilio themâu hunaniaeth, iechyd meddwl a llesiant, a grym i herio ei hun a chynulleidfaoedd tuag at fewnsyllu a newid cymdeithasol.
Stacey Rainbow Oliver Mae Stacey yn arbenigwr Cysylltiadau Cyhoeddus a marchnata sydd bellach yn Gyfarwyddwr Cynaliadwyedd, ac mae hi wastad yn rhoi’r lle blaenaf i bobl, angerdd a diben ym mhrif asiantaeth greadigol Cymru. Hefyd, mae hi’n ddawnsiwr amhroffesiynol.
Tupac Martir Mae Tupac yn Artist ac yn sylfaenydd Satore Studio. Yn ôl y V&A, mae’n “Ŵr Amlddisgyblaethol y Dadeni” ar sail ei waith fel artist amlgyfrwng sy’n ymhél â meysydd fel technoleg, goleuadau, taflunio a fideo, dylunio sain, cerddoriaeth, a chyfansoddi, yn ogystal â choreograffi a gwisgoedd. Yn ôl Vogue, ef yw’r ‘dylunydd gweledol a’r cyfarwyddwr creadigol sydd wrth wraidd rhai o ddigwyddiadau pwysicaf y byd’.
William James Roedd William yn Gynhyrchydd yn Theatr Clwyd ac yn arwain y tîm Cynhyrchu a Rhaglennu tan 2021. Bu’n rhaglennu CDCCymru am nifer flynyddoedd yng Nghlwyd - mae’n gefnogwr brwd o’r cwmni. Cyn hynny, gweithiodd mewn sawl lle gwahanol, yn cynnwys y Royal Shakespeare Company, West Yorkshire Playhouse ac Intelfax yn is-deitlo rhaglenni Channel 4 ar gyfer cynulleidfaoedd Byddar a thrwm eu clyw. Cafodd ei addysg ym Mhrifysgol Cymru, Caerdydd.