younh girl holding a mic
CDCCymru yn Cyflwyno

Tu Hwnt i'r Gofyn ym Mhenrhys

Mae prosiect Above & Beyond yn ei bumed flwyddyn erbyn hyn. 

above and beyond logo

Cefnogir gan: 

funder logos

Adolygiadau

“Maen nhw [yr hwyluswyr] yn gwneud llawer iawn i'r plant.  Maen nhw'n wirioneddol dda.”

“Dwi'n gwirfoddoli erbyn hyn ac mae wedi fy helpu’n aruthrol ers y golled....mae’n fy helpu i deimlo’n dda wedyn”

“Mae R bob amser adref ar ei Xbox.  Ond pan mae’n gwybod bod 'na sesiynau bît-bocsio neu parkour mae'n mynd yno'n syth”

“Weithiau fydda i ddim yn mynd o’r tŷ drwy’r wythnos.  Mi fyddwn ni’n edrych ymlaen at ddydd Mercher, pan fyddwn ni'n mynd i’r grŵp babis.  Dyma'r unig beth sy'n ein cael ni allan o’r tŷ"

“Heb Above & Beyond, fyddai gennym ni ddim byd”

“Mae ei hyder hi'n disgleirio, diolch i hyn. Mae hi wedi gwneud llawer o ffrindiau”

“Mae’n helpu [fy mab] i fod yn fo ei hun”

ABOVE & BEYOND YM MHENRHYS

Mae Above & Beyond yn dod â chymuned Penrhys a phartneriaid ac artistiaid lleol at ei gilydd. 

Nod Above & Beyond yw rhannu adnoddau gyda chymuned Penrhys – yn enwedig pobl ifanc – drwy weithgareddau diwylliannol.

Rydym yn gwneud ein gorau glas i sicrhau bod lleisiau lleol yn cael eu clywed, ac yn helpu i greu dyfodol cadarnhaol.

Rydym yn awyddus i gyfrannu at newid y ffordd mae’r trigolion yn byw ac yn mynegi eu hunain drwy ddulliau creadigol, gan ddefnyddio’r celfyddydau fel ffordd o hunan-rymuso a sicrhau newid cymdeithasol.

Mae prosiect Above & Beyond yn ei bumed flwyddyn erbyn hyn. 
Byddwn yn cynnal sesiynau symud wythnosol ar gyfer pob oedran, gan gynnwys sesiynau ar gyfer babis a phlant bach, symudiadau i oedolion, clybiau ar ôl ysgol a chaffis min nos, yn ogystal ag academi arbennig i bobl ifanc – yr Amped Up Academy – sef grŵp perfformio sydd wedi cael ei siapio gan hoff bethau'r gymuned.


Yr artistiaid, Sandra a Kyle, sy'n arwain Above & Beyond. Nhw sydd wrthi'n brysur yn gweithio gyda’r gymuned bob wythnos. Mae Sandra Harnisch-Lacey yn goreograffydd ac yn artist parkour a dawns, ac mae Kyle Stead yn berfformiwr, yn artist symudiad ac yn creu darnau i’r theatr yn ardal Rhondda Cynon Taf.

Mewn pum mlynedd, mae Above & Beyond wedi cyflwyno tri chyfnod preswyl mewn partneriaeth â phrosiect Sparc Plant y Cymoedd a Tŷ Cerdd, yn ogystal â thri Diwrnod Hwyl yn y gymuned. Mae’r Diwrnodau Hwyl blynyddol yn ddathliad o’r celfyddydau i bawb yng nghymuned Penrhys, gyda pherfformiadau, bwyd, gweithdai dawns, theatr a cherddoriaeth a gweithgareddau crefft.

Mae Above & Beyond hefyd wedi ffurfio partneriaeth gyda myfyrwyr Llwybrau Dawns Prifysgol Metropolitan Caerdydd, a bu’r myfyrwyr yn perfformio a chyflwyno gweithdai ar gyfer y bobl ifanc. Bydd Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru yn ymweld â Phenrhys yn gyson hefyd ar gyfer gweithdai a pherfformiadau yn y gymuned ac yn yr ysgol gynradd.
Mae’r gymuned gyfan hefyd wedi mwynhau teithiau i Gaerdydd i weld perfformiadau ac i gymryd rhan mewn gweithdai dawns,
gyda chludiant am ddim.

Amped Up Academy

Academi wythnosol a gynhelir ar ôl ysgol yw’r Amped Up Academy, lle caiff pobl ifanc brofi’r celfyddydau yn eu ffordd eu hunain. Ar hyn o bryd, mae’r sesiynau'n canolbwyntio ar ddawns, parkour a bît-bocsio; popeth y dywedodd y cyfranwyr wrthym eu bod yn awyddus i’w dysgu. Bydd yr Academi yn mynd i ddosbarthiadau a gweithdai hefyd, yn ogystal â pherfformio.

Ers iddi gael ei sefydlu, bu perfformiadau yn Theatr y Sherman, Capel Soar, Penygraig, Gŵyl Gelfyddydau Rhondda Cynon Taf (RAFT) a’r Eisteddfod Genedlaethol.

Bydd yr Academi hefyd yn croesawu Artistiaid Gwadd yn gyson, fel Dean Yhnell y Bît-bocsiwr, i gyflwyno dosbarthiadau meistr a chyd-greu perfformiadau gyda’r bobl ifanc. Mae Dean wedi bod yn hwylusydd rheolaidd ac ysbrydoledig i’r grŵp dros y blynyddoedd, ac rydym wedi gweld sut mae Parkour a Bît-bocsio’n priodi’n dda â’i gilydd. Mae’r ddau yn fathau poblogaidd o gelfyddyd y mae’r bobl ifanc yn eu mwynhau drwy’r rhaglen.

two children performing, dancing and smiling

Beth sydd ar y gweill:

Mae Above & Beyond wedi'u lleoli ym Mhenrhys, lle byddwn yn cynnig gweithgareddau rhad ac am ddim bob wythnos yn ystod y tymor ar gyfer pob oedran, a hynny yn Eglwys Unedig Llanfair, sydd bob amser yn barod i groesawu pawb.
Mae’r gweithgareddau am ddim, a does dim angen archebu lle, dim ond dod draw.

Mae’r gweithgareddau rheolaidd yn cynnwys:

Babis a Phlant Bach: 0-3 oed

Dydd Mercher - 11-12:30pm
Eglwys Unedig Llanfair, Penrhys
Chwarae, canu, crefftau a symud gyda Sandra

Symud iachus: Croeso i oedolion o bob oed

Dydd Mercher - 1:30-2:30pm
Eglwys Unedig Llanfair, Penrhys
Awr i chi eich hun i symud, ymestyn ac anadlu gyda Sandra

Academi ar ôl ysgol: Ar gyfer plant rhwng 7 ac 11 oed

Dydd Mercher - 3:15-4pm
Ysgol Gynradd Penrhys
Ymunwch â’r academi wythnosol lle byddwn yn mwynhau Dawns Parkour a gweithgareddau eraill sy'n seiliedig ar y celfyddydau. Ar agor i ddisgyblion Ysgol Gynradd Penrhys sy'n awyddus i ddysgu sgiliau newydd, gwneud ffrindiau newydd a bod yn greadigol gyda Sandra a Kyle.

Caffi min nos:  Plant a phobl ifanc (7 oed a hŷn)

Dydd Mercher – 5.15-7pm
Neuadd Eglwys Unedig Llanfair
Ymunwch â ni! Gyda’n gilydd cawn gyfle i fwynhau Dawns-Parkour, sy'n aml yn cyd-fynd â Bît-bocsio, yn ogystal â Drama, Canu a ffurfiau eraill o'r celfyddydau hefyd o bryd i’w gilydd. Dysgwch sut mae rowlio a neidio, a dod i ddeall beth yw ‘kick drum’ a ‘high hat’!
Bydd cyfle i greu perfformiad gyda Sandra a Kyle – byddwch yn barod i ymarfer a pherfformio! 

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am Above & Beyond, neu unrhyw un o'r sesiynau, mae croeso i chi anfon e-bost at maris@ndcwales.co.uk

E-bost

 

Galeri
young boy and man in yellow tshirts
young people sat on floor stretching to touch their toes
Group of young people, one boy looking to camera
woman in yellow tshirt blowing a bubble
young girl talking in to mic
young girl doing a drawing
young girl speaking in to mic
sandra has an open expression and shoulder length blonde hair pulled back

Sandra Harnisch-Lacey, Artist Arweiniol a Chyd-gynhyrchydd

Mae Sandra Harnisch-Lacey yn goreograffydd, yn artist dawns ac yn addysgwr sydd wedi cael Dyfarniad Cymru Greadigol Cyngor Celfyddydau Cymru. Mae hi wedi darlithio ym maes dawns mewn gwahanol sefydliadau addysg uwch. 

Mae ei chwmni dawns, Harnisch-Lacey Dance, wedi ennill gwobrau ac wedi teithio ledled Ewrop. Mae'n cynnig rhaglen eang o brosiectau cyfranogi ac addysg mewn ysgolion, prifysgolion a chanolfannau cymunedol.

Yn ddiweddar, mae hi wedi bod yn gweithio fel artist dawns i’r GIG, yn gweithio gydag oedolion sydd ar restrau aros y GIG. Ar hyn o bryd, mae hi’n gweithio gyda Chwmni Dawns Cenedlaethol Cymru ar brosiect newid cymdeithasol a grymuso cymdeithasol hirdymor drwy’r celfyddydau yng nghymuned Penrhys. Hi oedd yr artist arweiniol ar ‘Llais y Babi’, prosiect a gynhaliwyd gan Fwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg, lle bu'n datblygu mynegiadau creadigol pwrpasol i feithrin y berthynas rhwng rhieni a’u plant. Mae hi hefyd yn cyflwyno sesiynau dawns i oedolion hŷn ar gyfer Re-engage ac yn Asiant Creadigol i Gyngor Celfyddydau Cymru.

www.harnischlacey.com

@Harnischlacey (Instagram ac X ) @Harnisch-Lacey Dance (Facebook)

llun: Donata Kukyte

Kyle has short ginger hair and a neat but full ginger beard and kind eyes

Kyle Stead (he/him), Lead Artist & Co-Producer

Kyle Stead (ef), Artist Arweiniol a Chyd-gynhyrchydd

Cafodd Kyle ei eni yng Nghwm Rhondda, De Cymru. Mae’n artist amlddisgyblaethol niwrowahanol o’r dosbarth budd-daliadau

Mae ei waith yn cynnwys perfformio, creu darnau theatr, cynhyrchu creadigol, cynhyrchu cyfryngau a hwyluso, ymhlith pethau eraill.

Mae ganddo lawer o ddiddordeb mewn cymryd profiadau bywyd go iawn i greu gwaith sy'n rhoi i gynulleidfaoedd gipolwg digyfaddawd, cignoeth a realistig o’r byd sy'n cael ei greu. 

Mae Kyle yn angerddol am greu amgylcheddau gwaith sy’n ystyriol o drawma.  Mae hyn yn bwysig er mwyn mynd ati i archwilio’n feiddgar a bod yn ddewr gyda dewisiadau creadigol. 

Mae’n awyddus i frwydro yn erbyn tangynrychiolaeth artistiaid o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol isel ac yn edrych ar wella amodau gwaith i unigolion niwrowahanol.

Fel rhywun a adawodd yr ysgol yn gynnar, mae Kyle yn angerddol am addysg amgen ac yn defnyddio'r diwydiant creadigol fel lle i ddarganfod, arbrofi a dathlu. 

Derbyniodd Kyle Fwrsariaeth Greadigol Weston Jerwood 2020-2022.

www.kylestead.co.uk

@Kyle_Stead (Instagram ac X, sef Twitter yn flaenorol)

 

funder & partner logos