three dancers crawling on the floor under orange light, their shiny purple shirts hanging over the heads and covering their faces - they wear vests and purple trousers.

Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru: Cyhoeddi Tymor 2025

o Matthew William Robinson

Yn ystod fy nghyfnod gyda Chwmni Dawns Cenedlaethol Cymru, rydw i wedi canolbwyntio ar ddod o hyd i leisiau arbennig yn y tirlun artistig rhyngwladol i lywio ein gwaith. I’r perwyl hwn, rydym wedi cydweithio gydag artistiaid o Gymru a phob cwr o’r byd. Yn fy rhaglenni olaf, rydw i’n buddsoddi’n fwriadol yn nyfodol dawns yng Nghymru a’r Deyrnas Unedig.

Mae a wnelo ein rhaglen ar gyfer 2025 â dyfodol ein ffurf ar gelfyddyd, a’r bobl sy’n ei dychmygu. Pleser yw cyhoeddi tair rhaglen y bydd modd i gynulleidfaoedd eu mwynhau y flwyddyn nesaf.

In Tandem – Gwanwyn 2025

a dancer turns away from the camera holding her hands above her head, her arms are painted stark white, and before her is a large paper sculpture

Mae In Tandem yn berfformiad newydd sy’n croesi gwahanol ffurfiau ar gelfyddyd, gan blethu dawns, cerflunio, darlunio a sain. Fe’i crëwyd gan y Coreograffydd Faye Tan, y Cerflunydd a’r Artist Cecile Johnson Soliz a’r Cyfansoddwr Richard McReynolds.

Dechreuodd Faye Tan a Cecile Johnson Soliz gydweithio trwy gyfrwng ein rhaglen Laboratori gyda Chapter yn 2022. Bwriad y rhaglen honno oedd meithrin cydberthnasau artistig newydd rhwng artistiaid coreograffig a gweledol, ac rydym wrth ein bodd â’r canlyniadau.

Pleser oedd cael comisiynu Infinity Duet, sef gwaith newydd gan Faye a Cecile a fydd yn cael ei berfformio am y tro cyntaf fel rhan o In Tandem – digwyddiad a fydd yn pylu’r ffiniau rhwng mannau mewn galeri a mannau perfformio. Yn ystod y perfformiad, bydd aelodau’r gynulleidfa’n cael eu gwahodd i symud o amgylch y lle er mwyn cael profi Infinity Duet o wahanol safbwyntiau ac archwilio haenau’r cydweithredu newydd hwn.

Byrion – Gwanwyn 2025

dancers standing on a set of a small office, they wear suits and ties, no jackets, and party hats - some appear happy others distressed

Tri o weithiau byrion gan genhedlaeth newydd

Mae Faye Tan, John-William Watson ac Osian Meilir yn llunio’u gwaith ar sail eu safbwyntiau arbennig nhw eu hunain. Dros y blynyddoedd diwethaf, rydw i wedi gwylio pob un ohonynt yn sicrhau lle ar gyfer eu gweithiau yn y Deyrnas Unedig. Bydd Shorts yn rhannu tri gwaith sy’n ymgorffori eu llofnod artistig unigryw.

Crëwyd UN3D gan Osian Meilir ar gyfer 4X10 yn 2023, sef rhaglen greu a datblygu ar gyfer artistiaid coreograffig fel rhan o ddathliadau ein pen-blwydd yn 40 oed. Mae UN3D yn archwilio’r cydamserol, y gwirion a’r aruchel i gyfeiliant trac sain gan The Police a Björk. Mae Meilir wedi bod yn Gydymaith Artistig gyda Chwmni Dawns Cenedlaethol Cymru ers tair blynedd, a chredaf ei fod ar flaen y gad o ran datblygu ein celfyddyd yng Nghymru.

Bydd Infinity Duet gan Faye Tan a Cecile Johnson Soliz yn cael ei berfformio am y tro cyntaf fel rhan o In Tandem, cyn trawsnewid yn waith llwyfan ar gyfer Shorts. Mae’r gwaith newydd hwn yn cynnwys arferion yr artistiaid mewn deialog ar ffurf deuawd sy’n canolbwyntio ar bwysau, amser a disgyrchiant. Mae Tan wedi bod yn ddawnsiwr gyda’r cwmni ers 2019, ac mae wedi hogi ei harferion a’i chrefft artistig yn barhaus. Mae’n arweinydd y dyfodol yn ein sector.

Yn olaf, cafodd Hang In There, Baby gan John-William Watson ei berfformio am y tro cyntaf ym mhrif dŷ Sadler’s Wells yn 2022. Mae’r gwaith hynod ddoniol hwn yn “hunllef swyddfa PacMan-aidd” sy’n archwilio ein perthynas â thynged, ffawd a gwneud penderfyniadau. Mae Watson yn un o artistiaid mwyaf arbennig eu cenhedlaeth. Mae eu gwaith yn ffurfio bydoedd cyflawn sy’n esgor ar yr absẃrd a’r hardd. Rydw i wedi bod yn aros am yr adeg berffaith i gynnwys eu gwaith – a dyma’r adeg honno.

Bydd Shorts yn cael ei berfformio yn y Tŷ Dawns yng Nghaerdydd ddechrau Gwanwyn 2025.

 

HYDREF 2025

dancers in sparkly sequin costumes leaning over on a white floor

Yn Hydref 2025, bydd Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru yn teithio ledled Cymru a Lloegr gyda thri o weithiau dawns sy’n ymgorffori uchelgais ac enaid y cwmni. Bydd Waltz gan Marcos Morau – ffefryn ymhlith y cynulleidfaoedd a ddaeth i ddathlu ein pen-blwydd yn 40 oed – yn teithio ochr yn ochr â chomisiwn newydd gan Osian Meilir ac Infinity Duet gan Faye Tan a Cecile Johnson Soliz.

Mae Waltz gan Marcos Morau yn creu tirlun yn llawn cyrff clymog sy’n cysylltu ac yn datgysylltu bob yn ail, gyda manwl gywirdeb. I mi, mae a wnelo Waltz â hunaniaeth, diffiniad a gwrthdaro. Dyma waith aruchel gan un o brif artistiaid coreograffig y byd.

Ochr yn ochr â’r gwaith hwn, rydym yn comisiynu gwaith newydd gan Osian Meilir. Efallai y bydd ein cynulleidfaoedd yn gyfarwydd â Qwerin, sef gwaith pwerus a grëwyd gan Meilir yn 2021, ac sy’n parhau i deithio o amgylch y byd. Caiff gwaith Meilir ei lywio gan hunaniaeth, iaith, cymuned a chenedligrwydd, ac ar gyfer y comisiwn newydd hwn rydw i wedi’u gwahodd nhw a’u tîm gwych i weithio gyda’r cwmni llawn.

Bydd fersiwn deithiol o Infinity Duet gan Faye Tan a Cecile Johnson Soliz yn cwblhau’r rhaglen. Perfformiwyd y gwaith hwn am y tro cyntaf y llynedd, fel rhan o Shorts.

 

COREOGRAFFYDD CYSWLLT

osian meilir poses in a yellow t shirt on a blue background, their arms above their head elegantly and their eyes looking into the distance.

Mae gwaith Osian Meilir yn edefyn sy’n rhedeg trwy’r flwyddyn drawsnewidiol hon yn hanes y cwmni. I gydnabod hyn, ac ar ôl tair blynedd fel Cydymaith Artistig, pleser yw cyhoeddi y byddwn yn penodi Meilir yn Goreograffydd Cyswllt ar gyfer 2025. Mae Meilir yn artist llawn gonestrwydd a charedigrwydd, ac mae eu gwerthoedd yn rhedeg trwy bopeth a wnânt. Rydw i wrth fy modd y bydd rhagor o gynulleidfaoedd yn cael cyfle i ddysgu am waith yr artist eithriadol hwn o Gymru.

Bydd ceisiadau i fod yn un o Gymdeithion Artistig nesaf y cwmni yn agor yn 2025.

hands holding hands, supporting bodies

Ers 2021, rydw i wedi bod yn gofyn i mi fy hun beth yn union y gall cwmni dawns cenedlaethol fod. Sut y gallwn ddatblygu potensial ei strwythur fel rhywle ar gyfer lleisiau niferus? Sut y gall hyn adlewyrchu’n well y byd a rannwn nawr? Mae hyn oll wedi newid y pethau a gaiff eu creu gan y cwmni, â phwy rydym yn gweithio, a’n proffil artistig rhyngwladol. Rydym yn rhywle ar gyfer artistiaid sydd wedi ennill eu plwyf, ond rydym hefyd yn rhywle ar gyfer artistiaid newydd. Rhywle lle gellir cymryd risgiau a llywio’r dyfodol. Mae rhaglen 2025 wedi cael ei llywio gan y cwestiynau hyn a’m myfyrdodau dros y cyfnod hwn.

Er mwyn bod yn gyfoes, mae’r cwmni’n adlewyrchu’r presennol; ond mae pethau wastad yn newid, felly rhaid parhau â’r gwaith. Gobeithio y bydd modd i Gwmni Dawns Cenedlaethol Cymru barhau i symud yn ei flaen, gan gyflwyno cynulleidfaoedd i lu o leisiau artistig newydd ymhell i’r dyfodol.

Matthew William Robinson – Cyfarwyddwr Artistig Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru

Matthew william robinson

Llun: Kirsten McTernan, Jorge Lizalde, Foteini Christofilopoulou, Anest Roberts