Tocynnau CDCCymru yn Cyflwyno Shorts | Byrion Dawns gyflym a chraff gan genhedlaeth newydd Mae tri choreograffydd addawol yn llenwi'r llwyfan â drama, comedi dywyll a dylunio disglair, wedi'u trefnu i gyfuniad o gerddoriaeth newydd a chlasuron. Dewch i gael eich swyno gan naws deimladwy a chynnes ‘Infinity Duet’, perfformiad sy'n plethu ynghyd dawns, cerfluniad, darluniad a sain gan y coreograffydd Faye Tan a'r artist Cecile Johnson Soliz. Cysylltwch â thriawd o ddawnswyr cydamserol, gwirion ac aruchel sy'n cydsymud yn berffaith i gerddoriaeth The Police a Bjork. Mae ‘UN3D’ gan Osian Meilir yn waith hyfryd i'w wylio ac a fydd yn eich gadael yn teimlo'n gwbl gytûn. Chwerthwch lond eich bol gyda chomedi dywyll glyfar ‘Hang In There, Baby’ gan John-William Watson, wedi'i lleoli yng nghanol parti gwaith yn y Flwyddyn Newydd ac mae cyfres o benderfyniadau gwael yn arwain y gweithwyr i mewn i sefyllfa gynyddol swreal. Infinity Duet gan Faye Tan and Cecile Johnson Soliz "Ni all y cerflun osgoi ildio i ddisgyrchiant, na’u cyrff chwaith." Mae dau berson yn mynd i'r afael â phwysau ac amser yn y ddeuawd deimladwy a chynnes hon sy'n plethu ynghyd dyluniad, cerfluniad, dawns a sain mewn cydweithrediad unigryw. Creodd y coreograffydd Faye Tan a'r artist Cecile Johnson-Soliz y gwaith hwn ynghyd â'r dawnswyr. Gyda cherddoriaeth gan Richard McReynolds, gwisgoedd wedi'u printio â darluniau Cecile a cherflun mawr siglog sy'n hawlio'r sylw, mae'r gwaith hwn yn eich swyno. Cyfansoddydd: Richard McReynolds Dylunio Gwisgoedd: Cecile Johnson Soliz Cynllynydd Goleuo: Will Lewis Dysgu Mwy UN3D gan Osian Meilir Cydamserol, gwirion ac aruchel - triawd o ddawnswyr yn cydsymud yn berffaith i gyfeiliant trac sain Bjork a The Police a ddaw â gwên i'r wyneb. Yn cynnwys symudiadau a ysbrydolwyd gan nofio cydamserol, dawnsio llinell a siglo llyfn y Supremes. Mae UN3D yn waith sy'n hyrwyddo cysylltiad dynol dros berffeithrwydd mesuredig. Mae'r dawnswyr, mewn gwisgoedd sidan trawiadol, yn archwilio'r gwahaniaeth rhwng symud gyda'i gilydd a chytgord wrth iddynt anelu at undod a chydbwysedd. Cerddoriaeth: Synchronicity - The Police Unison - Björk Dylunio Gwisgoedd: Layla Zheng Dysgu Mwy Hang in There, Baby gan John-William Watson “The you of today, but also tomorrow; somehow.” Richard Life, Prif Swyddog Gweithredol a Chyfarwyddwr Life & Stuff Incorporated Mae 'Hang In There, Baby' yn archwilio'n perthynas â ffawd a gwneud penderfyniadau. Wedi'i lleoli yng nghanol parti gwaith yn y flwyddyn newydd, daw'r gomedi dywyll hon yn gynyddol swreal wrth i undonedd di-baid bywyd swyddfa chwalu'n 'hunllef bac-man-aidd'. Gan gyfuno sgript ffuglen wyddonol, dylunio gwych a sgôr gwreiddiol gan Adam Vincent Clarke, mae'r ddawns hynod ddoniol ac annisgwyl hon yn eich annog i ddal eich tir, waeth beth fo'r canlyniadau. Cyfansoddiad Gwreiddiol a Dylunio Sain: Adam Vincent Clarke Set a Dylunio Gwisgoedd: John-William Watson & Joshua Cartmell Dysgu Mwy Yn mynd ar daith i Caerdydd Ty Dawns Dydd Mercher 19 Mawrth 2025, 19:30 Archebwch Nawr Dydd Iau 20 Mawrth 2025, 19:30 Archebwch Nawr Caerdydd Ty Dawns Dydd Gwener 21 Mawrth 2025, 19:30 Archebwch Nawr Caerdydd Ty Dawns Dydd Sadwrn 22 Mawrth 2025, 19:30 Archebwch Nawr
Infinity Duet Mae dau berson yn mynd i'r afael â phwysau ac amser yn y ddeuawd deimladwy a chynnes hon sy'n plethu ynghyd dyluniad, cerfluniad, dawns a sain mewn cydweithrediad unigryw. Gwybod mwy