four artists headshots with blue and orange treatment and the text 4X10

4X10

Mae 4X10 yn un o’n prosiectau pwysig yn ystod ein deugeinfed flwyddyn. Mae’n gysyniad newydd arwyddocaol o fewn ein rhaglen, sy’n ein galluogi i gynhyrchu a chyflwyno gwaith newydd ac unigryw gan ein Hartistiaid Cyswllt ac artistiaid gwadd.

Pedwar darn o waith newydd gan artistiaid sy'n dylanwadu ar y ffordd rydym yn gweld Cymru gyfoes - pob un mewn ffordd wahanol ac o safbwynt gwahanol.
Mae hefyd yn blatfform i wella’r doniau ifanc sy’n bodoli o fewn rhaglen Aelodau Cyswllt Ifanc CDCCymru, yn eu gosod ochr yn ochr â chwmni proffesiynol o ddawnswyr, ac yn cynnig cyfle unigryw i gyd-greu gyda Matthew Robinson, Cyfarwyddwr Artistig CDCCymru.

Un agwedd yn unig yw 4X10 ar y dawnsfeydd rydym yn eu creu ac yn eu rhannu â phobl ledled Cymru a’r byd. O ddawnsio gyda phobl sy’n byw â Parkinson’s i ysbrydoli pobl ifanc i roi cynnig ar ddawnsio drostynt eu hunain, rydym yn dawnsio er mwyn galluogi pobl i fynegi syniadau sydd y tu hwnt i eiriau. Os ydych chithau hefyd yn danbaid dros ddawnsio, ymunwch â ni yma

Diolch o galon i Gyngor Celfyddydau Cymru, ymddiriedolwyr Ymddiriedolaeth Elusennol Colwinston am gefnogi 4X10, The Darkley Trust a The Leche Trust. Diolch hefyd i’n cefnogwyr Lifft – rydym yn gwerthfawrogi’n fawr.
 

Tîm Cynhyrchu 4X10 

Tîm Technegol: Geraint Chinnock, Will Lewis
Cyfarwyddwr Artistig: Matthew Robinson
Cynyrchydd Gweithredol: Chris Ricketts
Cynhyrchydd Lleoliadau (RWCMD): Ann Li
Cyfarwyddyr Ymarfer: Victoria Roberts
Prif Weithredwr: Paul Kaynes
Dylunio Gwisgoedd: Layla Zheng 
Hebryngwr: Sarah Chew, Tracey Cogan, Serena Thomas 

a Tîm CDCCymru

Akin | Perthyn: Daisy Howell

Cerddoriaeth:
Spirit – Jack Larsen
Have You Decided? - Ruthven


Perfformiad:
Mario Manara, Niamh Keeling, Luca Chiodini

Gyda diolch i: My Sisters

holding image
Daisy headshot

Mae Daisy Howell yn goreograffydd, cyfarwyddwr a pherfformiwr yn wreiddiol o Wrecsam, gogledd Cymru, a dechreuodd ei hyfforddiant dawns trwy North East Dance (NEW Dance) a Dawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru, cyn hyfforddi yn y Northern School of Contemporary Dance, lle derbyniodd ei MA mewn Perfformiad ar ôl teithio gyda VERVE yn 2018. Mae hi wedi gweithio fel Dawnsiwr Llawrydd, Coreograffydd a Darlithydd am y 5 mlynedd diwethaf a bu’n Gyd-Gyfarwyddwr Night People Events, gan weithio mewn partneriaeth â’r Cyd-Gyfarwyddwr, Aaron Howell, ers creu’r Cwmni swyddogol yn 2020.

Mae Daisy hefyd yn Gydlynydd Cynllun Hyfforddiant The Lowry Centre, sy’n arwain ar gyflwyno'r rhaglen mewn modd gweithredol ac artistig. Hi hefyd yw Uwch Arweinydd a Darlithydd Gwadd Cwmni Chameleon ar gyfer rhaglenni MA Prifysgol Salford/rhaglenni Emergence. Mae hi wedi bod yn brif gynhyrchydd ar gyfer Platfform Gŵyl Genedlaethol U.Dance Gogledd Cymru 2022 a 2023, ochr yn ochr â chefnogi artistiaid lleol, rhanbarthol trwy ei gwaith cynhyrchu.

Imprint: June Campbell-Davies

Cerddoriaeth: 
Atair - Armand Amar
Fur Alina arr. Pat Metheny for 42 Strings - Arvo Pärt

Perfformiad:

Alys Davies, Jill Goh, Riz Golden, Vito Vidovič Bintchende

holding image
June Campbell-Davies headshot

Mae June yn ddawnsiwr, coreograffydd ac Artist Carnifal sydd wedi'i lleoli yng Nghaerdydd. Wedi'i hyfforddi yn y Laban Centre for Movement & Dance yn Llundain. Mae wedi gweithio yn addysgu myfyrwyr addysg uwch yn Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, Prifysgol Metropolitan Caerdydd ac ar gwrs dawns llawn amser a rhaglen estyn allan Rubicon Dance. Ers dechrau SWICA (South Wales Intercultural Carnival Arts) yn 2015, mae ei phrofiad o ymgynghorydd a hwylusydd mewn Celfyddydau Carnifal wedi arwain at gydweithrediadau newydd gyda Carnifal Butetown/Eisteddfod 'Carnifal y Môr' a rhaglen ymgysylltu â pherfformiad Canolfan Mileniwm Cymru.' 

Hyd heddiw mae June ynghlwm â sawl sefydliad a phrosiect llai, yn arwain sesiynau symudedd ochr yn ochr â hwyluswyr eraill ar gyfer y tîm Breathe Creative dan Gyfarwyddyd Alex Bowen yn canolbwyntio ar y celfyddydau a llesiant ar gyfer eu rhaglenni estyn allan. 

Ar gyfer Côr Un Byd Oasis – mae hi'n gwirfoddoli i arwain sesiynau rheolaidd o fewn rhaglenni'r Ganolfan Oasis, yn arwain sesiynau symudedd ar gyfer Ceiswyr lloches a Ffoaduriaid. 

 

GO: Matthew Robinson

Cyfansoddwyd gan:
Ed Myhill

Perfformiad a Chyd-Greu:
Chloe Harrison, Claire Irwin, Eluned Owen, Maddyson Taylor , Magdalena Lacey-Hughes, Maisy Dodd, Mariella Cass, Millie Smith, Morgan Tod, Phoebe Clark, Seren Powell, Sophia Jones, Tegan Kocker

holding image
matthew robinson headshot

Mae Matthew ymunodd â Chwmni Dawns Cenedlaethol Cymru fel Cyfarwyddwr Artistig ym mis Medi 2021. Am nifer o flynyddoedd roedd yn rhan o Theatr Ddawns yr Alban.
Yn 2013 cafodd ei wahodd i gymryd cyfrifoldebau fel Cyfarwyddwr Ymarferion, yn cefnogi’r dawnswyr a’r artistiaid gwadd yn eu proses greadigol, a’r cwmni ar sawl taith ryngwladol.  Yn 2016 cefodd ei benodi’n Gyfarwyddwr Artistig VERVE.

Fel artist mae’n ceisio trosglwyddo croesosodiadau a theimladau cymhleth trwy adeiladwaith coreograffi beiddgar a chorfforol sydd â sawl haen emosiynol. Mae’n creu ei waith artistig fy hun mewn cyd-destunau annibynnol, cydweithredol a thrwy gomisiynau. 

GO gan Matthew Robinson 

Perfformiwyd gan CDCCymru Aelodau Cyswllt Ifanc

Dylunio Gwisgoedd: Layla Zheng
CyfansoddwrEd Myhill
Dylunio Gloeuo: Matthew Robinson

 

UN3D: Osian Meilir  

Cerddoriaeth:
Synchronicity  - The Police
Unison - Björk

Perfformiad:

Faye Tan, Paulina Porwollik, Samuel Gilovitz

holding image
Osian Meilir headshot

Mae Osian Meilir yn berfformiwr, creawdwr dawns ac artist symudedd wedi'i leoli yng Nghymru. Ac yntau'n wreiddiol o Bentre'r Bryn, ar arfordir gorllewinol Cymru, aeth Meilir ymlaen i dderbyn hyfforddiant yn Trinity Laban Conservatoire of Music and Dance, gan ennill gradd mewn Dawns Gyfoes, cyn parhau i astudio a chwblhau gradd M.A. mewn Perfformio Dawns fel rhan o Transitions Dance Company.  

Mae gwaith Meilir fel perfformiwr yn golygu eu bod wedi cael cyfle i weithio gydag amrywiaeth o artistiaid a chwmnïau ledled y DU. Aethant ati i gynnal ei gynhyrchiad cyntaf ar raddfa ganolig sef 'Qwerin', fel cyfarwyddwr a choreograffydd yn 2021 ac mae ganddynt hefyd brofiad helaeth o arwain gweithdai a dosbarthiadau ar gyfer plant a phobl ifanc.  

Mae profiadau cynnar iawn a chefndir Meilir o ddawns werin Gymreig wedi arwain at eu gwerthfawrogiad o ddawns o ddiwylliannau amrywiol, a mwynhau sut all dawns feithrin cysylltiadau ystyrlon rhwng pobl o bob cwr o'r byd. 

Cefnogir: 

Colwinston logo with mouse         The Leche Trust     Darkley Trust and logo